Rheoliadau Myfyrwyr

Pan fyddwch chi'n cofrestru fel myfyriwr ym Mhrifysgol De Cymru, rydych chi'n cytuno i gydymffurfio â Cod Ymddygiad Myfyrwyr a holl reoliadau a gweithdrefnau eraill y Brifysgol. Mae rheoliadau a gweithdrefnau'r Brifysgol yn amlinellu ein hymagwedd at ddysgu, addysgu ac asesu yn ogystal â materion ymddygiad academaidd ac anacademaidd a chwynion ac apeliadau, ac fe’u cynllunir i sicrhau bod y Brifysgol yn gweithredu'n deg ac yn gyson mewn perthynas â phob myfyriwr.

Rheoliadau Trefniadau Eithriadol

Yn unol â Rheoliadau'r Brifysgol ar gyfer Cyrsiau a Addysgir, rhoddwyd y Rheoliadau Trefniadau Eithriadol (Adran 7) ar waith ar 15 Mai 2023. Cafodd y rhain eu diweddaru a'u cymeradwyo gan y Bwrdd Academaidd ym mis Ebrill 2023. Mae hyn er mwyn galluogi Byrddau Asesu i bennu canlyniadau modiwlau, penderfyniadau dilyniant a dyfarniadau, lle bynnag y bo modd, gan ystyried yr holl wybodaeth sydd ar gael.

Ar gyfer myfyrwyr PDC sydd wedi dechrau astudiaethau er 2013. Gellir dod o hyd i gysylltiadau i fersiynau blaenorol o'r Rheoliadau ar gyfer Cyrsiau a Addysgir hefyd trwy ddilyn y cyswllt uchod.

Rheoliadau Gradd

Cefnogaeth yn PDC

Mae gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i bob myfyriwr yn PDC ar gael yma.

Myfyrwyr ag Anableddau

Os ydych yn mynd drwy weithdrefn gwaith achos, bydd y tîm Gwaith Achos Myfyrwyr yn cysylltu â Gwasanaeth Anabledd a/neu Wasanaeth Lles y Brifysgol i weld a ydych wedi cofrestru gyda nhw.

Bydd y tîm Gwaith Achos Myfyrwyr yn cysylltu â'r gwasanaethau perthnasol wrth ystyried unrhyw gymorth ychwanegol y gallai fod ei angen arnoch, ac yn ystyried y canlynol:

  • A yw'r weithdrefn sy'n cael ei dilyn yn eich rhoi dan anfantais?
  • Beth ellir ei wneud i atal yr anfantais hon?
  • A fyddai'n rhesymol i ni gymryd y camau hynny?

Dyma rai enghreifftiau o'r math o gymorth y gallwn gytuno i'w darparu:

  • Estyniadau i'n hamserlenni arferol
  • Darparu dogfennaeth mewn fformat penodol
  • Seibiau rheolaidd yn ystod cyfarfodydd
  • Cymeradwyaeth i berson cymorth weithredu fel eich cynrychiolydd

Ymddygiad Annerbyniol

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth teg, hygyrch a chyson i'w holl fyfyrwyr, yn enwedig y rhai sy'n cyrchu gweithdrefnau gwaith achos myfyrwyr. Fodd bynnag, mae gennym hefyd ddyletswydd gofal i'n staff ac o ganlyniad, ni fyddwn yn goddef ymddygiad yr ystyrir ei fod yn annerbyniol neu'n afresymol. Mae'r canllawiau isod yn manylu ar sut rydym yn rheoli'r lleiafrif o fyfyrwyr y mae eu gweithredoedd yr ydym yn eu hystyried yn annerbyniol a / neu'n afresymol ac yn rhwystro gallu staff i gyflawni gweithdrefnau'r Brifysgol.

Dyddiadau Cau Asesu

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Gwybodaeth a Chymorth gydag Asesiadau

Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol (OIA)

Mae Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol (OIA) yn gorff annibynnol a sefydlwyd i adolygu cwynion myfyrwyr. O dan Ddeddf Addysg Uwch 2004 mae Prifysgol De Cymru yn tanysgrifio i'r cynllun annibynnol ar gyfer adolygu cwynion myfyrwyr (gan gynnwys cwynion i benderfyniadau ynghylch apeliadau a chamymddwyn gan fyfyrwyr).