GradFest21 Creadigol: O ffermio i ddodrefn – mae Ellyw yn barod ar gyfer y diwydiant dylunio
30 Mehefin, 2021
Mae'r fyfyrwraig Dylunio Mewnol Ellyw Jones ar fin graddio o Brifysgol De Cymru (PDC) ac mae eisoes wedi dechrau gweithio fel dylunydd llawrydd. Yn rhan o GradFest21 Creadigol, dyma Ellyw, sydd o'r Trallwng yng nghanolbarth Cymru, yn sôn mwy am ei chyfnod yn PDC.
Pam wnaethoch chi ddewis PDC?
"Dewisais astudio yn PDC oherwydd roeddwn wrth fy modd gyda'r creadigrwydd a'r safonau uchel oedd mor amlwg yn y Brifysgol drwyddi draw. Diwrnod Agored PDC hefyd oedd y Diwrnod Agored gorau i fi fynd iddo, ac roeddwn wrth fy modd bod darlithydd y cwrs yn gallu siarad Cymraeg, gan mai’r Gymraeg yw fy iaith gyntaf ac roeddwn i'n teimlo bod hynny’n cael ei barchu gydol y cyfnod yn astudio.
Ydych chi wastad wedi eisiau gweithio yn y maes dylunio?
Ydw, rwyf bob amser wedi bod eisiau gweithio yn y maes dylunio gan fy mod bob amser wedi cael teimlad o ymgysylltiad o fewn y maes gwaith hwn. Rwy'n byw ar fferm ger y Trallwng, mewn cwm bach o'r enw Cwm-Nant-yr-Eira, felly mae'r sector hwn ychydig yn wahanol i fy mywyd cartref!
Sut mae'r cwrs wedi eich paratoi ar gyfer y diwydiant?
Mae'r cwrs wedi fy mharatoi'n fawr iawn i lwyddo yn y diwydiant, gan ein bod ni wedi gallu gweithio ar brosiectau byw amrywiol gyda chleientiaid go iawn, a chael cyfle i gydweithio ac arddangos ein gwaith i gwmnïau Dylunio Mewnol yng Nghaerdydd, gan gynnwys Paramount Interiors.
Roedd gallu gweithio gyda phobl o'r diwydiant yn gynnar yn y cwrs yn fodd i ddod i wybod pa ddisgwyliadau oedd gan y diwydiant, ac roedd hynny wir yn ysgogiad i fi i lwyddo.
Yn ogystal â hyn, mae'r cwrs yn cynnig blwyddyn lleoliad i bob myfyriwr ar ôl cwblhau'r ail flwyddyn, a bues i’n ddigon ffodus i dreulio cyfnod gyda Studio Severn Design yng Nghaerdydd. Roedd y profiad hwn hefyd yn fuddiol iawn gan iddo fy nghyflwyno i amryw o elfennau dylunio oedd yn newydd i fi, ac ehangu fy ngwybodaeth yn fawr. Bydda i’n ddiolchgar am hynny am byth. Bues i’n ddigon ffodus i barhau i weithio gyda'r cwmni drwy gydol fy mlwyddyn olaf yn y Brifysgol, ac fe ddysgodd fi sut i gael cydbwysedd rhwng gweithio ac astudio.
Beth sydd nesaf i chi ar ôl graddio?
Rwyf wedi dechrau gweithio’n llawrydd i amryw o ddylunwyr a stiwdios dylunio bach, ac mae hynny’n gyffrous iawn. Hoffwn ddatblygu fel dylunydd a chael profiad o wahanol agweddau ar ddylunio drwy weithio’n llawrydd am y tro.
Unrhyw gyngor i rywun sydd eisiau astudio dylunio a gweithio yn y diwydiant?
Byddwn yn argymell yn gryf eich bod yn bachu ar bob cyfle posibl i gael profiad, hyd yn oed am ychydig oriau! A pheidiwch â bod ofn gofyn cwestiynau; mae dysgu drwy’r amser yn beth da."