‘Ti dy hun yw dy elyn cyntaf.’
Mae Dr Mabrouka Abuhmida yn esbonio sut mae geiriau ysbrydoledig ei thad wedi helpu ei gyrfa, a’i hymdrechion i rymuso’r genhedlaeth nesaf.
Diwrnod Rhyngwladaol Y Menywod Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/04-profiles/45-university-staff/profile-academic-staff-computing-msc-artificial-intelligence-dr-mabrouka-abuhmida-49674.jpg)
O'r holl fodelau rôl a allai fod wedi ysbrydoli llwyddiant Dr Mabrouka Abuhmida yn y maes cyfrifiadureg, y mae dynion yn ei ddominyddu cymaint, geiriau syml o anogaeth gan ei thad sydd wedi arwain ei siwrnai yn y maes hwnnw.
"Ti dy hun yw dy elyn cyntaf. Ti yw'r person sy'n rhoi'r cyfyngiadau arnat ti dy hun - ond torra dy reolau, chwala dy waliau, ac fe synni di beth rwyt ti’n gallu ei wneud."
Gyrrodd y meddylfryd hwn Mabrouka yn ei blaen ar daith sydd wedi arwain at fod yn ddarlithydd cyfrifiadureg ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), ac yn fodel rôl i ferched ifanc eraill sydd efallai eisiau dilyn yn ôl ei throed.
Dechreuodd taith Mabrouka i'w swydd bresennol yn ei dinas enedigol, Tripoli yn Libya. Tra oedd hi yno, rhoddodd gychwyn ar ei hastudiaethau, gan ganolbwyntio gyntaf ar beirianneg. Fodd bynnag, wedi symud i Abertawe yn 2008, aeth ar drywydd gwahanol – ac ennill gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn systemau cyfrifiadurol electronig ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe i ddechrau, ac wedyn gradd Meistr mewn rhwydweithiau cyfrifiadurol drwy Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Aeth yn ei blaen i gwblhau PhD mewn systemau cyfathrebu a chyfrifiadureg, tra hefyd yn astudio ar gyfer Tystysgrif Ôl-radd.
Ar ôl cwblhau'r astudiaethau hyn, dechreuodd y fam 37 oed rôl addysgu ym Mhrifysgol Abertawe, cyn symud i Brifysgol De Cymru (PDC) i ymgymryd â'i rôl bresennol.
Er gwaethaf ymateb amheus gan rai, bu symud i Dde Cymru yn ysbrydoliaeth i Dr Abuhmida.
"Roedd yn ddoniol, pan symudais i Abertawe, gwnaeth rhai ei disgrifio fel ‘mynwent uchelgais’, ond roedd fy mhrofiad i’n gwbl groes i hynny," dywedodd.
"Roedd fy ngŵr wedi bod yn Abertawe, ac fe syrthiais mewn cariad â'r ddinas. Roeddwn i eisiau bod ger y môr, ac roedd y cyfan yn berffaith, cael astudio yno ac wedyn cael swydd yn fy maes dewisol."
A hithau eisoes wedi cael blas ar lwyddiant yn ei maes astudio a'i gyrfa gynnar - yn PDC mae hi'n arweinydd cwrs i fyfyrwyr sydd am arbenigo mewn deallusrwydd artiffisial, yn arbenigwraig ar ddysgu dwfn, ac yn arwain ar ymchwil yn y meysydd hynny - mae Mabrouka â’i bryd ar ddefnyddio ei phrofiadau hi i helpu eraill i oresgyn yr heriau y gallant eu hwynebu.
Ac, er mawr syndod efallai, mae'r dull gwahanol o ymdrin ag addysg i fenywod yn Libya o’i gymharu â’r DU, wedi helpu i arwain ei hymdrechion i rymuso'r genhedlaeth nesaf.
"Pan oeddwn i'n astudio yn Libya roedd 90% o'r bobl yn y dosbarthiadau yn fenywod," dywedodd.
"Mae hynny oherwydd bod addysg menywod wedi cael ei stigmateiddio yn y gorffennol, ond wedi manteisio ar lawer o waith wedyn i gefnogi addysg menywod. Felly daeth yn rhywbeth naturiol i fod mewn ystafell lawn menywod oedd ar flaen y gad o ran eu gyrfaoedd, ac roeddwn i’n cymryd eu presenoldeb yn ganiataol braidd.
"Yn yr un modd, pan ddes i i'r DU, wnes i ddim wir sylwi i ddechrau ar absenoldeb menywod yn yr ystafelloedd roeddwn i’n mynd iddyn nhw. Roedd llawer o sôn yma am y prinder menywod ym maes STEM, ond doedd e ddim ar flaen fy meddwl i ddechrau gan nad oedd yn rhywbeth roeddwn i erioed wedi ei ystyried yn ôl yn Libya."
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/04-profiles/45-university-staff/profile-academic-staff-computing-msc-artificial-intelligence-dr-mabrouka-abuhmida-52263.jpg)
Doedd y gwahaniaeth yma rhwng y ddwy wlad ddim yn her i Mabrouka i ddechrau, ond fe ddechreuodd effeithio arni ymhen ychydig fisoedd ar y cwrs.
"Yr anhawster i fi, ar ôl tua chwe mis, oedd ’mod i’n ei chael hi'n anodd bod yr unig fenyw yn y dosbarth, a neb i droi ato - neu ati," eglurodd Mabrouka.
