Chwech o raddedigion Ffotograffiaeth PDC yn ymddangos yn arddangosfa newydd Ffocws

3 Tachwedd, 2022

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Paris_Tankard_-_Abike.jpg

Llun: Abike, gan Paris Tankard

Bydd graddedigion Ffotograffiaeth ym Mhrifysgol De Cymru yn gweld eu gwaith yn cael sylw mewn menter newydd i gefnogi artistiaid ar ddechrau eu gyrfa yng Nghymru.

Wedi'i lansio gan yr elusen Ffotogallery o Gaerdydd, nod Ffocws yw hyrwyddo a chefnogi gwaith graddedigion Ffotograffiaeth dethol o brifysgolion Cymru.

Ar ôl ymweld â sioe Creative GradFest PDC eleni, dewisodd Ffotogallery chwe myfyriwr graddedig i arddangos eu prosiectau yn arddangosfa Ffocws, sy’n agor i’r cyhoedd yfory (dydd Gwener 4 Tachwedd).

Bydd y pedwar myfyriwr graddedig BA Ffotograffiaeth Ddogfennol – Alice Durham, Billy Osborn, Ross Gardner a Laurie Broughton – a dau raddedig BA Ffotograffiaeth – Paris Tankard a Kerry Woolman – hefyd yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn sgyrsiau, symposia a gweithdai artistiaid fel rhan o fenter Ffocws.

Dywedodd Siân Addicott, Cyfarwyddwr Ffotogallery: “Rydym yn falch iawn o fod yn arddangos y detholiad gwych hwn o dalent newydd yn Ffotogallery. Mae'r ystod o ddeunydd pwnc, technegau ac arddulliau gwahanol sy'n cael eu harddangos yn amlygu dyfnder creadigrwydd ffotograffig yng Nghymru.

“Trwy Ffocws, ein nod yw darparu rhywfaint o gymorth gyrfa a chyfleoedd rhwydweithio hanfodol, wedi’u teilwra, i helpu’r artistiaid ar eu teithiau proffesiynol – yn enwedig yn y cyfnodau heriol cynnar hyn.”

Ychwanegodd Peter Bobby, Arweinydd Cwrs BA Ffotograffiaeth ym Mhrifysgol De Cymru: “Mae’r arddangosfa hon yn gyfle gwych i ddangos gwaith rhagorol ein graddedigion. Fel prif ddarparwr addysg Ffotograffiaeth yng Nghymru, mae Prifysgol De Cymru yn falch o weithio mewn partneriaeth â Ffotogallery i gefnogi artistiaid newydd a rhai sydd ar ddechrau eu gyrfa.”

Am fwy o fanylion am Ffocws, ewch i https://www.ffotogallery.org/programme/ffocws