Denise Cuer
Mae astudio Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn PDC wedi cael effaith enfawr arnaf
Chwaraeon
Mae'r cwrs hwn wedi newid fy mhersbectif yn llwyr—nid yn unig rwyf wedi datblygu sgiliau technegol newydd, ond rwyf hefyd wedi profi i mi fy hun fy mod i'n gallu rhagori mewn gwyddoniaeth.
Dewis astudio Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn PDC
Mae astudio BSc (Anrh) Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol De Cymru wedi bod yn daith anhygoel. Fel myfyriwr rhan-amser, rwy'n dilyn y cwrs dros chwe blynedd yn lle tair. I ddechrau, ro'n i wedi astudio Addysg Gorfforol Safon Uwch wrth weithio ym maes rheoli cyfrifon rhyngwladol, ac fe sbardunodd hyn ddiddordeb go iawn mewn deall y wyddoniaeth y tu ôl i ymarfer corff—ar gyfer fy mherfformiad fy hun fel nofiwr cystadleuol ac i ehangu fy ngwybodaeth hyfforddi.
O'r cychwyn cyntaf, roedd PDC yn amlwg iawn. Cefais gyfle i fynd i ddiwrnodau agored yn PDC a Met Caerdydd, ond fe wnaeth y croeso a’r gefnogaeth a gefais gan staff PDC fy mhenderfyniad yn un hawdd iawn. Aethant yr ail filltir i ddangos y labordai i mi ac egluro strwythur y cwrs, gan wneud i mi deimlo fy mod yn cael fy nchroesawu a'm gwerthfawrogi go iawn. Mae'r gefnogaeth honno wedi parhau drwy gydol fy astudiaethau.
Un o agweddau gorau fy ngradd oedd y cyfleoedd dysgu seiliedig ar waith. Rwyf wedi gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn ei glinig rhagsefydlu canser, gan gysgodi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a gweld yn uniongyrchol sut y gall ymyriadau ymarfer corff wella adferiad cleifion. Rwyf hefyd yn gynorthwyydd gwyddorau chwaraeon gyda Charfan Nofio Perfformiad Rhondda Cynon Taf, sy'n golygu fy mod yn cymhwyso’r hyn rwy'n ei ddysgu i gefnogi nofwyr cystadleuol.
Dewch o hyd i'ch cwrsDilyn gradd ac ymchwil Ôl-raddedig
Wrth edrych tua'r dyfodol, rwy'n bwriadu dilyn gradd Meistr a symud i faes ymchwil, gan ddefnyddio fy mhrofiad i gefnogi timau a chleifion y GIG. Mae'r cwrs hwn wedi newid fy mhersbectif yn llwyr—nid yn unig rwyf wedi datblygu sgiliau technegol newydd, ond rwyf hefyd wedi profi i mi fy hun fy mod i'n gallu rhagori mewn gwyddoniaeth. Fy nghyngor i? Ewch amdani! Mae’r cydbwysedd rhwng theori, dysgu ymarferol, a chysylltiadau diwydiant yn PDC yn eithriadol.
Astudiaeth Ôl-raddedigDiddordeb mewn Chwaraeon?
Mae gan Brifysgol De Cymru gefndir chwaraeon cryf, enw rhagorol am raddau chwaraeon, a chyfleusterau trawiadol i’n myfyrwyr astudio a hyfforddi ynddynt.