Mae Polisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol De Cymru ar y brig yng Nghymru ar gyfer cymuned dysgu - AROLWG CENEDLAETHOL O FYFYRWYR 2022
Mae gwasanaethau cyhoeddus yn effeithio ar ein bywydau o ddydd i ddydd mewn sawl ffordd; o gasglu sbwriel i adfywio cymunedol, a'r amddiffyniad a ddarperir gan y gwasanaethau brys a'r gwasanaeth iechyd. Ar y cwrs gwasanaethau cyhoeddus hwn, byddwch yn archwilio sut mae'r gwasanaethau hyn yn gweithredu a'r heriau sy'n eu hwynebu yn yr 21ain ganrif, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa yn y sector pwysig ac amrywiol hwn.
Nodwedd allweddol o'ch gradd gwasanaethau cyhoeddus yw'r cysylltiad rhwng theori ac ymarfer.
Mae dysgu yn aml yn seiliedig ar ddata bywyd go iawn, yn ogystal ag enghreifftiau ac astudiaethau achos gan sefydliadau cyhoeddus, gwirfoddol a chymunedol. Mae hyn yn sicrhau bod yr hyn rydych chi'n ei ddysgu yn berthnasol i'r gweithle a'r sefyllfaoedd y gallech chi ddod ar eu traws pan fyddwch chi'n graddio.
Fe'ch anogir hefyd i ymgymryd â lleoliad tymor byr yn ystod eich astudiaethau. Gallech gael cyfle i weithio gyda sefydliadau sector cyhoeddus fel y GIG. Bydd y cyfle gwerthfawr hwn yn sicrhau bod gennych y sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr pan fyddwch yn graddio. Dilynwch ni ar Twitter.
2022 | Cod UCAS | Modd Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
L430 | Llawn amser | 3 blynedd | Medi | Trefforest | A | |
2023 | Cod UCAS | Modd Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
L430 | Llawn amser | 3 blynedd | Medi | Trefforest | A |
CYRSIAU CYSYLLTIEDIG

Mae Campws Pontypridd yn cynnwys dau safle: Trefforest a Glyntaff. Mae ein myfyrwyr wrth eu bodd â'r awyrgylch cymunedol, yn ogystal â byw ac astudio yn yr un lle. Mae'n dawelach na'r dinasoedd, gyda mannau agored gwyrdd a golygfeydd ar draws y cwm.

Y gymuned a'r cyfeillgarwch y byddwch chi'n ei adeiladu sy'n gwneud y lle hwn yn arbennig. Y tu allan i'ch astudiaethau gallwch brofi ein cyfleusterau chwaraeon anhygoel ac Undeb y Myfyrwyr.

Mae byw mewn Neuaddau yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau. Mae gennym lety o ansawdd uchel yn Treforest, Caerdydd a Chasnewydd.