Wythnos Ymwybyddiaeth Dyslecsia | "Gallwch chi gyflawni unrhyw beth"

6 Hydref, 2025

Richard Main MBE

Gadawodd Richard Main MBE yr ysgol heb lawer o gymwysterau o gwbl, heb wybod fod ganddo ddyslecsia difrifol. Bellach yn fargyfreithiwr gweithredol, dywed Richard ei fod yn ddyledus i Brifysgol De Cymru am ei yrfa, lle llwyddodd i ddechrau ei daith i'r Gyfraith, a dod yn eiriolwr dros eraill ag anawsterau dysgu.

Yn yr ysgol uwchradd, roedd Richard yn cael ei ystyried yn 'glown y dosbarth' - ei ffordd ef o guddio'r ffaith ei fod yn ei chael hi’n anodd - gydag athrawon yn dweud wrtho nad oedd yn gweithio'n ddigon caled.

"Ro’n i'n byw mewn tŷ cyngor mewn rhan ddifreintiedig o Essex, a gadewais i’r ysgol heb unrhyw gymwysterau go iawn," meddai Richard sydd bellach yn ymddiriedolwr Undeb Myfyrwyr PDC. "Sylweddolais yn ddiweddarach mai gwneud i bobl chwerthin oedd fy strategaeth ymdopi i guddio beth oedd wir yn mynd ’mlaen."

Yna dechreuodd Richard weithio mewn swyddi gwerthu, gan gynnwys gyda gwerthwr ceir. Ond mae'n dweud mai cael ei ddiswyddo yn 2004 oedd yr ysgytwad oedd ei angen arno.

"Ar ôl colli fy swydd dechreues i feddwl, beth ydw i'n mynd i'w wneud gyda gweddill fy mywyd?" meddai. "Dechreuais edrych ar swyddi ro’n i'n meddwl y byddwn i'n eithaf da ynddyn nhw, a rhoddais fy mryd ar ddod yn fargyfreithiwr. Yr unig rwystr fach oedd bod angen gradd yn y Gyfraith arna’ i!"

Yn ystod yr un flwyddyn, roedd mam Richard, Jackie, wedi cael diagnosis o ddyslecsia ac ADHD, ac ar ôl gweld llawer o'r un nodweddion yn ei mab, fe’i hanogodd i fynd am brawf.

Daeth Richard i ddiwrnod agored ym Mhrifysgol Morgannwg (sef enw’r brifysgol ar y pryd), a oedd yn cynnig cwrs Mynediad i Addysg Uwch – y llwybr delfrydol i'r rhai heb gymwysterau traddodiadol fel Safon Uwch ddechrau eu gradd.

"Mae gen i atgofion mor felys o ymweld â'r brifysgol am y tro cyntaf. Yn dod o Essex, doeddwn i erioed wedi gweld cymoedd o'r blaen, ac allwn i ddim credu pa mor brydferth oedd y lle," meddai Richard. "Creodd bopeth yr oedd gan y lle i'w gynnig argraff fawr arna’ i, ac ro’n i ar bigau’r drain i ddechrau arni.

"Ro’n i'n 24 oed pan gofrestrais i, ac ro’n i'n byw mewn llety myfyrwyr gyda llwyth o fois 18 oed, a oedd ychydig yn frawychus ar y dechrau ond yn lot o hwyl.

"Cyn i mi hyd yn oed ddechrau fy narlithoedd, cysylltais â’r tîm Gwasanaethau Myfyrwyr a dweud wrthyn nhw fod fy mam yn ddyslecsig, ac efallai fy mod innau hefyd. Roedden nhw'n anhygoel; fe drefnon nhw asesiad i fi ar unwaith ac edrych ar yr offer oedd ei angen arna’ i.

"Mae gen i adroddiad y seicolegydd addysg o’m hasesiad o hyd, ac er mai 24 oeddwn i, mae'n nodi mai fy oedran darllen a deall oedd chwech, gyda gallu llafar person 24 oed, felly roedd gwahaniaeth enfawr rhwng yr hyn ro’n i’n gallu ei wneud wyneb yn wyneb a'r hyn ro’n i’n gallu ei roi ar bapur.

"Ar ôl i mi gael diagnosis, fe ges i liniadur a byddai cymerwr nodiadau’n dod i'm darlithoedd. Adeiladodd y tîm becyn o'm cwmpas i bob pwrpas, a wnaeth fy ngalluogi i astudio. Roedd y tîm mor gefnogol a daethon nhw’n ffrindiau agos - cymaint felly nes y byddwn i'n galw heibio i'w gweld nhw am baned a sgwrs bob wythnos trwy gydol fy ngradd."

Yn ystod ei gyfnod yn PDC, cymerodd Richard ran mewn cymaint o weithgareddau allgyrsiol ag y gallai, gan gynnwys ailgychwyn Cymdeithas y Cyfreithwyr y brifysgol a threfnu cystadlaethau dadlau – ffug-wrandawiadau llys lle mae myfyrwyr yn gweithredu fel cyfreithwyr, sy’n helpu i ddatblygu sgiliau mewn ymchwil gyfreithiol a dadlau problem gyfreithiol gerbron barnwr. Graddiodd yn 2008 gyda gradd 2:1 yn y Gyfraith, dyfarnwyd Gwobr Cyfraniad yr Athrawon iddo, ac roedd gam yn nes at ei freuddwyd o ddod yn fargyfreithiwr.

"Roedd cofrestru yn Ysgol y Gyfraith BPP i wneud fy hyfforddiant bargyfreithiwr yn brofiad swreal," meddai Richard. "Mewn dosbarth o 12, roedd o leiaf chwech o’m cyd-ddisgyblion yn dod o brifysgolion mawreddog fel Rhydychen a Chaergrawnt, a dyna lle’r oeddwn i.

