Mae'r profiad ymarferol, ynghyd â chyfleusterau arloesol PDC, wedi bod yn amhrisiadwy.
Dod o hyd i'r cwrs cywir i symud o bêl-droed amatur i bêl-droed elitaidd
Mae astudio cwrs Hyfforddi Pêl-droed a Pherfformio ym Mhrifysgol De Cymru wedi bod yn brofiad trawsnewidiol i mi. A minnau'n dod o India, lle mae cyfleoedd pêl-droed yn gyfyngedig o'u cymharu â chriced a hoci, ro'n i'n chwilio am gwrs a allai ddarparu gwybodaeth dechnegol i drosglwyddo o bêl-droed amatur i elitaidd. Roedd PDC yn cynnig union hynny, ac ers cyrraedd ym mis Medi 2023, mae fy nhaith wedi bod yn anhygoel a dweud y lleiaf.
Chwaraeodd y gefnogaeth gan y gyfadran ran hanfodol o ran fy helpu i addasu i system addysg hollol wahanol. Gwnaeth fy narlithwyr yn siŵr fy mod yn deall y cwricwlwm ac yn teimlo'n rhan o gymuned. Fe wnaeth eu harweiniad fy helpu i fagu hyder yn fy astudiaethau a setlo i fywyd yng Nghymru, sydd bellach wedi dod yn ail gartref i mi.
Dewch o hyd i'ch cwrsManteisio ar leoliadau ac edrych i'r dyfodol
Un o'r agweddau gorau ar fy nghwrs oedd cael cysylltiad uniongyrchol â’r diwydiant. O fewn wythnosau i ddechrau, cefais leoliad gwirfoddol gyda Pontypridd United, gan hyfforddi ym Mharc Chwaraeon PDC. Dros amser, symudais ymlaen o helpu hyfforddwyr i ddod yn Bennaeth Dadansoddi Perfformiad ar gyfer tîm y merched hŷn gan helpu gyda sesiynau hyfforddi hefyd. Mae'r profiad ymarferol, ynghyd â chyfleusterau arloesol PDC, wedi bod yn amhrisiadwy.
Mae'r daith hon nid yn unig wedi datblygu fy sgiliau technegol ond mae hefyd wedi fy ngalluogi i addasu'n well a rhoi mwy o hyder i mi. Fy nod yn y pen draw yw dychwelyd i India a chyfrannu at ddatblygiad pêl-droed y wlad. Fy nghyngor i? Manteisiwch ar yr heriau—mae pob problem yn eich gwneud chi'n gryfach.
Gyrfaoedd a ChyflogadwyeddDiddordeb mewn Chwaraeon?
Mae gan Brifysgol De Cymru gefndir chwaraeon cryf, enw rhagorol am raddau chwaraeon, a chyfleusterau trawiadol i’n myfyrwyr astudio a hyfforddi ynddynt.