Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu addysg a chymorth o ansawdd uchel i'w myfyrwyr.  Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gallai fod gennych bryderon weithiau ynghylch darpariaeth eich cwrs a/neu wasanaethau cysylltiedig.

Rhaid codi pryderon o fewn tri mis i’r adeg y digwyddodd yr hyn sy’n sail iddynt.  Mae hyn yn ei gwneud hi'n llawer haws i ni ymchwilio iddynt yn drylwyr.  Efallai y byddwn yn penderfynu peidio â gweithredu ymhellach ar eich cwyn os na fyddwch chi'n ei chodi o fewn y cyfnod o dri mis a’n bod o’r farn nad ydych wedi rhoi rheswm da dros yr oedi.

Mae ein Rheoliadau a Gweithdrefnau yn amlinellu'r broses rydyn ni'n ei defnyddio i ddelio ag apêl.

Rheoliadau a Gweithdrefnau 2026/27

Ffurflenni

Efallai y bydd y dogfennau canllaw canlynol hefyd yn ddefnyddiol: 

Mae rheoliadau'r blynyddoedd cyn hynny ar gael ar gais oddi wrth yr Uned Gwaith Achos Myfyrwyr. E-bostiwch: [email protected].

Rheoliadau Cwynion Myfyrwyr

  • Ar 1.4, mae gwrthdaro cwmpas wedi'i gywiro mewn perthynas ag apeliadau ar gyfer myfyrwyr mewn sefydliadau partner.
  • Ar 2.15, mae wedi cael ei egluro na fydd y Brifysgol yn derbyn cwynion lle gellir dod i gasgliadau yn gynnar.
  • Ar 3.5, Mae canllawiau wedi'u hychwanegu mewn perthynas â chyflwyno tystiolaeth sensitif.
  • Ar 3.8, Ychwanegwyd eglurhad mewn perthynas â hyblygrwydd fel addasiad rhesymol.
  • Ar 3.9, Ychwanegwyd rhagor o wybodaeth am addasiadau rhesymol.
  • Ar 5.4, mae arwyddion i CCAUC wedi'u disodli gan arwyddion i Medr.

 

Gweithdrefn Cwyno Myfyrwyr

  • Ar 5.4, mae arwyddion i CCAUC wedi'u disodli gan arwyddion i Medr.

Nod y Brifysgol yw sicrhau bod ei safonau ansawdd yn cael eu cadw wrth gynnal ei harholiadau.  O ganlyniad, mae proses ar wahân wedi'i rhoi ar waith i'ch galluogi i roi gwybod am unrhyw faterion sy'n gysylltiedig â chynnal arholiad sydd wedi peri anfodlonrwydd i chi.  Dylid cyflwyno hyn o fewn pum diwrnod gwaith o'r arholiad.

Mae rhagor o fanylion ar sut i roi gwybod am broblem gydag arholiad ar gael yma.

Mae’r Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) wedi disodli’r Ddeddf Diogelu Data.  Mae esboniad o sut bydd y Brifysgol yn defnyddio'ch data yma ac yn y Cynllun Cyfathrebu ar frig y dudalen hon.  Sylwer, yn unol â Rheoliadau GDPR, dim ond os bydd Ffurflen Caniatâd Trydydd Parti wedi'i chwblhau (ar gael o dan Ffurflenni) y bydd unrhyw  dystiolaeth trydydd parti ategol yn cael ei derbyn.