Gwobrau Athrawon a Chynghorwyr PDC

11 Mawrth, 2022

Awards_Graphic_-_Welsh.width-1000.format-jpeg.jpg Awards_Graphic_-_Welsh.width-1000.format-jpeg.jpg

Mae Tîm Recriwtio Myfyrwyr y Deyrnas Unedig Prifysgol De Cymru yn cynnal Gwobrau Athrawon a Chynghorwyr PDC unwaith eto eleni, mewn cydweithrediad â Campws Cyntaf.

Bydd y gwobrau’n cael eu dyfarnu i athrawon a chynghorwyr o ysgolion uwchradd a cholegau ledled Prydain sydd wedi dangos rhagoriaeth mewn pedwar categori yn ystod blwyddyn academaidd 2021-22:

·       Cefnogaeth Fugeiliol a Llesiant Eithriadol

·       Cefnogi Dilyniant i Addysg Uwch

·       Arloeswr Digidol y Flwyddyn

·       Athro neu Gynghorydd Ysbrydoledig y Flwyddyn

Bydd enillydd pob gwobr yn derbyn £500 tuag at DPP a/neu fentrau llesiant staff yn eu hysgol neu goleg.

Mae'r Tîm Recriwtio Myfyrwyr yn gwahodd enwebiadau am athrawon neu gynghorwyr o ysgolion uwchradd neu golegau addysg bellach. Gall myfyrwyr enwebu eu hathrawon neu eu cynghorwyr hefyd. Er mwyn enwebu, dylai athrawon, cynghorwyr a myfyrwyr fynd i www.southwales.ac.uk/cymraeg/amdanom-ni/tim-cyswllt-ysgolion-a-cholegau/ erbyn dydd Llun, 25 Ebrill. Mae modd gweld meini prawf a thelerau ac amodau’r Gwobrau ar ein gwefan www.southwales.ac.uk/cymraeg/amdanom-ni/tim-cyswllt-ysgolion-a-cholegau/. Cynhelir y seremoni wobrwyo yn ein Canolfan Gynadledda ar Gampws Trefforest ddydd Mercher, 6 Gorffennaf 2022.

Meddai Richard Grabham, Athro yn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd ac enillydd Gwobr Cefnogi Dilyniant i Addysg Uwch 2021: “Dros y tair blynedd diwethaf, fi sydd wedi cael yr her o sicrhau bod holl fyfyrwyr Blwyddyn 13 Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd yn anelu’n uchel ac yn cyflawni eu huchelgais ac yn symud ymlaen i addysg uwch. Mae derbyn y wobr am gefnogi dilyniant i addysg uwch yn golygu fy mod wedi cyflawni fy nod o sicrhau bod myfyrwyr yn gwybod eu bod yn cael eu gwerthfawrogi yn y byd addysg waeth beth fo’u cefndir.”

Meddai Sêra Evans, Pennaeth Recriwtio Myfyrwyr y Deyrnas Unedig ym Mhrifysgol De Cymru: “Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi dal i’n herio mewn sawl ffordd a bydd effaith Covid-19 ar ein pobl ifanc yn hirhoedlog. Rydyn ni am achub ar y cyfle yma unwaith eto i gydnabod yr ymrwymiad, y diwydrwydd a’r gwydnwch mae athrawon a chynghorwyr wedi’u dangos drwy gydol y cyfnod yma fel partneriaid allweddol i’r Brifysgol, ac i ganmol y gefnogaeth, yr anogaeth a’r effaith gadarnhaol maen nhw wedi’u cael ar fywydau pobl ifanc.”