PDC yn lansio Podlediad Seicoleg amserol
11 Mawrth, 2024
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2024/03-march/news-march-klara-price.jpg)
Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi lansio 'Y Soffa Seicoleg', cyfres o bodlediadau a gynhelir gan Dr Klara Price, Seicolegydd Datblygiadol.
Mae Dr Price yn aelod siartredig o Gymdeithas Seicolegol Prydain ac yn arwain cwrs BSc (Anrh) Datblygiad Plentyndod PDC. Gan wahodd gwesteion i 'Y Soffa Seicoleg', bydd hi’n arwain trafodaethau ar sut mae seicoleg yn newid bywydau er gwell trwy lens academyddion seicoleg a'u gwaith.
Bydd penodau yn trafod sut mae tri chynhwysyn allweddol, sef ymchwil, polisi ac ymarfer, yn cydgysylltu ac yn datblygu dealltwriaeth gyffredin ar draws chwe maes: dibyniaeth, iechyd atgenhedlu menywod, iechyd meddwl a gweithgarwch corfforol, lles addysgol, Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar PDC, ac Iechyd a Thai.
Dywedodd Dr Dan Bowers, Pennaeth Seicoleg PDC: "Mae seicoleg yn effeithio ar bopeth o'n cwmpas a bydd y podlediad hwn o ddiddordeb i ystod o wrandawyr. Rwy'n falch iawn o sut mae fy nghydweithwyr wedi dod â hwn at ei gilydd a phwy well i'w gynnal na Dr Price, sydd ag angerdd gwirioneddol dros ddysgu ac sydd wrth ei bodd yn cymryd rhan mewn gwahanol brosiectau a all ychwanegu gwerth at fywydau pobl.
"Mae Klara wedi bod yn rhan o ymchwil a gwblhawyd mewn partneriaeth â sefydliadau allanol fel Linc Cymru (archwilio ymgysylltiad trigolion oedrannus mewn gweithgareddau cymdeithasol mewn lleoliadau gofal ychwanegol), Plant yng Nghymru (gwerthuso Hybiau Cymunedol, fel ffordd o leihau rhwystrau o ran cael mynediad at addysg ymhlith plant sy'n byw mewn tlodi ac aelwydydd incwm isel), a Platfform (gwerthuso eu rhaglen lles ar gyfer disgyblion 13-16 oed). Mae Klara hefyd yn eiriolwr dros ddod â materion y byd go iawn i'r ystafell ddosbarth."
Mae'r bennod gyntaf yn y gyfres yn cynnwys cyd-sylfaenwyr Grŵp Ymchwil Caethiwed PDC a'u gwaith hanfodol ar Niwed i’r Ymennydd sy’n Gysylltiedig ag Alcohol, sy'n cael ei achosi gan yfed alcohol tymor hir.
Bydd penodau yn cael eu rhyddhau bob pythefnos fel podlediadau fideo ar YouTube, yn ogystal â'r apiau podlediad arferol.