Fy nod yw cymhwyso ar gyfer Gemau'r Gymanwlad y flwyddyn nesaf fel athletwr tra hefyd yn dilyn cwrs meistr mewn Rheoli Chwaraeon.
Dewis astudio Chwaraeon ym Mhrifysgol De Cymru
Mae chwaraeon wastad wedi bod yn rhan enfawr o fy mywyd. Dechreuais i jwdo pan o'n i'n bump oed ac rwyf wedi hyfforddi'n llawn amser fel athletwr yng Nghymru ers pan dwi'n 16 oed. Fodd bynnag, ar ôl cael anaf, sylweddolais fod angen i mi ganolbwyntio ar fy addysg. I ddechrau, cofrestrais ar gwrs addysgu yn PDC, ond o fewn wythnos, ro'n i'n gwybod fy mod eisiau astudio chwaraeon. Cysylltais â Tony Wallace, arweinydd y cwrs, a throsglwyddo i astudio Hyfforddi a Datblygu Chwaraeon.
Drwy gydol fy amser yn PDC, rwyf wedi cael cyfleoedd anhygoel i gael profiad yn y diwydiant. Yn fy ail flwyddyn, treuliais gyfnod o’m lleoliad yn gweithio gyda Chwaraeon RhCT, gan hyfforddi mewn ysgolion cynradd, cyn parhau â Judo Cymru am weddill y lleoliad. Cefais gyfle i fynd i ddigwyddiadau cyflogaeth hefyd, lle bûm yn rhwydweithio â gweithwyr proffesiynol y diwydiant a chael syniad o gyfleoedd gyrfa yn y dyfodol.
Un o uchafbwyntiau fy nghwrs oedd y modiwl Menter mewn Chwaraeon, lle datblygais syniad ar gyfer prosiect jwdo i ferched. Ers hynny, rwyf wedi cael cyfle i roi'r syniad hwnnw ar waith yn fy nhrydedd flwyddyn fel fy mhrosiect proffesiynol cymhwysol, gyda dros 50 o ferched yn cymryd rhan mewn sesiynau jwdo.
Dewch o hyd i'ch cwrsCynlluniau ar ôl graddio
Wrth edrych ymlaen, fy nod yw cymhwyso ar gyfer Gemau'r Gymanwlad y flwyddyn nesaf fel athletwr tra hefyd yn dilyn cwrs meistr mewn Rheoli Chwaraeon. Yn y tymor hir, rwy'n gobeithio cael gyrfa mewn rheoli a datblygu digwyddiadau ym maes jwdo. Mae'r gefnogaeth gan fy narlithwyr yn ogystal â chyfleusterau PDC wedi chwarae rhan enfawr o ran fy mharatoi ar gyfer y dyfodol.
Astudiaeth Ôl-raddedigDiddordeb mewn Chwaraeon?
Mae gan Brifysgol De Cymru gefndir chwaraeon cryf, enw rhagorol am raddau chwaraeon, a chyfleusterau trawiadol i’n myfyrwyr astudio a hyfforddi ynddynt.