Hyfforddi a Datblygu Pêl-Droed Cymunedol
Mae'r cwrs hwn yn troi angerdd at bêl-droed yn weithred. Datblygwch sgiliau hyfforddi, arwain a chwaraeon cymunedol trwy ddysgu ymarferol mewn lleoliadau clwb, gyda chefnogaeth mentoriaid y diwydiant.
Sut i wneud cais Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda ni
Côd UCAS
C632
Dyddiad Cychwyn
Medi 2027
Lleoliad
Pontypridd
Côd y Campws
A
Pwyntiau UCAS
96
Côd UCAS
C632
Dyddiad Cychwyn
Medi 2026
Lleoliad
Pontypridd
Côd y Campws
A
Pwyntiau UCAS
96
Ffioedd
Myfyrwyr cartref: £9,535*
Myfyrwyr rhyngwladol: £17,200*
Trosolwg o'r Cwrs
Gyda phrofiad cymhwysol, cymwysterau hyfforddi cenedlaethol a datblygiad proffesiynol, gallwch gamu'n hyderus i yrfaoedd mewn pêl-droed, addysg a chwaraeon cymunedol.
Mae'r cwrs hwn yn cyfuno profiad clwb yn y byd go iawn â dysgu ymarferol, cymhwysol i feithrin sgiliau, hyder ac effaith. Bydd dysgu'n digwydd trwy weithgaredd lleoliad mewn elusen clwb EFL, astudiaeth wythnosol dan arweiniad gyda mentor dynodedig ac ymweliadau astudio preswyl.
Mewn partneriaeth ac wedi'i gymeradwyo gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru, CIMSPA ac EFL yn y Gymuned.
Partneriaethau a Cymeradwyaethau
Mae gennym nifer o bartneriaethau ar gael, gweler trosolwg y cwrs am fanylion.
Pam astudio'r cwrs hwn?
Addysgu ac Asesu
Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar bêl-droed ac arweinyddiaethsydd eu hangen i ddatblygu gweithwyr proffesiynol ar gyfer y diwydiant pêl-droed. Wedi'i ddatblygu mewn partneriaeth â sefydliadau hyfforddi proffesiynol, mae'r cwrs hyfforddi pêl-droed hwn yn eich galluogi i astudio a chael lleoliadau gwaith ledled y byd.
Byddwch chi'n dysgu trwy weithio mewn clwb pêl-droed proffesiynol wrth astudio ar-lein. Mae'r rhan fwyaf o'ch dysgu yn digwydd yn y clwb, gyda chyfnodau byr yn y brifysgol i gyfarfod, myfyrio a gweithio gydag eraill. Bob wythnos, byddwch chi'n cael prosiectau go iawn, yn datrys heriau, ac yn rhoi eich dysgu ar waith, gan feithrin y sgiliau a'r hyder i lwyddo ym myd chwaraeon.
Ym Mlwyddyn 1, byddwch chi'n datblygu sylfeini cryf trwy bortffolios strwythuredig, tasgau ymarferol a chyflwyniadau prosiect, wedi'u cefnogi gan adborth rheolaidd. Ym Mlynyddoedd 2 a 3 (Atodol), byddwch chi'n ymgymryd â heriau mwy agored, byd go iawn, gan gynnwys gwerthusiadau perfformiad, prosiectau cydweithredol ac asesiadau cymhwysol a grëwyd ar y cyd ag EFL yn y Gymuned ac elusennau clybiau pêl-droed partner.
Mae myfyrio ac adborth wrth wraidd y cwrs. Byddwch chi'n profi syniadau, yn mireinio'ch ffordd o feddwl, ac yn rhannu gwaith drafft cyn ei gyflwyno'n derfynol. Trwy ddysgu yn y gwaith a chefnogaeth mentor, byddwch chi'n dangos tystiolaeth o'ch cynnydd ac yn tyfu mewn hyder, gallu ac uniondeb proffesiynol.
Byddwch wedi'ch lleoli mewn clwb pêl-droed proffesiynol, gan ennill profiad wythnosol mewn hyfforddi, datblygu chwaraeon ac ymgysylltu cymunedol. Bydd hyn yn eich helpu i ddatblygu'r sgiliau a'r ddealltwriaeth sydd eu hangen i symud ymlaen yn eich gyrfa.
