Jane Ludlow MBE
"Mae pobl yn dal I ofyn a oes angen diwrnod rhyngwladol y menywod."
Diwrnod Rhyngwladol y Menywod Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/16-other/campaigns/international-womens-day-jayne-ludlow.jpg)
I Jayne Ludlow, sydd newydd ei phenodi yn Bennaeth Chwaraeon ym Mhrifysgol De Cymru, mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn gyfle i ddathlu’r gwaith gwych sy’n digwydd yn enw cydraddoldeb.
“Yn anffodus, mae pobl yn dal i ofyn a oes angen Diwrnod Rhyngwladol y Menywod,” meddai.
“Mae cymdeithas yn newid er gwell, ac efallai yn y dyfodol fe fyddwn yn cytuno ei fod yn ddiangen. Ond ar hyn o bryd, mae angen dirfawr i amlygu’r bobl sy’n gwneud pethau gwych er lles menywod, ac mae’n rhaid inni barhau i herio’r norm.”
Mae gan Jayne, sydd wedi hen arfer â gweithio mewn amgylchedd llawn dynion, 61 o gapiau’n chwarae pêl-droed i Gymru, cyn iddi ymddeol a mynd ar drywydd gyrfa hyfforddi. Roedd hi’n Gyfarwyddwr Academi Arsenal, ac yna’n Gyfarwyddwr Pêl-droed yn Reading cyn dychwelyd i Gymru i reoli’r tîm cenedlaethol, gan eu harwain at eu safle uchaf yn y byd erioed.
“Mae’r 20 i 30 mlynedd diwethaf wedi bod yn amrywiol iawn i bêl-droed menywod. Yn anffodus, gallech chi ddweud ei fod yn un o’r diwydiannau sy’n newydd-ddyfodiad o ran cynhwysiant,” dywedodd.
“Wedi dweud hynny, rwyf wedi achub ar y cyfle i greu llwybr i’r chwaraewyr a fydd yn dod ar f’ôl i. Rwy’n un o’r cenhedlaeth o chwaraewyr benywaidd sydd wedi cael effaith bositif ar y gêm. Mae Emma Hayes, fy hyfforddwr yn Arsenal pan enillon ni Gynghrair y Pencampwyr, wedi gwneud llawer iawn o waith ar ran menywod yn y gamp. Bydd hi’n rheoli tîm cenedlaethol yr Unol Daleithiau, ac mae’n debyg mai hi yw’r hyfforddwraig mwyaf arobryn yn y byd.
“Yn yr un modd, ro’n ni’n chwarae ar yr un tîm ag Alex Scott am 13 mlynedd yn Arsenal. Roedd hi’n ferch ifanc cystadleuol iawn, a byddai hi fyth yn derbyn ‘na’. Roedd hi brwdfrydedd yn sicr o fynd â hi yn bell, ac mae’n hyfryd gweld ei llwyddiannau.”
Mae Jayne wedi’i dylanwadu gan lawer o fenywod cryf yn ei bywyd ers pan roedd hi’n ifanc iawn. Ei mam gysylltodd â Chymdeithas Pêl-droed Cymru, gan ddod o hyd i dîm i Jayne. Yn fanno, Tongwynlais Ladies, gwnaeth ffrindiau am oes.
Dywedodd, “Roedd grŵp o chwaraewyr hŷn a oedd yn gofalu amdanaf fi.”
“Ond rwy’n cofio gweld arweinyddiaeth fenywaidd go iawn yn ein Capten yn Barry Town, Wendy Reilly. Roedd hi’n anhygoel ac yn ddeallusol dros ben yn emosiynol. Cafodd bod yn dyst i’w harweinyddiaeth pan ro’n i’n 15 i 17 argraff fawr iawn arna’ i. Dw i’m yn siŵr a yw hi’n sylweddoli pa mor ddylanwadol oedd hi i mi a phobl eraill yn y gamp.”
“Hyd yn oed cyn hynny, pan ro’n i’n 12 oed, a dywedodd rhywun na allwn chwarae mwyach oherwydd y bandiau oedran a’r ffaith fy mod yn fenyw, gwnaeth Carol Haskins yn Treherbert Boy’s Club ei gorau glas i sicrhau fy mod i’n dal i chwarae. Doedd dim llawer o gyfleoedd i fenywod chwarae pêl-droed yng Nghymru, ond sylweddolodd Carol a’i gwr ar f’angerdd a rhoi llawer iawn o gymorth i mi.”
Mae gan Jayne atgofion melys o dyfu i fyny yng nghymoedd de Cymru gyda chymorth ei theulu, ffrindiau a mentoriaid.
“Mae pobl yn aml yn meddwl mae’n siŵr ei fod wedi bod yn anodd yn tyfu i fyny yn y cymoedd, ond mae’r gwir i’r gwrthwyneb. Ro’n i wrth fy modd. Doeddwn i’m yn gwybod yn wahanol, ac ro’n ni’n hapus iawn yn ein byd bach ein hun.
