Ffilm yn amlygu mynediad i addysg i bobl ifanc ddigartref
1 Rhagfyr, 2022
Mae myfyrwyr Ffilm ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) wedi gweithio gyda Llamau i helpu i newid bywydau menywod agored i niwed a phobl ifanc sy'n profi digartrefedd y gaeaf hwn.
Fel rhan o’u cwrs, ymunodd myfyrwyr yr ail flwyddyn â’r elusen i greu ffilm emosiynol, gan ddangos y gwasanaethau y mae’n eu darparu i’r miloedd o bobl sy’n canfod eu hunain yn ddigartref yng Nghymru bob blwyddyn.
Wedi’i chynhyrchu o safbwynt dyn ifanc sy’n cael trafferth yn yr ysgol ac yn cael problemau gartref, mae’r ffilm yn canolbwyntio ar raglen Step into Education Llamau ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed, sy’n wynebu risg uwch o wynebu digartrefedd yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae’r rhaglen yn helpu pobl ifanc sy’n wynebu caledi gartref neu yn yr ysgol i ennill cymwysterau a sgiliau bywyd, a all gynnig cyfleoedd i lwyddo ac yn y pen draw osgoi dod yn ddigartref.
Gwyliwch ffilm y myfyrwyr yma:
Dywedodd Beverley Taylor, Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu yn Llamau: “Roedd yr holl broses o weithio gyda myfyrwyr PDC yn bleserus iawn – roedden nhw wedi ymchwilio’n drylwyr i Llamau a’n cenhadaeth, ac yn awyddus i wneud ffilm a fyddai’n helpu i godi eu proffil o’n cenhadaeth darpariaeth addysg.
“Roedd y prosiect yn gyfle gwych i ni elwa o’u harbenigedd a’u sgiliau, gan gefnogi eu datblygiad proffesiynol tra’n cael mewnwelediad allanol i’n gwaith a phersbectif newydd ar y ffordd orau o gyfleu’r angen am y gwasanaethau a ddarparwn.
“Rydym yn gobeithio y bydd y ffilm yn helpu i gyrraedd y bobl ifanc a allai elwa o’n cyrsiau, yn ogystal â rhanddeiliaid fel awdurdodau lleol a allai gyfeirio pobl ifanc at ein gwasanaethau. Byddwn hefyd yn defnyddio’r ffilm i ddangos i ddarpar gyllidwyr a noddwyr sut y gallant weithio gyda ni fel rhan o’u mentrau Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol.”
Mae Jo Prescott, 21, yn astudio BA Ffilm yn PDC ac roedd yn rhan o'r tîm a wnaeth y ffilm. Meddai: “Roeddem am greu ffilm hybrid a oedd yn berthnasol i’r bobl ifanc y mae Llamau yn eu helpu, ac y byddai hefyd yn ddefnyddiol wrth sicrhau cyllid a nawdd. Heb gyllid, ni fyddai’r elusen yn gallu parhau i ddarparu’r gwasanaethau hyn.
“Roedd gweithio gyda Llamau yn brofiad gwych gan ein bod wedi gallu cymhwyso ein sgiliau i greu darn o waith ystyrlon, a chael y cyfle i greu rhywbeth tebyg i’r hyn y gallem fod yn ei wneud yn y diwydiant, sef yr union beth y deuthum i’r brifysgol i’w gyflawni.
“Fe wnaethon ni sefydlu perthynas waith gwych gyda’r elusen oedd yn caniatáu i ni gyflawni’r prosiect yn union fel roedden nhw wedi gofyn amdano. Rwy’n teimlo’n falch o wybod y gallai pobl ifanc gael mynediad at y gwasanaethau hanfodol hyn oherwydd ein ffilm.”