“Pan oeddwn i'n 16 oed, dechreuais weithio mewn banc ac roeddwn i wir yn casáu’r gwaith. Cefais sgwrs, yn ffortunus iawn, gyda fy meddyg teulu. Gan fod gennyf anabledd gydol oes, roeddwn i’n rhyngweithio â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn weddol reolaidd. Roeddwn i’n sgwrsio â fy meddyg teulu am yrfaoedd, a dywedodd wrtha i, gwnewch rywbeth rydych chi’n gyfarwydd ag e. Felly, dywedais mewn ffordd ddigon ffwrdd â hi ’mod i’n gyfarwydd ag ysbytai gan fy mod wedi defnyddio llawer iawn o adnoddau'r GIG ac wedi treulio llawer o amser yn yr ysbyty yn ystod fy mhlentyndod, ac roedd fy mrawd ar y pryd hefyd yn sâl iawn ac roeddwn i’n ymwneud â rhywfaint o'i ofal clinigol. Ac fe ofynnodd y meddyg, pam nad ystyriwch chi hynny fel gyrfa?
“Fe ddes i'n ategol nyrsio mewn uned oedrannus sy'n sâl yn feddyliol fel y'u gelwid yn y dyddiau hynny. Roeddwn i wrth fy modd. Roedd fy swydd nyrs staff gyntaf yn ysbyty St Thomas yn Llundain, ar ward feddygol gyffredinol. Yna symudais i wroleg, a sylweddoli’n gyflym mai'r hyn roeddwn i’n ei garu oedd nyrsio llawfeddygol. Rwy'n nyrs llawfeddygol o fy nghorryn i’m sawdl, ac roeddwn i wrth fy modd gydol fy nghyfnod ar y ward wroleg. Roedd yn gyfnod cwbl wych – cyfuniad o lawdriniaethau trwm difrifol ynghyd â phroblemau wrolegol hirdymor oedd angen ymyriad llawfeddygol, gydag wroleg feddygol, ac ati.
"Roeddwn i’n gweithio gydag wrolegydd ymgynghorol o’r enw Chris Fowler, ar brosiect ymchwil mawr, aml-ganolfan oedd yn cymharu dwy driniaeth lawfeddygol wahanol. Yna gofynnwyd i fi weithio gyda chleifion allanol, gweld cleifion a'u hasesu yn y bôn, ac yna gyflwyno fy asesiadau i'r ymgynghorydd, ac roedd hynny'n ddiddorol iawn ac yn gymharol anarferol ar y pryd. Tra oeddwn i’n gwneud hynny, rhwng 1998 a 2001, fe wnes i hefyd fy ngradd meistr mewn ffisioleg.
“Tra oeddwn i’n gweithio gyda Chris, daeth e’n arweinydd yn yr Ysgol Feddygol ar gyfer Addysg Feddygol, a gofynnodd i fi arwain ambell grŵp dysgu-ar-sail-problem. Dechreuais wneud hynny ochr yn ochr â fy ngwaith clinigol. Fe wnes i rywfaint o addysgu ar gyfer Prifysgol City, Llundain. Yn 2002 des i’n ddarlithydd mewn Gwyddorau Biolegol Cymhwysol. Flwyddyn neu ddwy yn ddiweddarach, ces i fy mhenodi’n Bennaeth yr Adran Gwyddorau Biolegol Cymhwysol. Ochr yn ochr â hyn, fe wnes i barhau i weithio yn y clinig, a dechreuais fy PhD. Fe ddes i’n ddeon cyswllt nyrsio a bydwreigiaeth (2010), ac yn ddiweddarach yn ddeon cyswllt, a chyfarwyddwr astudiaethau israddedig yn yr Ysgol Iechyd, lle gweithiais tan fis Rhagfyr 2014, yn gweithio gyda swyddogion arweiniol nyrsio, bydwreigiaeth, radiograffeg, optometreg a therapi lleferydd ac iaith.
"Fe ges i gontract Er Anrhydedd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn yr Adran Wroleg yn 2015. Rwy’n gwneud un clinig yr wythnos, neu ychydig o glinigau’r mis, mewn wroleg, yn benodol anhawster codiadau, er bod cleifion weithiau'n hepgor y broses brysbennu ac mae’n rhaid i fi dwrio’r cof am yr hyn rwy’n ei wybod am glefyd y prostad ac ati. Mae wedi fy ngalluogi i barhau i wneud ymchwil i wahanol bethau sy'n digwydd mewn wroleg. Fe wnes ambell bapur ar gyfer y Fframwaith Rhagoriaeth mewn Addysg yn 2014 a 2021, ac rwy'n dal i geisio cyfuno hynny gyda fy swydd ddydd i ddydd.
"Y peth rwy'n ei garu fwyaf am nyrsio yw y gallwch chi wneud gwahaniaethau bach heb hawlio llawer o sylw. Rydych chi'n ceisio gwneud gwahaniaeth i bob claf, ond rydych chi'n anhysbys, felly does dim rhaid i chi fod ar flaen y llwyfan. Yn amlwg, mae'r claf yn gwybod ei fod yn cael ei nyrsio, ond dyw e ddim yn gwybod yn iawn pwy ydw i. Dim ond nyrs arall ydw i.
"Rwy'n credu mai'r hyn sy’n bwysig i fi, a'r rheswm pam rwy'n dal wrthi, yw eich bod chi dal yn ceisio gwneud gwahaniaeth i'r person o'ch blaen, yn dal i geisio bod yn dosturiol, yn empathig, ac yn gobeithio gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn y ffordd fwyaf urddasol bosibl. Rwy'n hoffi gweithio yn y cefndir, yn ceisio annog llwyddiant mewn eraill, ac mewn nyrsio, mae'n caniatáu i mi geisio gwneud gwahaniaeth yn dawel fach.
"Feddyliais i erioed y byddwn i’n Ddirprwy Is-Ganghellor. Erioed. Roedd gen i feddwl agored pan es i mewn i nyrsio, ac yn sylweddoli nad oedd o reidrwydd yn arwain at gyrchfan benodol.
"Rwy'n cofio rhywun yn dweud nad ydych chi'n dod o hyd i yrfa mewn nyrsio, mae'r yrfa'n dod o hyd i chi. Ac rwy'n credu bod nyrsio'n anhygoel oherwydd mor hynod eang y mae’r cyfleoedd, yr unig gyfyngiadau mewn gwirionedd yw eich dychymyg eich hun mewn ffordd. Ond rwyf hefyd yn cydnabod bod pobl eraill yn cyflawni rôl enfawr o ran eich cynnydd - mae cydweithwyr yn y GIG a sectorau gofal eraill wedi galluogi i hyn i gyd ddigwydd hefyd.
"Mae nyrsys yn cael eu hystyried weithiau fel grŵp homogenaidd, a phan fyddwn yn sôn am nyrsio mae pobl yn tueddu i feddwl am nyrsio ar wardiau, ond yn amlwg, mae’n gymaint mwy na hynny. Mae gyda ni gydweithwyr cymunedol, iechyd meddwl, anabledd dysgu, mae gyda ni dimau allgymorth, pob math o bethau, ond mae'n dueddol o gael ei ddistyllu i'r hyn sy'n digwydd yn yr ysbyty neu ar y wardiau. Weithiau, dyw’r cyhoedd ddim wir yn deall talentau a sgiliau nyrsys.
"Rwy’n credu nad yw ‘gofal’ yn cael ei ddeall yn llawn, ond byddwch yn gwybod yn iawn pan fyddwch wedi cael gofal da."