“Ro’n ni’n manteisio i’r eithaf ar yr hyn oedd gennym ni. Ro’n i’n mwynhau’r golygfeydd, yr amgylchedd a’r gymuned. Wrth edrych yn ôl, roedd hyn oll yn fy mharatoi i fod yr athletwr rydw i heddiw. Doedd dim llawer iawn i’w wneud pan ro’n i’n ifanc, ro’n i’n cadw fy hun yn ffit iawn, a dyna oedd fy hobi! Ro’n i naill ai yn rhedeg neu’n cymryd rhan mewn chwaraeon.
“Ro’n i wrth fy modd yn yr ysgol oherwydd dw i’n dwlu ar ddysgu pethau newydd. Roedd chwaraeon yn ategu fy hyder hefyd.”
Mae Jayne yn cyfaddef nad oedd angen iddi feddwl am gydraddoldeb rhwng y rhywiau pan roedd hi’n ifanc.
“Bryd hynny, ro’n i’n breuddwydio am rywbeth hollol digynsail. Roedd pobl yn gofyn... Beth wyt ti’n feddwl, ti eisiau chwarae pêl-droed?”
“Dw i’n meddwl bod fy rhieni wedi’m hamddiffyn, i ryw raddau, rhag rhai agweddau ar gymdeithas bryd hynny, ac roedd o’n mynd dros fy mhen i’n llwyr. Ro’n i’n hoffi chwarae pêl-droed gyda’r bechgyn, rhedeg i fyny’r mynydd a gwneud pethau nad oedd merched eraill yn eu mwynhau. Doedd dim wir angen imi ystyried sut roedd bod yn ferch yn cael effaith arnaf fi. Do’n i heb feddwl felly,” eglurodd.
“Pan ro’n i’n ifanc ac yn chwarae, doeddwn i’m yn cael fy nhrin yn wahanol. Pan ro’n i’n dod i ddiwedd y glasoed ac yn ceisio dod o hyd i gyfleoedd, sylweddolais bod fy ffrindiau gwrywaidd yn cael llawer mwy na fi.
“Sylweddolais bod gen i lwybr gwahanol i’w ddilyn, a bod angen i mi geisio mynd i’r afael â hynny. Yn y pen draw, teithiais o amgylch y byd yn ceisio gwneud yr union beth. Nes i lanio mewn lle a newidiodd fy mywyd mewn sawl ffordd, yn bersonol ac yn broffesiynol, sef chwarae i Arsenal.”
“Ro’n ni’n mwynhau’n fawr iawn ac yn cael gofal da. Ro’n ni ar gae hyfforddiant y dynion. Ro’n i’n arfer cael cinio bob dydd gyda Thierry Henry a ‘The Invincibles’. Peidiwch â chamddeall, doedden ni’m yn broffesiynol. Doedden ni’m yn ennill yr un cyflog â nhw. Ro’n ni’n cael swyddi yn y clwb ac yn cael popeth roedd ei angen arnom. Ro’n ni’n cael ein trin mor broffesiynol ag oedd yn bosibl bryd hynny. Roedd e’n wahanol iawn i beth roedd pêl-droedwyr benywaidd eraill yn ei brofi. Dw i’n meddwl fy mod i’n lwcus iawn.”
Roedd Jayne yn chwilio am gyfeillgarwch fel hyn yn ei bywyd gwaith, ac mae wedi bod yn nodwedd parhaus yn ystod ei gyrfa.
“Rwy’n adeiladu timau. Dyna dw i’n ei fwynhau. Dw i wrth fy modd yn treulio amser yng nghwmni pobl sy’n gwneud yn dda gyda’i gilydd,” meddai.
“Roedd derbyn y swydd gyda’r tîm cenedlaethol yn anrhydedd. Roedd e’n llawer iawn o waith, ond rwy’n edrych yn ôl ag atgofion melys, ac rwy’n gwybod ein bod wedi newid pethau er gwell. Mae llawer o waith i’w wneud ac mae pobl yn gweithio’n galed ar hynny.
“Ond rwyf wedi gwerthfawrogi pob cyfle a roddwyd imi. Mae’r rôl newydd yn PDC yr un peth. Dw i’n teimlo’n falch o allu dod yn ôl i’m cymuned, i rannu fy ngwybodaeth a pharhau i ddysgu. Mae’r tlysau a’r MBE yn hyfryd, ond ddim o anghenraid yn bethau rwy’n meddwl amdanynt bob dydd. Mae cynhwysiant yn fy nghymell. Dw i eisiau i bobl ofalu am ei gilydd a gwneud y peth iawn, waeth beth fo’u cefndir.”