Max Roberts

Mynd â fy uchelgeisiau hyfforddi i'r lefel nesaf

Chwaraeon
Sports Coaching student wearing a football kit

Rydw i wedi ennill fy nghymwysterau yn ogystal â phrofiad yn y maes.


Cyfuno chwarae a dysgu

Astudiais fy mlwyddyn gyntaf ar y Radd Sylfaen mewn Hyfforddi a Datblygu Chwaraeon wrth chwarae i'r Tîm Wrth Gefn yn Wigan. Dewisais astudio'r cwrs hwn gan fy mod yn teimlo mai dyma'r opsiwn gorau i mi barhau â'm haddysg. Roeddwn yn gobeithio ennill profiad a gwybodaeth ym maes hyfforddi a datblygu, ac fe gyflawnodd fy holl ddisgwyliadau.

Roedd cydbwyso chwarae chwaraeon a'm hastudiaethau yn anodd ar adegau; fodd bynnag, gyda chymorth gan fy athrawon, llwyddais i oresgyn y broblem a sicrhau bod fy ngwaith yn parhau ar lefel uchel. Roedd digon o gefnogaeth ar gael i mi, nid yn unig gan fy athrawon yn Wigan ond hefyd gan fy arweinwyr modiwl yn USW. Roeddwn i'n gallu anfon e-bost atynt ar unrhyw adeg os oedd gen i unrhyw gwestiynau am waith neu aseiniadau, ac fe wnaethant gysylltu'n ôl â mi cyn gynted â phosibl.

Dewch o hyd i'ch cwrs

ROEDD DIGON O GEFNOGAETH AR GAEL I MI NID YN UNIG GAN FY ATHRAWON YN WIGAN OND HEFYD GAN FY ARWEINWYR MODIWLAU YN PDC.

Max Roberts

Graddedig Chwaraeon

Myfyrio ar astudio yn PDC

Roeddwn i eisiau dilyn gyrfa mewn hyfforddi, ac roedd y radd hon yn berffaith ar gyfer hynny gan i mi ennill fy nghymwysterau yn ogystal â phrofiad yn y maes.

Pe bawn i'n rhoi unrhyw gyngor i ddarpar fyfyrwyr, byddwn yn dweud i ddechrau wrthynt am wneud y cwrs gan ei fod yn ddifyr ac o fewn cyrraedd. Hefyd, roedd gwneud yn siŵr eich bod yn aros ar ben aseiniadau yn golygu nad oedd unrhyw broblemau gyda chyflwyno gwaith.

Diddordeb mewn Chwaraeon?

Mae gan Brifysgol De Cymru gefndir chwaraeon cryf, enw rhagorol am raddau chwaraeon, a chyfleusterau trawiadol i’n myfyrwyr astudio a hyfforddi ynddynt.