Mae myfyrwyr yn elwa o gyfleusterau PDC o’r radd flaenaf yn ystod Ymweliadau Preswyl a, phan fyddant yn eu clybiau partner, maent yn cael mynediad at ystod o gyfleusterau safonol y diwydiant, gan gyfuno dysgu ymarferol ag adeiladu cymunedol. Mae tasgau rhyngweithiol, offer digidol a Mentor Clwb yn cefnogi twf mewn hyfforddi, myfyrio a datblygiad personol.
Arweinydd y Cwrs
Robyn Pinder
Robyn Pinder ydw i, Arweinydd y Cwrs ar gyfer y radd hon ac Arweinydd Modiwl ar draws rhaglenni. Ymunais â Phrifysgol De Cymru yn 2021 fel Darlithydd mewn Hyfforddi Pêl-droed ac rwy'n addysgu pynciaugan gynnwys hyfforddi sylfaenol a chymhwysol, materion cymdeithasol mewn chwaraeon, a rheoli prosiectau a phrosiectau annibynnol.
Rwyf wedi cyhoeddi ymchwil ar gamblo mewn chwaraeon, tegwchrhywedd, llywodraethu chwaraeon, a strategaethau addysgu a dysgu. Mae fy addysgu yn cael ei lunio gan brofiad: chwarae pêl-droed ar lefel uchel, hyfforddi carfannau rhanbarthol, ac ymgynghori arbrosiectau datblygu chwaraeon ar draws y sector.
Rwy'n Aelod Anweithredol o'r Bwrdd ar gyfer Corff Llywodraethu Cenedlaethol chwaraeon yng Nghymru, ac yn flaenorol roeddwn wedi gwasanaethu ar FwrddEDI Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
Gofynion Mynediad
Ychwanegol
Mae'r meini prawf mynediad yn manylu ar gynigion arferol ond mae PDC yn ystyried pob cais yn unigol sy'n golygu y gallem wneud cynigion yn seiliedig ar gymwysterau, proffil personol a phrofiad. Mae cyfuniadau o gymwysterau yn dderbyniol a gall cymwysterau eraill nad ydynt wedi'u rhestru fod yn dderbyniol hefyd.
Mae angen i bob ymgeisydd am y cwrs fod yn gysylltiedig ag un o'n Clybiau partner EFL.
TGAU: Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 3 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Sut i wneud caisDatganiad Derbyniadau Cyd-destunolGofynnwch gwestiwn i ni96 Pwyntiau UCAS neu'n uwch
Gofynion cymhwyster nodweddiadol
Lefel A:
DD i gynnwys o leiaf un Lefel A mewn Gwyddoniaeth, Mathemateg, Addysg Gorfforol neu Seicoleg ond ac eithrio Astudiaethau Cyffredinol. Lefel 1 mewn hyfforddi pêl-droed neu gymhwyster hyfforddi pêl-droed lefel sylfaen cyfatebol o bêl-droed (NGB)
Bagloriaeth Cymru:
Bagloriaeth Uwch Sgiliau Cymru Gradd D a D mewn Lefel A i gynnwys o leiaf un pwnc Gwyddoniaeth, Mathemateg, Addysg Gorfforol neu Seicoleg ond i eithrio Astudiaethau Cyffredinol
BTEC:
Diploma BTEC Teilyngdod Teilyngdod neu Ddiploma Estynedig BTEC Teilyngdod Teilyngdod Pasio mewn pwnc perthnasol
Mynediad i AU:
Llwyddo Mynediad i Ddiploma AU mewn Gwyddoniaeth neu Mathemateg gydag o leiaf 48 pwynt Tariff UCAS
Safon T:
P
Ffioedd a Chyllid
Fesul blwyddyn
Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).
*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.
Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol. Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Fesul blwyddyn
Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).
*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.
Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol. Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Sut i Wneud Cais
Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS.
Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).
-
Apply direct
Hyfforddi a Datblygu PÊl-droed Cymunedol
-
Llawn Amser, 2 blynedd
-
Medi
-
Pontypridd
-
-
Apply direct
Hyfforddi a Datblygu PÊl-droed Cymunedol
-
Llawn Amser, 2 blynedd
-
Medi
-
Pontypridd
-
Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.
Gall ymgeiswyr a dderbynnir drwy fynediad uwch astudio cyfuniad gwahanol o fodiwlau i'r rhai a hysbysebir, gan y byddant yn ymuno â chwrs sydd eisoes ar y gweill. Fe wnawn ni gysylltu â chi a’ch cynghori chi am y modiwlau hyn unwaith y bydd eich cais wedi'i brosesu a chynnig wedi'i wneud.
Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.
Straeon ac uchafbwyntiau cysylltiedig
Erthygl Newyddion
Erthygl Newyddion
Erthygl Newyddion