Hanesion Graddio | Callum yn rhagori ar ei ddisgwyliadau academaidd ei hun
22 Gorffennaf, 2022
Mae Callum Jordan, o Rotherham, yn graddio o Brifysgol De Cymru (PDC) yr wythnos hon gydag anrhydedd dosbarth cyntaf o BSc (Anrh) Hyfforddi a Gweinyddu Pêl-droed Cymunedol, er gwaethaf wynebu sawl her ar hyd y ffordd.
Anogwyd Callum gan ei deulu i barhau â'i astudiaethau ar ôl gadael yr ysgol a gwneud cais am y Radd Sylfaen Hyfforddi a Datblygu Pêl-droed Cymunedol, gyda Rotherham United. Ar ôl cael diagnosis o awtistiaeth a syndrom asperger yn bedair oed, roedd ganddo ddiffyg hyder ynddo'i hun a'i alluoedd. Dywedodd: "Dydw i ddim yn credu digon ynof fi fy hun, ond mae fy nheulu yn aml yn fy atgoffa mor glyfar ydw i. Rwyf wedi cael amser gwych ar y cwrs yn y coleg yn Rotherham United ac wedi mwynhau'r ymweliadau preswyl â pharc chwaraeon PDC yn fawr iawn, ac roedd fy Mam yn gallu dod draw hefyd i fy nghefnogi".
Gyda'i dad, ei ewythr a’i frawd i gyd yn bêl-droedwyr brwd, mae Callum wedi dilyn ôl eu traed ac wedi chwarae i wahanol dimau pêl-droed ers pan oedd yn saith oed. Mae'n chwarae yn safle'r gôl-geidwad.
"Fy hoff ran o fod yn gôl-geidwad yw atal goliau, ond mae hefyd yn rhoi lle i fi, gan nad ydw i wir yn hoffi torfeydd. Pan fyddaf ar y cae, rwy'n mynd i fy mharth fy hun," meddai.
Uchelgais Callum yw parhau i hyfforddi pêl-droed i bobl ifanc ag anableddau. Ers 2019, mae wedi bod yn hyfforddi yn Rotherham United Ability Counts, darpariaeth pêl-droed mynediad agored i bobl ifanc anabl. Mae hefyd wedi hyfforddi gôl-geidwaid a chwaraewyr a maeswyr sydd ag anableddau amrywiol, gan eu helpu i fagu hyder a gwneud cynnydd mewn pêl-droed anabl.
Mae hefyd yn bwriadu symud yn ei flaen hyd yn oed ymhellach ac astudio'r MSc Hyfforddiant Pêl-droed Perfformiad Uwch.
Mae gan Callum anhwylder obsesiynol cymhellol (OCD) ac mae wedi cael diagnosis anhwylder bwyta. Dywedodd: "Rwy'n ceisio pweru drwy bethau. Mae gen i fy nhrefn arferol. Bob dydd, rwy'n gosod fy ngliniadur a fy llyfrau yn eu lle ac yn bwrw iddi gyda fy astudiaethau. Mae gen i gefnogaeth anhygoel gan fy nheulu."
Mewn ymateb i gais am gyngor i bobl ag anableddau dysgu sydd am fynd i'r brifysgol, dywedodd Callum: "Credwch ynoch chi'ch hun a gofynnwch am gyngor. Rwyf i wastad wedi bod yn annibynnol ac yn gyndyn o ofyn am gyngor, ond mae'n bwysig ac mae hynny wedi fy helpu i gynyddu fy hyder.
"Mae wedi bod yn heriol ond rwy'n falch iawn ohonof fy hun, ac rwy'n gwybod bod fy nheulu yn falch ohonof i hefyd".
Dywedodd Robyn Pinder, Arweinydd y Cwrs Hyfforddi Pêl-droed: "Mae wedi bod yn bleser cefnogi Callum drwy gydol ei radd israddedig. Does dim amheuaeth gen i y bydd Callum yn mynd yn ei flaen i gyflawni ei uchelgais o fod yn hyfforddwr pêl-droed anabl ac rwy’n credu ei fod e’n fodel rôl gwych.
"Rydyn ni’n hynod falch o'r cyfan y mae wedi'i gyflawni dros y tair blynedd diwethaf ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ei groesawu'n ôl i PDC i gwblhau'r MSc. Mae Callum yn fyfyriwr cydwybodol, diwyd a phenderfynol felly rwy'n sicr y bydd yn ffynnu yn ystod ei astudiaethau ôl-radd."