Gwybodaeth raddio ar gyfer gweithwyr
Y tîm Arholiadau, Ardystio a Graddio sy'n gyfrifol am reoli seremonïau graddio'r Brifysgol ddwywaith y flwyddyn, ynghyd â chynhyrchu tystysgrifau a thrawsgrifiadau. Mae'r tîm yn rheoli pob agwedd ar y seremonïau, o wahoddiadau a thocynnau i luniau a rhaglenni seremoni.
Seremonïau Graddio
Bob blwyddyn academaidd, cynhelir dwy gyfres o Seremonïau Graddio, ym mis Gorffennaf ac ym mis Rhagfyr.
Cynhelir seremonïau graddio mis Gorffennaf mewn tri lleoliad:
- Campws Pontypridd – ar gyfer myfyrwyr a astudiodd ar gampws Trefforest a champws Glyntaf
- Neuadd Dewi Sant, Caerdydd – ar gyfer myfyrwyr a astudiodd ar gampws Caerdydd
- Theatr Glan yr Afon – ar gyfer myfyrwyr a astudiodd ar gampws y Ddinas
Cynhelir seremonïau graddio mis Rhagfyr ar gyfer yr holl fyfyrwyr ar gampws Pontypridd.
Dyddiadau Seremonïau