Hanesion Graddio: “Wnes i erioed freuddwydio y byddwn i’n mynd i’r brifysgol – nawr rydw i’n barafeddyg gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf”

5 Ebrill, 2022

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Ceri_Evans_Public_Services_graduate.jpg

Yr wythnos hon bydd Canolfan Gynadledda Rhyngwladol Cymru yng Nghasnewydd yn gweld miloedd o’n graddedigion o 2020 a 2021 o’r diwedd yn croesi’r llwyfan yn eu cap a’u gŵn. I nodi dychweliad ein seremonïau graddio, rydym yn rhannu storïau rhai o’n myfyrwyr ysbrydoledig.

Mae Ceri Evans, sy’n fam sengl i dri o blant, yn graddio o Brifysgol De Cymru (PDC) yr wythnos hon gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Gwasanaethau Cyhoeddus – ar yr un pryd â graddio mewn Gwyddor Barafeddygol o Brifysgol Abertawe.

Bu i’r fenyw 42 oed ffoi o briodas, lle’r oedd yn cael ei cham-drin, chwe blynedd yn ôl, a phenderfynodd symud gyda’i merched i gartref newydd i ganolbwyntio ar ailadeiladu eu bywydau.

Ar ôl sgwrs ar hap gyda thiwtor coleg, gwnaeth Ceri y penderfyniad a newidiodd ei bywyd i ddychwelyd i addysg, a chychwynnodd HND dwy flynedd mewn Gwasanaethau Cyhoeddus ac Argyfwng yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr.

“Bu i fy mam fy magu i a fy mrawd ar ei phen ei hun, a fflat un ystafell oedd ein cartref cyntaf,” meddai Ceri, a gafodd ei magu ym Mhentwyn, Caerdydd ac sydd bellach yn byw yng Nghoety, Pen-y-bont ar Ogwr.

“Nid oedd gennym freuddwydion o fynd i’r brifysgol oherwydd ni wnaeth neb hynny erioed; ni chafodd ei ddrilio ynom fel sy’n digwydd heddiw.

“Daeth y trobwynt pan es i drwy doriad perthynas cas. Roeddwn yn dioddef cam-drin yn y briodas ac aeth yn berthynas ymfflamychol, i'r pwynt lle ces i fy nheiars wedi'u torri, pethau felly. Daeth bywyd yn anodd iawn ac nid oedd yn ymddangos bod unrhyw beth yn gwneud synnwyr.

“Penderfynais yn hytrach na meddwl am y pethau ofnadwy oedd wedi digwydd, y gallwn symud allan a cheisio gwneud rhywbeth gyda fy mywyd. Ar y pryd roeddwn yn gwirfoddoli i’r gwasanaeth ambiwlans fel Ymatebwr Cyntaf Cymunedol (CFR) i weld a oedd hynny’n rhywbeth yr oeddwn am ei ddilyn, felly ar ôl sgwrs galonogol gyda Tony Lloyd yng ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr, llwyddais i ddilyn fy llwybr gyrfa breuddwydiol o’r diwedd.”

Tra oedd Ceri yn y coleg, gwnaeth gais i astudio Gwyddor Barafeddygol ym Mhrifysgol Abertawe – cwrs hynod gystadleuol i fynd i mewn iddo – a phan gafodd gynnig lle, penderfynodd fachu ar y cyfle.

Yna, yn ei blwyddyn olaf, derbyniwyd Ceri i'r ysbyty a daliodd sepsis. Gydag un arholiad yn unig ar ôl, safodd yr arholiad a methodd ar un cwestiwn, ond ar ôl apelio yn erbyn y canlyniad, llwyddodd i ailsefyll o dan yr amodau arholiad cywir a phasiodd ei gradd.

“Ar ôl i mi basio, roedd dal angen i mi gwblhau fy Nhystysgrif mewn Gyrru Ambiwlans Ymateb Brys (L3CERAD), neu’r cwrs ‘golau glas’ fel y’i gelwir yn gyffredin, i gymhwyso fel parafeddyg,” meddai Ceri.

“Nid oedd y cwrs L3CERAD nesaf ar gael tan y mis Awst canlynol, felly yn y cyfamser penderfynais ychwanegu at fy ngradd, a gwnes gais i astudio Gwasanaethau Cyhoeddus ym Mhrifysgol De Cymru.”

Cydbwysodd Ceri astudiaeth amser llawn ochr yn ochr â gweithio fel swyddog traffig yn SWTRA (Asiant Cefnffyrdd De Cymru), y cwmni sy'n gyfrifol am reoli traffyrdd a chefnffyrdd yn Ne Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.

Roedd hi hefyd yn cefnogi ei merched trwy wahanol gamau yn eu hastudiaethau. Mae disgwyl i’w phlentyn hynaf, Courtney, sy’n 21 oed, raddio o Brifysgol Abertawe mewn Cyfrifeg a Chyllid yr haf hwn, tra bydd Kacey, sy’n 19 oed, yn dechrau ei gradd Addysgu ym Met Caerdydd ym mis Medi, ac mae Erin, sy’n 14 oed ym Mlwyddyn 10 yn Ysgol Gyfun Brynteg.

“Mae’r merched yn fy ngwneud i mor falch,” meddai Ceri. “Maen nhw mor gefnogol ac wedi bod yn graig i mi drwy’r cyfan. Wrth edrych yn ôl, fe wnaethon nhw golli allan llawer tra roeddwn i'n astudio gan nad oeddwn i bob amser yn gallu gwneud popeth yn ariannol, ond gobeithio fy mod i wedi dangos iddyn nhw y gallwch chi gyflawni unrhyw beth os byddwch chi’n rhoi’ch bryd arno."

Yn syth ar ôl gorffen ei hastudiaethau yn 2020, dechreuodd Ceri weithio i Wasanaethau Ambiwlans Cymru, ac mae wedi bod ar y rheng flaen trwy gydol pandemig COVID-19. Mae hi hefyd yn gynghorydd tref a chymuned leol i Ben-y-bont ar Ogwr, ac wedi defnyddio ei phrofiad i ysbrydoli eraill i gael lle mewn prifysgol.

Ac nid yw Ceri wedi gorffen astudio eto – mae hi ar fin cychwyn ar y radd MSc Uwch Ymarferydd Clinigol ym Mhrifysgol De Cymru y flwyddyn nesaf.

“Rwyf mor ddiolchgar i’r darlithwyr yn PDC, a oedd yn wych,” meddai. “Wrth edrych yn ôl, mae'n debyg i mi ddefnyddio'r brifysgol fel mecanwaith ymdopi ar ôl i'm priodas chwalu, oherwydd fe helpodd fi i ganolbwyntio ar rywbeth cadarnhaol a oedd yn mynd i roi bywyd mwy sefydlog i mi a'm merched.

“Ces i gymaint o sioc o ddarganfod y byddwn i’n graddio gydag anrhydedd dosbarth cyntaf. Nid yw pobl fel fi hyd yn oed yn mynd i'r brifysgol, heb sôn am ennill y graddau uchaf!

“Roedd yn emosiynol iawn sylweddoli bod fy holl waith caled wedi bod yn werth chweil. Nid yw llawer o bobl yn sylweddoli’r hyn y gallant ei gyflawni, nes bod rhywun yn rhoi cyfle iddynt.”