Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Dr Sarah Crews

Mae Dr Sarah Crews, Pennaeth Cerdd a Drama, yn archwilio rôl merched mewn bocsio, a’r cyfraniadau y maent wedi’u gwneud i hanes cyfoethog y gamp.

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
international-womens-day-sarah-crews-50631

Mae gan Dr Sarah Crews, Pennaeth Cerdd a Drama, ac Uwch-ddarlithydd mewn Perfformio a’r Cyfryngau, ddiddordeb penodol mewn bocsio a hunaniaeth.

Mae ei hymchwil yn rhychwantu bocsio menywod yng Nghymru – y gorffennol, y presennol a’r dyfodol – rhyw a pherfformiad mewn bocsio, a rôl bocsio mewn diwylliannau corfforol a gweledol yn ehangach.

Dechreuodd Sarah ar ei PhD ar ôl datblygu diddordeb mewn meddwl yn feirniadol am rai o’r materion mwyaf oedd yn wynebu ei maes pwnc ar y pryd. Roedd ei thraethawd ymchwil yn seiliedig ar themâu craidd a oedd wedi dod i’r amlwg ynghylch cymeriadau benywaidd cryf, cymhleth a heriol yn y theatr, a sut mae perfformwyr yn ymdrin â nhw yn ystod y broses ymarfer.

Yn dilyn ei PhD, dechreuodd Sarah gyfuno ei gwaith â diddordeb mewn bocsio menywod a, thrwy weithio gyda’i chydweithiwr Matthew Gough – Uwch-ddarlithydd mewn Dawns – creodd gynhyrchiad dawns 30 munud o’r enw Ymladd, gyda myfyrwyr Dawns a oedd yn cynnwys y perfformwyr yn ymgymryd â hyfforddiant bocsio dwys, a chafodd ei ddangos yn Nhŷ Dawns Cymru yn 2019.
 
Darganfu Sarah gariad at focsio yn ddiweddarach yn oedolyn, ar ôl diffyg mwynhad i raddau mewn chwaraeon yn yr ysgol, ac mae'n dal i fwynhau hyfforddi bob wythnos. Ar ôl tyfu i fyny gyda dau frawd hŷn, mae Sarah bob amser wedi bod yn ymwybodol ei bod yn gamp sy’n cael ei dominyddu gan ddynion yn hanesyddol, ac mae’r ymwybyddiaeth hon wedi chwarae rhan fawr yn ei hymchwil presennol.

Meddai: “Roeddwn i’n arfer gwylio bocsio proffesiynol gyda fy mrodyr, a does gen i ddim cof o’r prif gemau bocsio yn sôn o gwbl am focswyr benywaidd. Roeddwn i wastad wedi ystyried fy hun yn dipyn o ‘tomboy’ pan oeddwn i’n iau, felly doedd bod yn y gofodau hynny lle’r oedd dynion yn drech na menywod byth yn fy nharfu i.

“Yn ystod fy ugeiniau, treuliais flynyddoedd yn hyfforddi gyda dynion a oedd dros 6 troedfedd, ac yn pwyso tri ohonof fwy na thebyg, ond ni fyddwn yn meddwl ddwywaith am ddal y padiau iddyn nhw, gan baffio gyda nhw. Mae yna ymdeimlad o gyfeillgarwch mewn bocsio - does neb byth yn edrych i'ch brifo chi - felly er fy mod i'n llai, doeddwn i byth yn teimlo'n wahanol oherwydd roeddwn i'n gallu cadw i fyny gyda nhw.

“Nawr, rydw i wedi sylwi ar wahaniaeth enfawr. Trwy fy ymchwil, a fy mhrofiad fy hun o hyfforddi, deallaf fod gwahaniaethau mawr rhwng cyrff gwrywaidd a benywaidd, a gwahanol fathau o gyrff.

 

DW I’N GOBEITHIO PARHAU I DAFLU GOLEUNI AR Y PETHAU ANHYGOEL Y MAE’R MENYWOD HYN WEDI’U CYFLAWNI

Dr Sarah Crews

Pennaeth Cerdd a Drama

“Gall fod yn anodd, yn enwedig mewn amgylchedd sy’n cael ei ddominyddu gan ddynion yn bennaf, addasu ymarferion penodol neu efallai dynnu’n ôl pan fydd pawb arall yn taflu eu hunain o gwmpas, gan nad ydych chi eisiau teimlo’n wan, neu gael eich gweld yn wan.

