Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Beth Jenkins

Mae Beth Jenkins yn trafod sut y daeth yn ddarlithydd seiberddiogelwch arobryn, a’i huchelgeisiau i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arbenigwyr seiber.

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Yn enillydd tair gwobr, yn ddeiliad gradd a gradd Meistr, yn gyn-arbenigwr fforensig yr heddlu, ac erbyn hyn yn ddarlithydd seiberddiogelwch, nid lwc a arweinodd Beth Jenkins i'r lle mae hi heddiw – gwaith caled yw'r gyfrinach.

Ond, i'r ferch 25 oed o Gaerffili, mae gwrthsefyll y demtasiwn i ddweud ei bod hi'n 'lwcus' o fod wedi cyflawni cymaint yn ifanc yn bwysig iawn iddi, yn enwedig gan ei bod yn anelu at ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o arbenigwyr seiber, a dim ond chwarter y gweithlu byd-eang hwnnw a oedd yn cynrychioli menywod y llynedd.

Dechreuodd llwybr Beth i'w rôl bresennol ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) yn Ysgol St Cenydd yng Nghaerffili, lle enillodd bedwar Lefel A - hanes, TGCh, Saesneg ac astudiaethau crefyddol – ac yna mynychodd PDC fel myfyriwr israddedig, lle gwnaeth radd mewn fforensig cyfrifiadurol ac yna gradd Meistr mewn seiberddiogelwch.

Fel rhan o'i gradd, treuliodd Beth flwyddyn ar leoliad gwaith yn yr uned fforensig ddigidol yn Heddlu Gwent, ac yna sicrhaodd rôl gyda'r Heddlu pan orffennodd ei chwrs ôl-raddedig, yn 22 oed.

"Ar ôl i mi gwblhau fy ngradd Meistr, gweithiais fel arholwr fforensig digidol gyda Heddlu Gwent, yna ar ôl tua chwech mis camais i fod yn arbenigwr ansawdd yn y labordai," meddai.

"Roeddwn i’n wastad eisiau mynd i faes cydymffurfiaeth, felly roedd y swydd hon yn berffaith, gan fy ngalluogi i helpu i sicrhau bod yr holl brosesau y mae'r heddlu'n eu cyflawni yn eu gwaith fforensig cymhleth o'r ansawdd uchaf, gan gynnal eu hachrediad a gorfodi'r gofynion i sicrhau eu bod yn hollgynhwysol yn gyfreithiol."

Er ei bod hi, fel mae hi'n ei ddisgrifio, ‘wrth ei bodd’ yn cael y swydd yn Heddlu Gwent, roedd yn wastad gan Beth awydd i fynd i faes arall o waith, a neidiodd at y cyfle pan gododd.

"Mae addysgu bob amser yn rhywbeth roeddwn i eisiau ei wneud, felly pan ddaeth y cyfle i weithio yn y Brifysgol doeddwn i ddim wir yn gallu anwybyddu'r cyfle," meddai.

"Roedd pawb yn arfer dweud, hyd yn oed pan o'n i'n fach, 'Mae Beth yn sicr o fod yn athrawes', achos o'n i’n wastad wrth fy modd efo'r syniad o'i wneud. Yna es i i wirfoddoli yn fy hen ysgol gynradd pan oeddwn yn yr ysgol uwchradd.

"Yr unig beth wnaeth fy rhoi oddi ar ddysgu mewn ysgol gynradd oedd byddai'n rhaid i mi ddysgu Saesneg, mathemateg, gwyddoniaeth, hanes, popeth, ond roeddwn i wir eisiau arbenigo mewn seiber, oherwydd dyna beth roeddwn i'n dwli arno a dyna beth rydw i'n dwli arno o hyd.

"Pan ddechreuais fy ngradd rwy'n cofio edrych o gwmpas ar y darlithwyr a meddwl eu bod mor anhygoel ac fe roedden nhw’n gallu gwneud y gorau o'r ddau fyd i mi - yr addysgu, yr ydw i’n dwli arno, ac fe wnaethant ddysgu fforensig digidol yn benodol, rhywbeth roeddwn i hefyd wrth fy modd gyda fe.

"Roedd yn rhywbeth roeddwn i wir yn dwli arno ac eisiau mynd yn ôl i mewn iddo, ac roeddwn i'n lwcus iawn bod Heddlu Gwent yn iawn gyda mi yn rhoi darlithoedd gwadd yn y Brifysgol.

"Pan wnes i gais am y swydd fel darlithydd mewn fforensig digidol yn PDC doeddwn i wir ddim yn meddwl y byddwn i'n ei gael, oherwydd roeddwn i'n eithaf ifanc ac nid oeddwn yn siŵr fy mod wedi cael y profiad, hyd yn oed ar ôl y cyfweliad roeddwn i'n meddwl y byddai'n dda mynd drwy'r broses.

"Yna cefais yr e-bost i ddweud fy mod i wedi cael y swydd ac roeddwn i wedi cael fy rhieni i’w ddarllen a, fel, gwirio ddwywaith fy mod wedi ei ddarllen yn gywir oherwydd fy mod i wedi cael cymaint o sioc."

