Mae gan y Brifysgol gyfrifoldeb i sicrhau bod myfyrwyr sy'n astudio ar rai cyrsiau yn addas i fod yn gymwys yn eu proffesiynau priodol, waeth a yw eu perfformiad yn dda mewn asesiadau a’i peidio a pheidio cyflawni trosedd benodol. Gellir asesu addasrwydd i ymarfer myfyriwr am nifer o resymau, er enghraifft, problem sy'n gysylltiedig â chyffuriau / alcohol, salwch meddwl neu unrhyw gyflwr neu anhrefn a fyddai'n cael effaith andwyol ar berfformiad y myfyriwr. Mae gan y Brifysgol gyfrifoldeb i ddelio â myfyrwyr o'r fath i sicrhau nad ydynt yn gymwys i ymarfer mewn proffesiwn pan fernir nad ydynt yn addas i wneud hynny. Gall hyn hefyd fod yn berthnasol i fyfyrwyr eraill sy'n gweithio ar gyfer cymwysterau proffesiynol, er enghraifft mewn proffesiynau eraill sy'n gysylltiedig â meddygaeth.

Cwestiynau Cyffredin

Mae rheoliadau blynyddoedd blaenorol ar gael ar gais gan yr Uned Gwaith Achos Myf`yrwyr. Anfonwch e-bost at: [email protected]

Cod Ymddygiad Myfyrwyr

  • Cynnwys adran sy'n datgan y bydd recordio, copïo neu ddosbarthu recordiadau neu ddeunydd ysgrifenedig heb awdurdod yn cael ei ystyried yn drosedd ddisgyblu (paragraff 3.7)
  • Cynnwys diffiniadau ychwanegol/diwygiedig o dan Gamymddwyn Rhywiol (paragraff 6.3.2)

Rheoliadau Camymddwyn Anacademaidd

  • Cynnwys proses i ganiatáu i'r Myfyriwr sy'n Ymateb gael y cyfle i gadarnhau neu wadu bod toriad honedig o'r Cod Ymddygiad wedi digwydd (paragraff 2.9)
  • Cynnwys enghreifftiau o ffactorau lliniaru, gwaethygol a chyfansoddol (paragraffau 2.43-2.45)
  • Amnewid y broses 'Achos Pryder' flaenorol gyda phroses newydd (paragraffau 4.19-4.24)
  • Cyfeiriad at y system Adrodd a Chymorth fel mecanwaith adrodd (paragraff 4.25)

Gweithdrefnau Camymddwyn Anacademaidd

  • Cynnwys enghreifftiau o'r hyn a fydd yn cael ei ystyried wrth ystyried cais am gynrychiolaeth gyfreithiol (Ceisiadau am Gynrychiolaeth Gyfreithiol, paragraff 5)
  • Cynnwys manylion rôl person sydd â chymwysterau cyfreithiol y Brifysgol (Ceisiadau am Gynrychiolaeth Gyfreithiol, paragraff 7)
  • Cynnwys rhagor o fanylion am sut y gwneir penderfyniadau ynghylch a ddylid adrodd am ddigwyddiad i'r heddlu yn erbyn dymuniadau'r Parti sy’n Adrodd (Gweithdrefn Asesu Risg, paragraff 4)
  • Eglurhad o'r broses pan nad yw'r Parti sy’n Adrodd eisiau i'r Myfyriwr sy'n Ymateb gael gwybod am unrhyw ystyriaethau o dan y Weithdrefn (Gweithdrefn Asesu Risg, paragraff 5)
  • Amnewid y broses 'Achos Pryder' flaenorol gyda phroses newydd (Gweithdrefnau Addasrwydd i Ymarfer – Gweithdrefn ar gyfer Cam 1)