"Roedd y lleill yn y dosbarth yn fonheddig iawn, yn agor drysau i fi ac yn aros i fi eistedd gyntaf, ac fe wnaeth fy nharo i fy mod i'n wahanol ac nad oedd gennym bethau yn gyffred"I fi, pan fydda i'n helpu eraill yn uniongyrchol, rwy'n gallu defnyddio fy mhrofiadau o ddysgu i’w gwthio eu hunain i’w herio eu hunain, gobeithio," dywed Mabrouka.in sydd fel arfer yn dod â phobl at ei gilydd.
"Dyma pam gwnes i ddechrau dysgu mwy am y bwlch yn y maes, gan geisio deall gwreiddiau'r broblem, nad oedd wedi fy nharo gynt.
"Ond roeddwn i yn gwybod bod y pethau symlaf yn peri anhawster i fi - siarad gerbron torf, fy mynegi fy hun mewn ystafell ddosbarth, codi fy llaw - achos byddai pawb yn edrych arna i, yr unig fenyw yn yr ystafell. A dyma sylweddoli wedyn bod hon yn broblem sydd wedi ei gwreiddio’n gynnar mewn bywyd - mae gweld tebyg i chi'n gwneud y pethau rydych chi'n angerddol drostyn nhw mor bwysig, ond dim ond pan mai fi oedd yr unig fenyw yn yr amgylchedd hwnnw y gwnaeth e fy nharo."
Yn sgil y profiadau hyn cafodd Mabrouka ei hysbrydoli i weithio mewn ffordd fyddai’n grymuso'r genhedlaeth nesaf o ferched, ac erbyn hyn mae’n rhan fawr o’i chenhadaeth wrth fynd i ymweld ag ysgolion - gyda chefnogaeth tîm dynodedig yn PDC - i ddisgrifio ei phrofiadau, cyflwyno darlithoedd academaidd, a chynnal sesiynau ymarferol yn uniongyrchol i bobl ifanc.
"Rwy'n canolbwyntio ar yr hyn rwy'n ei alw'n 'dringo'r mynydd', gan dynnu sylw at faterion fel rhagfarn anymwybodol, disgwyliadau cymdeithasol, a'r angen i fod yn ymwybodol o’r pethau hynny. Rwyf hefyd yn siarad â nhw am eu grymuso eu hunain. Mae'n iawn i fi eu hannog nhw - ond mae hyd yn oed yn fwy pwerus ac yn cael mwy o effaith pan fo’n dod o'r tu mewn iddyn nhw.
"Mae gwahaniaeth hefyd rhwng bod yn glyfar a bod yn ddeallus. Dydw i ddim yn credu mewn bod yn ‘glyfar’, mae'n syniad sydd wedi ei greu gan gymdeithasau i gyfyngu ar ein galluoedd. Rwy'n credu mewn 'deallusrwydd', sydd ym mhob un ohonon ni. Mae rhai ohonon ni'n sylwi arno ac yn ei ddatblygu, bydd yn gudd mewn eraill oherwydd yr holl ffactorau allanol sy’n effeithio arnon ni.
"A phan allwch chi helpu unigolion i ddarganfod eu sgiliau eu hunain, sef yr hyn rwy'n ceisio’i wneud yn y sesiynau ymarferol rwy'n eu cynnal, rydych chi’n gweld pob math o unigolion – y rhai mewnblyg a’r rhai allblyg – yn derbyn y galluoedd sydd ganddyn nhw, ac yn dod i ddeall y gallan nhw wneud mwy na'r hyn maen nhw wedi meddwl y gallan nhw.
"Mae'r darlithoedd academaidd hefyd yn rhoi cyfle i fi gynnig ychydig mwy o anogaeth. Er bod y ffocws ar bynciau technegol, rwy'n gallu defnyddio peth o fy nghefndir personol i annog pobl. Rwy’n dweud wrthyn nhw, os galla i wneud hyn – yn ifanc, yn rhywun o wlad arall, yn fenyw sy’n wyddonydd cyfrifiadureg, yn arbenigwraig, yn rhaglennydd, yn rhywun sy’n canu’r gitâr ac sy’n dwlu ar ffotograffiaeth - os galla i gyflwyno hyn oll, gallwch chithau hefyd."
Yn ogystal â defnyddio geiriau doeth ei thad i'w hysbrydoli a sicrhau llwyddiant mawr yn barod, mae Mabrouka hefyd wedi dysgu am bwysigrwydd grŵp allweddol arall sy'n gallu arwain llwyddiant unigolyn – cydweithwyr sy’n cynnig cymorth ar hyd y ffordd.
"Mae cael y bobl iawn o'ch cwmpas ac yn eich arwain yn hanfodol i'ch llwyddiant," meddai.
"Rhywbeth sydd wedi dylanwadu’n fawr arna i yn fy ngwaith yw fy mod i wedi cael pobl o fy nghwmpas oedd yn credu ynof fi. Yn rheolwyr, yn arweinwyr, roedden nhw’n gallu gweld fy mhotensial ac roedden nhw yno i fy nghefnogi i wneud yr hyn roedd angen i fi ei wneud.
"Ac mae hynny'n wir i bawb. Rhowch gyfle i bobl weithio o’u pen a’u pastwn eu hunain, peidiwch â gor-reoli pob dim, credwch ynddyn nhw, ac fe wnaiff hynny wahaniaeth mawr iddyn nhw a'r tîm maen nhw'n rhan ohono."