Y Brifysgol yn derbyn cyllid ar gyfer rhandir a gardd synhwyraidd newydd ar gyfer Campws
2 Gorffennaf, 2026
Mae'r Brifysgol wedi sicrhau pecyn cyllid gwerth oddeutu £17,000 drwy fenter Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, Cadwch Gymru'n Daclus i greu rhandir a gardd synhwyraidd newydd ar y campws.
Bydd y prosiect yn gweld tri gwely rhandir uchel a gardd synhwyraidd wedi'u sefydlu ar dir y tu ôl i J Bloc. Mae'r cyllid yn dilyn proses ymgeisio lwyddiannus ac ymweliad safle, gyda chadarnhad y dyfarniad wedi'i dderbyn ym mis Mai 2026.
"Bydd y rhandir newydd hyn yn ychwanegiad ardderchog i'r man gwyrdd ar gampws Trefforest. Bydd yn helpu i roi hwb i fioamrywiaeth a chyflawni rhan o Gynllun Gweithredu Bioamrywiaeth PDC. Mae hefyd yn rhoi cyfle gwych i staff a myfyrwyr fynd yn yr awyr agored a gweithio gyda'i gilydd i dyfu ffrwythau a llysiau, ac i fanteisio arno". Aimee Ward, cadeirydd y grŵp gweithredu.
Disgwylir i'r gosodiad ddechrau ym mis Medi, gyda deunyddiau yn cyrraedd fesul cam dros sawl wythnos. Bydd yr ardal newydd yn cefnogi bioamrywiaeth, cynaliadwyedd a lles wrth wella amgylchedd y campws ar gyfer staff, myfyrwyr ac ymwelwyr.
"Mae cael mynediad i ardd yn golygu llawer i fyfyrwyr. Mae'n lle gallwch ymlacio a mwynhau natur wrth gymryd rhan yn ymarferol hefyd. O ran dosbarthiadau sy'n seiliedig ar wyddoniaeth fel Bioleg Gwyllt Rhyngwladol neu Fioleg, gallwn ddysgu yn ymarferol y prosesau sy'n digwydd mewn twf planhigion a chyfranogiad anifeiliaid. Gallaf ddweud bod llawer o bobl yn gyffrous i weld y broses a chynorthwyo gyda'r prosiect hwn." Hailey Forrest, Cadeirydd Cymdeithas Natur Undeb y Myfyrwyr