"Roedd hi'n flwyddyn anodd. Roedd ysgol y gyfraith yn gwybod am fy anawsterau dysgu, ond do’n i ddim yn teimlo ’mod i wedi cael y gefnogaeth ges i yn y brifysgol. Do’n i ddim yn teimlo'n ddigon hyderus i'w herio nhw i gael y gefnogaeth yr oedd ei hangen arna’ i. Ro’n i ar goll yn yr amgylchedd yna – aeth rhai o’m carfan ymlaen i ddod yn Arglwyddi’r Gyfraith. Roedden nhw'n bobl hynod ddeallus, a do’n i ddim eisiau cyfaddef bod gen i anawsterau dysgu difrifol."

Er gwaethaf ei brofiad ar y cwrs, llwyddodd Richard i basio a chafodd ei alw i'r Bar – ond roedd eto i wynebu ei her anoddaf.

"Ro’n i wedi derbyn fy mherwig a'm gŵn, a dathlu cymhwyso gyda chinio braf, ond cyn i mi allu dechrau ymarfer fel bargyfreithiwr, roedd angen i mi wneud fy nhymor prawf – cyfnod hyfforddi gorfodol yn y swydd lle byddwn i'n gweithio dan oruchwyliaeth bargyfreithwyr profiadol – i ddatblygu'r sgiliau ymarferol yr oedd eu hangen arna’ i.

"Mae’r cyfnod prawf yn broses hynod gystadleuol; mae Siambrau’n derbyn tua 3,000 o geisiadau bob blwyddyn, felly mae mynd drwy’r cam gwaith papur i'r cam cyfweliad yn her enfawr.

"Er fy mod i wedi gwneud fy addysg orfodol, doedd fy sgiliau ysgrifenedig ddim yn agos at y safon angenrheidiol, yn enwedig o gymharu â’r lleill oedd yn gwneud cais am gyfnod prawf. Felly, heb fod  yn syndod, wnes i ddim hyd yn oed derbyn ymatebion i'm ceisiadau am yr ychydig flynyddoedd cyntaf."

Er mwyn ennill cymaint o brofiad llys a drafftio ag y gallai, dechreuodd Richard weithio fel eiriolwr i'r Swyddfa Gartref, gan gynrychioli'r Llywodraeth mewn tribiwnlysoedd mewnfudo a delio â miloedd o apeliadau, yn amrywio o amddiffyn i allgludo ac achosion hawliau dynol.

Ar ôl 13 mlynedd yn y rôl, gyda degawd o brofiad yn y llys a sgiliau ysgrifennu gwell, penderfynodd Richard wneud cais am gyfnod prawf eto – ac yn gynharach eleni, cafodd gynnig lle yn Siambrau Rowchester yn Birmingham.

"Dwi mor ddiolchgar i'm siambrau i," meddai Richard. "Dwi’n gyfreithiwr cenhedlaeth gyntaf yn fy nheulu sydd wedi dod o gefndir gwahanol iawn i'ch bargyfreithiwr cyffredin, ac maen nhw wedi rhoi cyfle i mi. Maen nhw'n falch o gyflogi bargyfreithwyr o gymunedau ethnig leiafrifol a rhai ag anableddau - gan gynnwys galluoedd niwroamrywiol - felly mae'n teimlo fel y bartneriaeth berffaith."

Rhan bwysig arall o fywyd Richard yw ei rôl fel Cadeirydd Ymddiriedolwyr The Cascade Foundation – elusen a sefydlodd gyda'i fam a'i frawd yn 2013 i gefnogi'r rhai sydd â dyslecsia ac anawsterau dysgu eraill.

Mae'r Cascade Foundation wedi helpu mwy na 12,500 o bobl ledled y wlad a thu hwnt, gan helpu pobl i gael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnyn nhw, ennill cymwysterau ac, os oes angen, torri'r cylch troseddu, gyda llawer yn mynd ymlaen i ddechrau eu busnesau eu hunain ar ôl gadael y carchar.

Mae gwaith rhyfeddol yr elusen wedi arwain at ei chrybwyll yn Nhŷ'r Cyffredin, cymryd rhan mewn pwyllgorau seneddol, a Jackie yn derbyn OBE yn 2018, gyda Richard yn derbyn MBE yn 2020.

"Dro ar ôl tro, rydyn ni wedi gweld pobl o gefndiroedd difreintiedig yn byw gyda dyslecsia heb ei ddiagnosio a phobl yn dweud wrthyn nhw eu bod nhw’n 'dwp' ac na ddaw dim ohonyn nhw," meddai Richard.

"Ar ôl bod yno fy hun, mae'n hynod werth chweil gweld y gwahaniaeth y gall help llaw ei wneud yn trawsnewid bywydau. Rydw i hefyd yn llywodraethwr ysgol, yn gweithredu fel cyswllt rhwng yr adran AAA (anghenion addysgol arbennig) a'r ymddiriedolwyr, a byddaf yn parhau i ledaenu'r gair y gallwch chi gyflawni unrhyw beth y rhowch eich bryd arno, hyd yn oed os ydych chi'n ddyslecsig.

"Heb gefnogaeth PDC, fyddwn i byth wedi gwybod bod gen i anawsterau dysgu. Dwi mor ddiolchgar iddyn nhw am roi’r cyfle i mi fynd ar y daith anhygoel hon."

Os ydych chi'n fyfyriwr yn PDC sydd â dyslecsia neu anhawster dysgu penodol arall, gall y Tîm Cyngor ar Anabledd roi cyngor ac arweiniad ar sut i gael mynediad at gymorth ac addasiadau yn y brifysgol.