Os ydych yn gyflogai newydd i Brifysgol De Cymru, mae'r cynllun pensiwn a gynigir i chi yncael ei ddarparu gan Teachers Pensions.
Os ydych chi'n cael eich cyflogi gan Professional and Support Services Limited, y cynllun pensiwn a gynigir i chi yw'r Cynllun Flex AU, wedi’i ddarparu gan Aviva.
Os ydych yn gyflogai presennol i Brifysgol De Cymru, darperir y cynllun pensiwn a gynigir i chi gan y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Mae'r cynllun hwn ar gau i weithwyr newydd.
Eich Pensiwn
Yn agored i weithwyr newydd Prifysgol De Cymru.
Ar hafan Teachers Pensions fe welwch yr holl wybodaeth mewn perthynas â’r Cynllun, gan gynnwys y canlynol:
Yn agored i weithwyr newydd Professional and Support Services Limited (PSS Ltd).
Cyfraniadau pensiwn
Y lefelau cyfraniadau rhagosodedig yw:
| Cyfraniad cyflogai | Cyfraniad cyflogwr |
|---|---|
| 3% | 6% |
Mae gennych hefyd yr opsiwn i dalu cyfraniad uwch, gyda chyfraniad y cyflogwr yn cyfateb i hynny, gan ddewis o:
| Cyfraniad cyflogai | Cyfraniad cyflogwr |
|---|---|
| 4% | 7% |
| 5% | 8% |
| 6% | 9% |
| 7% | 10% |
| 8% | 11% |
| 9% | 12% |
Dim ond mewn pwyntiau canradd cyfan y gellir dewis y cyfraniadau ychwanegol hyn, hyd at uchafswm cyfraniad gweithwyr o 9%.
Gallwch ddewis yr opsiwn i dalu cyfraniad uwch.
Aberthu cyflog
Mae gennych yr opsiwn o aberthu cyflog fel rhan o'r cynllun pensiwn hwn. Mae hon yn ffordd dreth-effeithlon o wneud cyfraniadau pensiwn: rydych chi'n hepgor rhan o'ch cyflog i'w dalu i mewn i'ch pensiwn (eich aberth) drwy PSS Ltd, ynghyd â chyfraniad y cyflogwr. Gan fod eich cyflog wedyn yn is i bob pwrpas, rydych chi'n talu treth incwm a Chyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYGau) is.
- Mae'r cwmni wedi ymrwymo i nifer o fesurau diogelu i gefnogi cydweithwyr. Mae'r rhain yn cynnwys cynnal cyflog tybiannol (cyfeirio) sy'n cyfateb i’ch cyflog cyn yr aberth, fydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cyfrifo tâl absenoldeb sy'n gysylltiedig â’ch teulu (gan gynnwys absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu, rhieni a thadolaeth ac ati), buddion yswiriant bywyd/Yswiriant Salwch Difrifol, a thaliadau diswyddo. Yn ogystal, mae rheolaethau ar waith gyda’r gyflogres i sicrhau nad yw trefniadau aberthu cyflog yn golygu bod eich cyflog yn disgyn islaw trothwyon statudol, ac felly yn diogelu eich hawl i gael taliadau statudol fel tâl mamolaeth statudol, tâl tadolaeth statudol, tâl rhieni a rennir statudol, a thâl diswyddo statudol.
- Os byddwch yn ymuno â phensiwn Aviva, gyda chynllun Buddion Diffiniedig, ac yn gadael y cynllun yn ystod y ddwy flynedd gyntaf, efallai na fyddwch yn gallu derbyn ad-daliad o'ch cyfraniadau gan y byddai unrhyw gyfraniadau aberthu cyflog yn cyfrif fel cyfraniadau cyflogwr. Os byddwch yn ymuno â'r cynllun ac yn ei adael ar ôl mwy na 30 diwrnod o aelodaeth, ni fydd gennych yr opsiwn o ad-daliad a bydd y cyfraniadau yn aros yn y gronfa ar gyfer eich ymddeoliad.
- Gall cyflog is effeithio ar y swm y gallwch ei fenthyca ar gyfer morgais (sydd fel arfer yn cael ei gyfrifo ar sail lluosrif o'ch cyflog).
Sylwer: ni allwch ddefnyddio’r cynllun aberthu cyflog os byddai'n lleihau eich enillion islaw'r Cyflog Byw.
Os ydych chi am optio allan o Aberth Cyflog, byddwch chi'n gallu trefnu hyn gydag Aviva yn uniongyrchol, ar ôl i chi gofrestru.
Yswiriant Salwch Difrifol
Bydd holl gydweithwyr newydd PSS Ltd yn cael eu cofrestru'n awtomatig i yswiriant salwch difrifol Aviva. Os hoffech optio allan, cysylltwch â [email protected]
- Mae'r yswiriant yn talu cyfandaliad o 1 x cyflog blynyddol pan geir diagnosis o salwch difrifol cymwys.
- Mae'r yswiriant yn cael ei drin fel budd trethadwy mewn nwyddau/gwasanaethau a bydd yn cael ei drethu drwy’r gyflogres pob mis yn seiliedig ar ei werth misol.
- Bydd y budd yn dod i ben ar ôl cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth.
Mae rhagor o wybodaeth am Yswiriant Salwch Difrifol Aviva ar gael ar eu gwefan.
Yswiriant Bywyd
Mae yswiriant bywyd grŵp ar gael ar unwaith ac yn awtomatig ar gyfer holl weithwyr Professional Support Services Limited (y Cwmni) sy’n ymuno â’r Cynllun Pensiwn ar eu cyfle cyntaf i wneud hynny.
Cynllun Yswiriant Bywyd
Darparwyd y ddogfen hon gan Aviva, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
Bereavement counselling and probate helpline guide
Dim ond cynghorwyr ariannol ardystiedig all roi cyngor i chi am yr hyn y gallech ei wneud â'ch materion ariannol. Nid ydym yn y sefyllfa honno ac felly, ni allwn awgrymu beth y dylech neu na ddylech ei wneud.