“Dydw i erioed wedi teimlo felly’n bersonol yn amgylchedd y gampfa, ond mae fy ymchwil wedi fy ngwneud yn fwy ymwybodol o nid yn unig yr anghydraddoldebau rhwng chwaraeon dynion a menywod yn gyffredinol, ond hefyd sut mae athletwyr benywaidd angen dull gwahanol o hyfforddi o bryd i’w gilydd. Mae diffyg gwybodaeth gwirioneddol am sut mae cyrff benywaidd yn perfformio’n wahanol ar wahanol adegau. Nid yw’r dull ‘un ateb sy’n addas i bawb’ yn gweithio.”

Yn gynharach eleni, treuliodd Sarah wythnos yn y lleoliad bocsio eiconig Gleason's Gym yn Efrog Newydd, yn cyfweld â bocswyr benywaidd. Bu hefyd yn cyfweld â Mariam ‘Lady Tyger’ Trimiar, y bocsiwr benywaidd cyntaf i gael ei thrwyddedu yn y ddinas, am rai o’r heriau a wynebodd yn ystod ei gyrfa focsio.

Meddai: “Siaradodd Lady Tyger yn agored am y ffaith nad oedd ystafelloedd newid ar wahân i ddynion a menywod ar y pryd, felly byddai’n rhaid iddi newid mewn cwpwrdd ac roedd yn ymwybodol bod pobl yn ysbïo arni. Roedd hi hyd yn oed yn destun aflonyddu rhywiol gan hyfforddwyr, a siaradodd am beidio â chael ei chymryd o ddifrif fel paffiwr – mae hynny’n thema graidd ym mhob un o’m cyfweliadau; mae'n ymddangos bod menywod yn gorfod profi eu hunain hyd yn oed yn fwy oherwydd eu bod yn focswyr benywaidd.

“Mae’r anghydraddoldebau a’r heriau hynny i fenywod ym myd bocsio yn dal yn fyw iawn. Gwelwn benawdau Katie Taylor a Nicola Adams – y bocswyr anhygoel hyn sydd wedi cyflawni pethau gwych ac yn ennill miliynau, ond yn anffodus nid dyna’r realiti. Maen nhw’n eithriad.”

Mae gan ymchwil diweddaraf Sarah ffocws Cymreig penodol, gan archwilio sut y gellir integreiddio manteision cyfranogiad menywod mewn bocsio i gwricwlwm yr ysgol, a sut y gellir datblygu llwybrau i fenywod ifanc a merched mewn bocsio i symud ymlaen y tu hwnt i hyfforddiant dyddiol i lefel elitaidd.

Mae hi hefyd yn adeiladu ar ei hymchwil yn Efrog Newydd, gan archwilio gwaith actifyddion dylanwadol menywod ym myd bocsio. Bydd y gwaith hwn yn cyfrannu at ei monograff, ‘Trailblazing and Troublemaking: Labour, Legacies and Limitations in Women’s Boxing’, a rhaglen ddogfen hir y mae’n ei datblygu gyda phaffiwr o Swindon.

Dywedodd Sarah: “Ni wnaed bocsio menywod yn gyfreithlon yn y DU tan 1998. Mae meddwl ei fod yn ystod fy oes yn ymddangos yn anhygoel, felly dw i’n meddwl ei bod yn bwysig cydnabod cyflawniadau menywod yn y gamp, sydd wedi bod yn aml yn hanesyddol yn guddiedig ac felly yn angof.

“Er enghraifft, roedd gan Efrog Newydd grŵp o focswyr o’r enw Royal 6 – menywod a oedd yn wynebu brwydrau’n unigol, ond roedden nhw’n cydnabod, trwy gydweithio, y gallent ddefnyddio eu platfform i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o ganser y fron, trais rhywiol a materion eraill na sonnir yn aml amdanynt.

“Daeth bocsio, mewn ffordd, yn gyfrwng i gael pobl i siarad, ac felly dw i’n gobeithio parhau i daflu goleuni ar y pethau anhygoel y mae’r menywod hyn wedi’u cyflawni.”