  • Gweithdrefn Ar Gyfer Cam 1: Achos Pryder Cymraeg | Saesneg
  • Gweithdrefn Ar Gyfer Adrodd Am Bryderon Ynghylch Myfyrwyr Ôl-Gofrestru Ar Gyrsiau Nad Ydynt Yn Arwain At Anodiad/Cofrestriad Pellach Cymraeg | Saesneg
  • Adran Pedwar: Canllawiau Ar Gyfer Gweithredu Cosbau 2024-2025 Cymraeg | Saesneg
  • Gweithdrefn Ar Gyfer Ymchwiliadau I Achosion O Gamymddygiad Myfyrwyr Cymraeg | Saesneg
  • Gweithdrefn Ar Gyfer Gwrandawiadau Pwyllgor Disgyblu/Addasrwydd I Ymarfer 2024-2025 Cymraeg | Saesneg
  • Gweithdrefn Ar Gyfer Ceisiadau Am Adolygiad 2024-2025 Cymraeg | Saesneg
  • Gweithdrefn Ar Gyfer Ceisiadau Am Gynrychiolaeth Gyfreithiol 2024-2025 Cymraeg | Saesneg
  • Gweithdrefn Asesu Risg 2024-2025 Cymraeg | Saesneg
  • Pwyllgor Disgyblu'r Brifysgol Siart llif Cymraeg | Saesneg
  • Siart llif Asesiad Risg Cymraeg | Saesneg

Mae rheoliadau blynyddoedd blaenorol ar gael ar gais gan yr Uned Gwaith Achos Myfyrwyr. Anfonwch e-bost at: [email protected] 

Achos o Bryder 

Os credir bod myfyriwr wedi torri safonau neu ymddygiad proffesiynol, dylid llenwi Ffurflen Achos o Bryder a'i hanfon at yr arweinydd cwrs priodol, a fydd yn trafod y mater gyda phennaeth yr ysgol. Os yw'n briodol, bydd y mater yn cael ei gyfeirio i Banel Achos o Bryder Cyfadran. Bydd y panel yn penderfynu ar y camau nesaf, a allai fod yn penderfynu bod angen cymryd camau pellach, sefydlu cynllun gweithredu neu gyfeirio at ymchwiliad o dan y Rheoliadau Addasrwydd i Ymarfer.

Cais am Adolygiad

Mae gan fyfyrwyr yr hawl i ofyn am adolygiad o'r gosb a osodwyd gan y Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer. Ni ellir ystyried ceisiadau am adolygiad oni bai eu bod yn bodloni'r rhesymau dros adolygu fel y nodir yn y rheoliadau. Rhaid i'r cais am adolygiad gael ei gyflwyno i'r Uned Gwaith Achos Myfyrwyr ar y ffurflen gywir a dylid ei dderbyn o fewn 10 diwrnod gwaith i'r hysbysiad ffurfiol o ganlyniad y Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer.

  • Ffurflen Gais am Adolygiad o Benderfyniad Addasrwydd i Ymarfer Cymraeg | Saesneg
  • Nodiadau Cyfarwyddyd ar gyfer Ffurflen Gais am Adolygiad o Benderfyniad Addasrwydd i Ymarfer Cymraeg | Saesneg

Mae'r canlynol yn newidiadau allweddol i reoliadau gwaith achos myfyrwyr ar gyfer blwyddyn academaidd 2023-24:

  • Eglurhad mai'r Weithdrefn sy'n berthnasol fydd y Weithdrefn sy'n weithredol yn ystod y flwyddyn y daw'r honiad i law (1.2)
  • Cynnwys adran ar gosbau posibl (4.1- 4.11)
  • Eglurhad y bydd y Swyddog Ymchwilio fel arfer yn un o Swyddogion Ymchwilio Proffesiynol y Brifysgol ac y gall y Brifysgol, mewn rhai amgylchiadau, benderfynu cyflogi ymchwilydd arbenigol o'r tu allan i'r Brifysgol (7.1.7)
  • Eglurhad, pan ddaw astudiaethau myfyriwr ar ei gwrs i ben, bydd y gosb yn cael ei chadarnhau gan yr Is-ganghellor (neu ei enwebai) os nad yw Cadeirydd y Pwyllgor yn aelod o’r Weithrediaeth (7.27)
  • Cynnwys yr opsiwn i Fyfyriwr sy’n adrodd (lle bo'n berthnasol ac wedi'i ddosbarthu fel tyst at ddiben y Weithdrefn) fynychu gwrandawiad (7.42)
  • Cynnwys canllawiau ar gyfer rhoi cosbau (adran 11)

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) bellach wedi disodli'r Ddeddf Diogelu Data. Mae eglurhad o sut y bydd y Brifysgol yn defnyddio eich data ar gael yma ac yn y Cynllun Cyfathrebu uchod. Noder, yn unol â Rheoliadau GDPR, na dderbynnir unrhyw dystiolaeth ategol trydydd parti oni bai bod Ffurflen Ganiatâd Trydydd Parti wedi'i llenwi gyda hi.