Cyfleusterau Chwaraeon a Hamdden

Cyfleusterau Parc Chwaraeon

Amgylchedd hyfforddi elitaidd wedi'i adeiladu’n bwrpasol gydag un pwrpas – hyfforddi a'ch datblygu i'ch potensial uchaf.

Cyfleusterau Chwaraeon a Hamdden Chwaraeon yn PDC
USW's indoor FIFA standard 3G football pitch at the Sport Park.

Mae ein Parc Chwaraeon yn fodern, yn broffesiynol ac mae ganddo rai o'r offer hyfforddi prifysgol gorau yn ne Cymru. Mae ein cyfleusterau’n cael eu defnyddio’n rheolaidd gan dimau proffesiynol rhyngwladol, megis tîm pêl-droed cenedlaethol merched Cymru, Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, a charfanau rygbi teithiol Seland Newydd, De Affrica ac Awstralia.


student-25

Oriau Agor

Dydd Llun - Dydd Gwener: 8:00yb - 10:00yp

Y tu allan i dymor y brifysgol, gall oriau agor amrywio, cysylltwch â'n Tîm Gwasanaeth os ydych yn ansicr.


Gwybodaeth Hanfodol Parc Chwaraeon

Mae holl gyfleusterau'r Parc Chwaraeon ar draws ein safle 38 erw trawiadol ar gael i'w llogi ar gyfer myfyrwyr, staff ac allanol. Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio ein cyfleusterau dan do ac awyr agored fel lleoliad hyfforddiant, yna gallwch gysylltu â ni'n uniongyrchol. Bydd prisio'n amrywio yn dibynnu ar natur eich archeb, rydym hefyd yn cynnig trefniadau masnachol pwrpasol gyda sefydliadau a chymdeithasau allanol. Cysylltwch â ni am ragor o fanylion, ein nod yw ymateb i bob ymholiad archebu o fewn 48 awr.

Ymholiadau allanol: [email protected] 

Fel arall, gallwch ffonio ein Tîm Gwasanaeth: (01443) 654747

Sylwer: Caiff ein costau eu hadolygu a'u diweddaru'n flynyddol ac mae'r costau a restrir isod yn adlewyrchu prisiau myfyrwyr a staff ar gyfer clybiau myfyrwyr PDC neu dimau staff yr awr ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol: 2024-25.
 
Ymholiadau allanol: [email protected] 
Fel arall, gallwch ffonio ein Tîm Gwasanaeth: (01443) 654747

Cyfleusterau Parc Chwaraeon Cost Cyfradd
Prif Neuadd (Neuadd Lawn) £21.63 Yr awr
Prif Neuadd (Hanner llawn) £10.81 Yr awr
ATP (Cae Llawn) £32.19 Yr awr
ATP (Hanner Cae) £16.10 Yr awr
3G (Cae llawn) £40.17 Yr awr
3G (Hanner Cae) £20.08 Yr awr
3G (Cae llawn) £100.42 Cyfradd gêm
Stadiwm 4G (Cae llawn) £46.35 Yr awr
Stadiwm 4G (Hanner Cae) £23.17 Yr awr
Stadiwm 4G (Cae llawn) £115.36 Cyfradd gêm
Ysgubor (Cae llawn) £103.00 Yr awr
Ysgubor (Hanner Cae) £51.50 Yr awr
Glaswellt Awyr Agored (Cae llawn) £51.50 Yr awr
Glaswellt Awyr Agored (Cae llawn) £115.36 Cyfradd gêm
Darlithfa (pob un) £12.87 Yr awr
Ystafell Gyfarfod £12.87 Yr awr
Ystafell Cryfder a Chyflyru £77.25 Yr awr

Sut i ddod o hyd i ni

Exterior shot of USW's Sport Park

Parc Chwaraeon PDC

Mae Parc Chwaraeon PDC nepell o gampws Trefforest a Glyn-taf Prifysgol De Cymru.

Prifysgol De Cymru, Parc Chwaraeon
Ystad Ddiwydiannol Trefforest
CF37 5UP

A train travelling along train tracks with the sun setting in the background

Ar y Trên

Yr orsaf drenau agosaf yw Ystad Trefforest, gyda threnau rheolaidd yn gadael Caerdydd Canolog drwy gydol y dydd ar Reilffyrdd Cymoedd De Cymru.

A side view of a various cars parked in a line in a carpark

Mewn Car, o'r M4

Gadael ar Gyffordd 32 a theithio tua'r gogledd ar yr A470 am tua 4 milltir. Gadewch yr A470 ar gyffordd yr A4054 a chymerwch yr allanfa gyntaf i Stad Ddiwydiannol Trefforest (A4054). Fe welwch arwyddion ar gyfer Parc Chwaraeon PDC ar y chwith, ychydig cyn adeilad ATS.

A car speeds by on a country road.

Mewn Car, o Ferthyr Tydfil

Teithiwch i'r de ar yr A470 nes i chi gyrraedd y gyffordd sydd wedi'i nodi ar yr A4054. Cymerwch y bedwaredd allanfa oddi ar y gylchfan i Stad Ddiwydiannol Trefforest (A4054). Fe welwch arwyddion ar gyfer Parc Chwaraeon PDC ar y chwith, ychydig cyn adeilad ATS.