Amgylchiadau Esgusodol
Os ydych chi'n profi amgylchiadau a allai effeithio ar eich gallu i berfformio mewn asesiadau, efallai y gallwch wneud cais am Amgylchiadau Esgusodol. Egwyddor allweddol y rheoliadau hyn yw darparu cydraddoldeb i bob myfyriwr mewn perthynas â'r asesiadau y mae'n ofynnol iddynt eu cyflawni yn ystod eu cwrs. Nod y Brifysgol yw sicrhau nad yw myfyriwr sydd ag amgylchiadau esgusodol profedig o dan anfantais annheg o ganlyniad; ar yr un pryd, ni fydd myfyrwyr ag amgylchiadau esgusodol â mantais anghyfartal dros fyfyrwyr eraill.
Am gopïau o'r Ffurflen Amgylchiadau Esgusodol a'r canllawiau, cysylltwch â'r Ardal Gynghori ar eich campws neu ewch i’r Ardal Gynghori Ar-lein (Advice Zone Online).
Mae rheoliadau blynyddoedd blaenorol ar gael ar gais gan yr Uned Gwaith Achos Myfyrwyr. Anfonwch e-bost at: [email protected]
Ym mis Rhagfyr 2020, cyhoeddodd Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol dros Addysg Uwch (OIA) fframwaith arfer da newydd ar ‘Ceisiadau am Ystyriaeth Ychwanegol’ (Amgylchiadau Esgusodol). Yn dilyn hynny, adolygwyd a diwygiwyd Rheoliadau a Gweithdrefn Amgylchiadau Esgusodol y Brifysgol i ystyried y fframwaith a'r diwygiadau newydd a gymeradwywyd trwy strwythurau trafod y Brifysgol.
- Newidiadau i leoliad yr adrannau drwy'r ddogfen
- Cynnwys adran benodol ar fonitro ac atgyfeirio i weithdrefnau eraill (B8 8.6-8.8)
- Cynnwys adran yn manylu ar y weithdrefn ar gyfer ceisiadau gan fyfyrwyr ag anabledd/cyflwr hirsefydlog (B5)
- Eglurhad nad yw myfyrwyr yn gallu hunanardystio yn ôl-weithredol (B4 4.4)
- Cynnwys opsiynau ar gyfer myfyrwyr wrth gyflwyno hawliad (B3 3.6)
- Cynnwys cyfeiriad at y Polisi Myfyrwyr sydd wedi'u Dileu newydd (B2 2.8)
- Cynnwys pwysigrwydd myfyrwyr yn anelu at gwblhau eu gwaith o fewn y terfynau amser arferol (A2 2.8)
- Diwygio cyfeiriadau o'r Weithdrefn Addasrwydd i Astudio at y Weithdrefn Cymorth i Astudio o ganlyniad i newidiadau arfaethedig i'r gyfres hon o reoliadau a gweithdrefnau (A2 2.5 / B8 8.6)
- Diwygiadau i'r geiriad at ddiben egluro (A1 1.1 / A2 2.6, 2.10 / B3 3.1 / B4 4.1, 4.2 / B9 9.2 / B10 10.4, 10.5 / B13 13.1)
Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) bellach wedi disodli'r Ddeddf Diogelu Data. Mae eglurhad o sut y bydd y Brifysgol yn defnyddio eich data ar gael yma ac yn y Cynllun Cyfathrebu uchod. Noder, yn unol â Rheoliadau GDPR, na dderbynnir unrhyw dystiolaeth ategol trydydd parti oni bai bod Ffurflen Ganiatâd Trydydd Parti wedi'i llenwi gyda hi.