DWI'N HOFFI MEDDWL AMDANO FEL DATHLIAD, DIWRNOD I FENYWOD YM MHOBMAN DDATHLU PA MOR BELL MAEN NHW WEDI DOD.

Beth Jenkins

Darlithydd mewn Fforensig Digidol

Ar ôl sicrhau ei 'swydd ddelfrydol', mae Beth hefyd wedi cael ambell beth arall i'w dathlu yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Fis Medi diwethaf, cafodd ganmoliaeth uchel yng Ngwobr Alan Turing yn y Gwobrau Seiber Cenedlaethol, ac enillodd ddwy flynedd yn olynol yn y Gwobrau Seiberddiogelwch, gan gipio Newydd-ddyfodiad y Flwyddyn yn 2022 a Phersonoliaeth Seiber y Flwyddyn 2023, sy'n cydnabod unigolyn eithriadol sydd wedi dangos arweinyddiaeth, eiriolaeth ac arbenigedd rhagorol ym maes seiberddiogelwch.

Ond ydy hyn yn gwneud i Beth deimlo bod ganddi gyfrifoldeb i annog mwy o ferched a menywod i'r sector seiber?

"Tipyn bach," meddai. "Doeddwn i ddim wedi arfer, yn enwedig gan mai dim ond cyfnod byr ydw i wedi bod yn y diwydiant yma wrth ystyried popeth. Fodd bynnag, hyd yn oed yn y cyfnod byr hwnnw rwyf wedi llenwi fy CV trosiadol ac wedi llwyddo i greu rhywfaint o enw i mi fy hun yn y diwydiant hwn.

"Pan fyddaf yn dweud wrth bobl beth rydw i wedi'i wneud ac rwy'n dechrau rhestru’r holl gynadleddau seiber hyn rydw i wedi bod iddyn nhw - rydw i wedi gwneud Europol dair gwaith, rydw i wedi gwneud y Magnet - sy'n gynhadledd fyd-eang - ac rwy'n gwneud hynny ddwywaith, ac yn gweithio gyda'r Rheoleiddiwr Gwyddor Fforensig, maen nhw'n edrych wedi’u synnu'n fawr, yn enwedig pan maen nhw'n sylweddoli fy oedran."

Y ffaith hon sydd wedi arwain Beth i ymladd yn ôl yn erbyn ymateb cyffredin y mae llawer o bobl yn ei gael i lwyddiant, gan gredu eu bod yn 'lwcus' o fod wedi cyflawni'r hyn sydd ganddynt.

"Roeddwn i'n aml yn arfer dweud fy mod i wedi bod yn lwcus i wneud enw i mi fy hun, ond mewn gwirionedd mae angen i mi atal fy hun rhag dweud hynny," meddai.

"Dwi wedi gweithio mor galed ar gyfer hyn - dwi wedi rhoi gwaed, chwys, a dagrau llythrennol i mewn i fy ngyrfa achos dyna’r hyn dwi'n dwli arno, a dyna’r hyn dwi mor frwdfrydig ac angerddol amdano."

O ran eraill sydd am fynd i mewn i'r diwydiant seiber, mae Beth yn cynghori eu bod yn gwrthod derbyn nad ydyn nhw'n perthyn.

"Does dim angen i chi gael eich dychryn os ydych chi'n gwybod beth rydych chi'n sôn amdano, pa bynnag oedran ydych chi, neu os ydych chi'n fenyw neu'n ddyn."

"Byddwn i'n mynd i gynadleddau ac edrych o gwmpas yr ystafell a byddai 200, 300, 400 o bobl yno, a byddai 90% da ohonyn nhw, os nad mwy, yn ddynion. Ond dyw bod yn wahanol ddim yn rhwystr os ydych chi'n gwybod eich stwff, ac rydw i eisiau annog eraill i sylweddoli hynny."

Ar ôl dangos bod gwaith caled, ac nid lwc, wedi bod yn allweddol i'w llwyddiant, beth fyddai Beth yn ei ddweud y mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ei olygu iddi, yn enwedig gan fod ei ffocws yn 2024 yw ysbrydoli cynhwysiant.

"Dwi'n hoffi meddwl amdano fel dathliad, diwrnod i fenywod ym mhobman ddathlu pa mor bell maen nhw wedi dod," meddai.

"Mae dyfyniad da iawn o'r ffilm Barbie yr ydw i’n ei ddefnyddio mewn cyflwyniadau, yr ydw i’n meddwl ei bod yn crynhoi fy syniadau, 'Rydym famau yn sefyll yn llonydd fel y gall ein merched edrych yn ôl i weld pa mor bell y maent wedi dod'.

"Rwy'n hoffi'r syniad hwnnw, mae'n adlewyrchu'r diwydiant seiber a sut mae menywod eraill sydd wedi gweithio'n galed yn mynd i'n cael ni hyd yn oed ymhellach."