Gregorio Estevez Marchesini

Datblygu meddylfryd gwyddor chwaraeon

Chwaraeon
Sport student, Gregorio, stood in the strength and conditioning room at the Sport park

Rhoddodd fy amser yn PDC brofiad ymarferol i mi ar draws disgyblaethau amrywiol, o ddadansoddi perfformiad i archwilio effaith dull adfer arloesol mewn chwaraeon proffesiynol.


O wreiddiau hyfforddi i wyddor chwaraeon

Rwyf wedi caru rygbi gydol fy oes. Cefais fy magu yn chwarae a hyfforddi yn yr Ariannin, lle daeth chwaraeon yn rhan ganolog o fy hunaniaeth. Aeth fy nhaith hyfforddi â mi ar draws y byd, ond roeddwn i eisiau dyfnhau fy nealltwriaeth o sut i wneud y gorau o berfformiad. Dyna a wnaeth fy arwain at PDC, lle ymunais â'r cwrs Hyfforddi a Pherfformiad Rygbi gyntaf cyn trosglwyddo i Wyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff i ehangu fy sgiliau mewn ffisioleg, seicoleg, maeth ac arweinyddiaeth.

O'r eiliad yr ymunais â PDC, teimlais fy mod wedi cael fy nghefnogi a'm hysbrydoli i wneud y gorau o bob cyfle. Sylwais ar unwaith pa mor hawdd oedd mynd at ddarlithwyr a pha mor ymroddedig oedden nhw. Gwnaeth y staff i mi deimlo fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi o'r diwrnod cyntaf, gan sicrhau bod gen i bob cyfle i ddysgu a rhoi fy ngwybodaeth ar waith. Fe wnaeth y dull dysgu ymarferol a'r cyfleusterau rhagorol fy helpu i deimlo fel rhan o amgylchedd proffesiynol, nid dim ond myfyriwr mewn ystafell ddosbarth.

Dewch o hyd i'ch cwrs

YR HAF HWN, CEFAIS LEOLIAD GYDAG INTENSE FACTORY RACING, TÎM BEICIO MYNYDD PROFFESIYNOL, SY'N CEFNOGI ATHLETWYR GYDA MAETH, ADFERIAD A PHERFFORMIAD.

Gregorio Estevez Marchesini

Myfyriwr Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff

Dysgu trwy brofiad diwydiant go iawn

Mae fy amser yn PDC wedi cynnwys cyfleoedd anhygoel i weithio'n uniongyrchol gydag athletwyr elît. Fe wnes i ddod yn ddadansoddwr perfformiad i Undeb Rygbi Cymru, gan gefnogi timau cenedlaethol y llwybr ar draws dau dwrnamaint Chwe Gwlad a nifer o gemau rhyngwladol. Yn ddiweddarach, gweithiais gydag Academi Sir Casnewydd ar ddatblygiad athletaidd ac ymunais â lleoliad gydag Intense Factory Racing, tîm beicio mynydd proffesiynol, gan gefnogi athletwyr gyda maeth, adferiad a monitro perfformiad yn Les Gets, Ffrainc. Roeddwn hefyd yn rhan o brosiect ymchwil ar ddyfais glinigol a ddefnyddir i wella adferiad chwaraewyr rygbi proffesiynol, gan weithio'n agos gyda Rygbi Dreigiau Casnewydd. Rhoddodd y profiadau hyn fewnwelediadau amhrisiadwy i mi i sut mae gwyddor chwaraeon yn gweithredu ar y lefel uchaf.

Mae cyfleusterau Parc Chwaraeon PDC yn eithriadol, o dechnoleg labordy uwch i ofodau campfa o'r radd flaenaf. Mae cael mynediad at offer profi o safon elît a dysgu sut i weithredu’r wybodaeth hon mewn lleoliadau ymarferol wedi bod yn allweddol i feithrin fy hyder a'm cyflogadwyedd. Rwyf nawr yn ystyried gradd meistr mewn arweinyddiaeth chwaraeon, gyda'r nod o gyfuno fy nghariad at hyfforddi a dadansoddi perfformiad mewn gyrfa ryngwladol. I unrhyw un sy'n ystyried astudio yma, mae fy nghyngor yn syml: manteisiwch ar bob cyfle y mae PDC yn ei gynnig. Byddwch chi'n dysgu, yn tyfu, ac yn dod o hyd i'ch lle mewn chwaraeon.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Diddordeb mewn Chwaraeon?

Mae gan Brifysgol De Cymru gefndir chwaraeon cryf, enw rhagorol am raddau chwaraeon, a chyfleusterau trawiadol i’n myfyrwyr astudio a hyfforddi ynddynt.