Y Gweinidog Addysg yn dweud wrth fyfyrwyr addysgu eu bod yn mynd i’r proffesiwn ar adeg gyffrous yng Nghymru
18 Chwefror, 2022
Jeremy Miles, Gweinidog Addysg a'r Gymraeg Llywodraeth Cymru
Ddoe (17 Chwefror), bu Jeremy Miles, Gweinidog Addysg a'r Gymraeg Llywodraeth Cymru yn annerch myfyrwyr addysg, blynyddoedd cynnar, a gwaith ieuenctid a chymunedol Prifysgol De Cymru.
Agorodd Dr Ben Calvert, Is-Ganghellor PDC, y digwyddiad rhithwir, gan groesawu cydweithwyr, myfyrwyr a'r Gweinidog. Dywedodd "Fel athrawon, rydych chi'n ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf ac yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Mae'r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi bod yn heriol ac mae llawer ohonoch wedi bod ar y rheng flaen, yn cefnogi dysgu plant yn ogystal â'u hiechyd a'u lles.
"Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bob un ohonoch am eich ymdrechion."
Dan gadeiryddiaeth Jamie James, Pennaeth yr Ysgol Addysg, Blynyddoedd Cynnar a Gwaith Cymdeithasol, siaradodd y Gweinidog yn uniongyrchol ag addysgwyr y dyfodol, ac yna cynhaliwyd sesiwn holi ac ateb.
Dywedodd Jeremy Miles:
"Athrawon sy'n ein helpu i adeiladu'r system addysg y mae ein pobl ifanc yn ei haeddu yng Nghymru. Mae gan addysg ysbrydoledig a chefnogol y potensial i newid bywydau'n ddramatig. Rwyf am gael system yng Nghymru sy'n helpu pob dysgwr i gael y wybodaeth a'r sgiliau i gyrraedd eu llawn botensial. Mae hynny'n dechrau yma gyda chi.
"Rwy'n credu y dylai'r hyn rydyn ni'n ei addysgu adlewyrchu ein cenedl. Mae'r cwricwlwm newydd i Gymru yn cael ei lansio ym mis Medi i helpu pobl ifanc i wneud cysylltiadau'n lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, fel y gall plant werthfawrogi eu hunaniaeth a'u hanesion amrywiol.
"Rydych chi'n mynd i'r proffesiwn ar adeg gyffrous iawn."
Fel rhan o'r sesiwn holi ac ateb ac ar ran myfyrwyr Addysg Gychwynnol Athrawon PDC, gofynnodd Jamie James:
"Gyda'r trafodaethau presennol ynghylch diwygio'r flwyddyn ysgol a hyd y diwrnod ysgol, pa ymchwil sydd wedi'i gwneud i wybod beth yw’r effeithiau cadarnhaol a negyddol ar yr holl randdeiliaid (disgyblion, staff, teuluoedd)?"
Ymatebodd Jeremy Miles:
"Mae llawer iawn o ymchwil a thystiolaeth ar y pwnc hwn yn y DU ac yn rhyngwladol. Rydym ar adeg dyngedfennol o ran ail-ymgysylltu dysgwyr â dysgu a sicrhau bod ein dysgwyr yn cael y cyfleoedd gorau posibl. Mae hon yn gyfres o dreialau, a byddwn yn dysgu pethau ganddynt.
"Rwy'n annog pob partner yn y system addysg i edrych ar ganlyniadau'r treialu a byddwn yn eu hystyried gyda'n gilydd. Mae hwn yn gyfle cyffrous i edrych yn greadigol ar y system. Mae'r byd wedi symud yn ei flaen ac mae angen i ni herio ein rhagdybiaethau."