Arwain trawsnewidiad digidol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol gyda gradd newydd PDC
14 Mawrth, 2022
Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi lansio cwrs Meistr newydd mewn Arwain Trawsnewid Digidol, fel rhan o’i Hacademi Dysgu Dwys ar gyfer arweinwyr a rheolwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae'r cwrs dwy flynedd rhan-amser wedi'i gynllunio i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau arweinyddiaeth sy'n hanfodol i ysgogi arloesedd ar gyfer darparu gwasanaethau a arweinir gan atebion digidol.
Wedi’i ddatblygu fel rhan o Academi Dysgu Dwys PDC a lansiwyd ym mis Tachwedd 2021, mae’r MSc wedi’i greu ar y cyd â byrddau iechyd a sefydliadau gofal cymdeithasol Cymru, ac mae’n defnyddio arbenigedd ar draws y Brifysgol a’r sector i greu profiad dysgu rhyngddisgyblaethol.
Gan gwmpasu iechyd a gofal cymdeithasol, arweinyddiaeth a rheoli newid, a thechnolegau digidol, nod y cwrs yw cefnogi arweinwyr i herio arfer traddodiadol, i fod yn fwy chwilfrydig am brosesau, ac i 'feddwl yn ddigidol yn gyntaf' i ail-ddychmygu a gwella eu trefniadaeth a'u gwasanaethau er budd eu defnyddwyr, rhanddeiliaid a gweithwyr.
Wedi’i hariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru, bydd yr Academi Dysgu Dwys ar gyfer Arwain Trawsnewid Digidol yn helpu ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol i gyflawni prosiectau trawsnewidiol gan ddefnyddio atebion digidol. Cymru yw’r wlad gyntaf yn y byd i lansio Academïau Dysgu Dwys (ILAs) arbenigol, a PDC yw’r brifysgol ddiweddaraf i ddarparu’r hyfforddiant arloesol hwn.
Mae'r MSc yn cynnwys wyth modiwl 20 credyd gorfodol, wedi'u cyflwyno trwy flociau dysgu byr dwys o hyd at bedair awr o gyflwyno ar-lein yr wythnos, ac wedi'u hategu gan gyfnodau ymchwilio a chymhwyso mwy estynedig.
Mae pob modiwl yn canolbwyntio ar wahanol ffyrdd y gellir defnyddio atebion digidol i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu gofal iechyd yr 21ain ganrif.
Dywedodd yr Athro Bob Hudson, Cyfarwyddwr yr Academi Dysgu Dwys yn PDC: “Mae’r GIG bob amser yn newid, ac mae maint y newid dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn ddigynsail. Mae angen i’n harweinwyr iechyd a gofal cymdeithasol fod yn barod i gwrdd â heriau’r dyfodol, felly mae’n bleser gennym lansio rhaglen Meistr gyntaf ein Hacademi Dysgu Dwys.
“Dylai anelu at newid trawsnewidiol fod yn sail i’n holl ymdrechion wrth ddatblygu ein gwasanaethau, ac mae arweinyddiaeth gref yn hollbwysig er mwyn i ni wella profiadau i gleifion, clinigwyr a’r cyhoedd yn ehangach. Bydd y rhaglen hon yn cefnogi ein harweinwyr i ysgogi trawsnewid digidol a bod yn gatalydd ar gyfer arloesi.”