Myfyrwyr ffasiwn yn dylunio legins cynaliadwy ar gyfer Gemau'r Gymanwlad
6 Gorffennaf, 2022
(ch-dd): Olivia Soady, Bethan Jones, Jasmine Joyce, Gabriella Maria a Steven Wright
Mae dwy fyfyrwraig Dylunio Ffasiwn ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) wedi dylunio legins ar gyfer athletwyr Tîm Cymru i'w gwisgo yng Ngemau'r Gymanwlad Birmingham 2022 – wedi'u gwneud o ddeunyddiau cynaliadwy.
Enillodd Bethan Jones ac Olivia Soady, ill dwy yn eu blwyddyn olaf, gystadleuaeth ddylunio a drefnwyd gan Gemau'r Gymanwlad Cymru mewn partneriaeth â PDC. Gweithiodd y myfyrwyr yn agos gydag Onesta, brand dillad cynaliadwy arobryn yn Llanelli, i ddod â'u dyluniadau'n fyw, a chynhyrchodd Onesta gyfanswm o 360 o barau o legins ar gyfer Tîm Cymru.
Fe'u datgelwyd yn swyddogol yr wythnos diwethaf (dydd Gwener 1 Gorffennaf) pan basiodd Ras Gyfnewid Baton y Frenhines drwy Lanelli ac aros yn stiwdio Onesta, lle wnaeth un o gludwyr y baton, Jasmine Joyce, sy’n chwarae dros dîm rygbi rhyngwladol Menywod Cymru, fodelu cit Tîm Cymru.
Datblygwyd y prosiect cydweithredol gyda chyllid gan Raglen Partneriaeth ac Ymgysylltu Cyfnewidfa PDC, sy’n galluogi sefydliadau i elwa’n uniongyrchol ar gymorth cwmpasu a dichonoldeb, yn ogystal â mynediad at arbenigedd academaidd PDC.
Yn dilyn briff gan Dîm Cymru, roedd dyluniadau Bethan ac Olivia yn ffocysu’n fawr ar gynaliadwyedd, a sicrhau bod y legins yn ymarferol, yn para’n hir a bod ganddyn nhw hunaniaeth Gymreig glir.
Dywedodd Olivia: "O'r cychwyn cyntaf fe'i gwnaed yn glir iawn yn y briff fod y legins hyn i fod i gael eu gwisgo ac i fod i bara, sy'n rhywbeth a ystyriodd Bethan a fi drwy gydol y broses ddylunio. Roeddwn i wedi darllen erthygl am yr holl bethau anhygoel sydd wedi tarddu o Gymru, a roddodd y syniad i fi fod ein gwlad yn un fach ond yn un wych."
Ychwanegodd Bethan: "Roedd gan Olivia a fi gysyniad tebyg iawn. Roedd fy nghysyniad i’n ymwneud â symbolau o bŵer Cymru, a bod yn falch o fod yn Gymry, ochr yn ochr â phwysigrwydd cynhyrchu cynaliadwy. Felly fe wnaethon ni ddod â’r syniadau hyn at ei gilydd a chreu rhywbeth cyfoes iawn, rydyn ni’n falch iawn ohono. Mae gweithio ar y prosiect hwn gyda Thîm Cymru yn gyfle mor gyffrous i fi, ac yn rhywbeth sydd wir yn cyd-fynd â fy ngwerthoedd fel person ac fel dylunydd."
Dywedodd perchennog a sylfaenydd Onesta, Gabriella Diana: "Rydyn ni’n falch o fod wedi cael ein dewis fel gwneuthurwr legins achlysurol ar gyfer Tîm Cymru, a ddyluniwyd mewn cydweithrediad â myfyrwyr PDC. Mae gweithgynhyrchu yng Nghymru yn gostwng ôl troed carbon ein dillad, ond mae hefyd yn rhoi arian yn ôl i'n heconomi leol, gan gryfhau diwydiant yma yn y DU, a darparu swyddi â sgiliau i bobl leol a graddedigion. Hefyd, rydyn ni'n gwybod bod ein dillad i gyd yn cael eu creu gan ddwylo hapus. Mae gweithio ar y prosiect hwn gyda Thîm Cymru wedi bod yn gyffrous iawn, ac rydyn ni wedi bod wrth ein bodd yn cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu dillad chwaraeon cynaliadwy ar gyfer Gemau'r Gymanwlad."
Dywedodd Stacey Grant-Canham, darlithydd mewn Dylunio Ffasiwn yn PDC a weithiodd gyda Bethan ac Olivia ar y prosiect hwn: "Mae'r dylunwyr wedi’u trochi’n llwyr yn y diwydiant o'u diwrnod cyntaf un ar y cwrs Dylunio Ffasiwn yn PDC; mae'r ddwy wedi manteisio ar yr opsiwn i dreulio blwyddyn allan yn y diwydiant, ac mae ganddynt ymwybyddiaeth fasnachol a chreadigrwydd sydd â gwybodaeth drylwyr am natur gylchol y diwydiant ffasiwn yn sail i’w gwaith. Mae wir yn gyfuniad llwyddiannus. Mae'r ffaith eu bod wedi dewis cydweithio yn dyst i'r ffordd gyfannol y maen nhw’n ystyried eu lle yn y diwydiant byd-eang hwn."
Ychwanegodd Cathy Williams, Pennaeth Ymgysylltu Gemau'r Gymanwlad Cymru: "'Mae'r bartneriaeth rhwng Gemau'r Gymanwlad Cymru a PDC wedi dod yn gryfach ac yn gryfach dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac mae'n wych ein bod unwaith eto’n gallu denu unigolion ifanc a thalentog fel Bethan ac Olivia i greu rhywbeth arbennig i'r tîm.
"Cynhaliwyd y gystadleuaeth hon gyntaf gyda PDC ar gyfer Gemau'r Arfordir Aur yn 2018, ac rydym wedi adeiladu ar y llwyddiant hwnnw. Rydym wrth ein bodd yn gweld yr athletwyr yn gwisgo'r dyluniad gorffenedig."
Dywedodd Chris Jenkins, Prif Swyddog Gweithredol Gemau'r Gymanwlad Cymru: ''Mae gweithio ochr yn ochr â PDC ar brosiectau fel hyn yn bwysig iawn i'r sefydliad; mae'n rhoi cyfle i ddylunwyr ifanc a myfyrwyr prifysgol gael blas ar y diwydiant yn y byd 'go iawn', ond mae hefyd yn agor ein rhwydwaith cefnogwyr i bobl na fyddent o reidrwydd yn cael eu denu at chwaraeon.
"Mae Gemau'r Gymanwlad yn fwy na digwyddiad chwaraeon – mae'n gyfle i gynnwys cymunedau ledled y wlad a chefnogi Cymru ar lwyfan byd-eang. Llongyfarchiadau i'r ddwy ddylunydd, a diolch i PDC ac Onesta am eu holl waith caled."