![Martha Rogers looks at the camera while taking a laptop selfie](https://pxl-southwalesacuk.terminalfour.net/fit-in/500x700/filters:format(webp)/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/16-other/campaigns/lgbqt-history-month/martha-rogers.jpg)
Mae Mis Hanes LHDTC+ yn bwysig i fi oherwydd er bod llawer o adegau yn ein hanes nad ydw i wedi byw drwyddyn nhw, maen nhw wedi diffinio ble'r ydyn ni heddiw.
Beth Mae Mis Hanes LHDTC+ Yn Ei Olygu i Fi
Fel milenial cwîar, mae llawer o adegau diffiniol o hanes LHDTC+ nad oes gen i brofiad byw ohonyn nhw.
Dydw i ddim yn cofio dechrau’r mudiad hawliau hoyw, y mae llawer yn ystyried iddo ddechrau gyda Gwrthgodiad Stonewall.
Wnes i ddim profi trawma colli ffrindiau drwy’r argyfwng AIDS. Doeddwn i ddim yma i gymryd rhan ym mharêd swyddogol cyntaf Pride ar ddechrau’r 70au.
Fel cymuned, mae gennym orffennol lliwgar a phoenus. Mae Mis Hanes LHDTC+ yn bwysig i fi oherwydd er bod llawer o adegau yn ein hanes nad ydw i wedi byw drwyddyn nhw, maen nhw wedi diffinio ble'r ydyn ni heddiw.
Yn ystod fy oes, rydyn ni wedi symud o gyfnod lle roedd bod yn hoyw yn rhywbeth oedd wedi ei wahardd rhag cael ei drafod mewn ysgolion ac oedd yn gallu cael ei ystyried fel salwch meddwl, i gyfnod pan fo gennym hawliau priodi a mabwysiadu cyfartal a lle cawn ein dathlu mewn gorymdeithiau Pride ledled y byd.
Mae arloeswyr LHDTC+ wedi fy ngalluogi i fyw bywyd llawer mwy breintiedig nag yr oedden nhw’n gallu ei wneud, ond dyw’r frwydr ddim ar ben eto.
Wrth i ni ymgyrchu i wahardd therapi trosi yn y DU, i roi terfyn ar droseddau casineb sydd wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf, ac ymladd dros hawliau'r bobl fwyaf ymylol yn ein cymuned, dylem gydnabod bod y sylfeini wedi'u gosod gan y rhai a ddaeth o’n blaen.
Bu cynifer o ddigwyddiadau pwysig yn llinell amser hanes LHDTC+ fu’n dyngedfennol ar gyfer mwy o gydraddoldeb a rhyddid.
Rwy'n dathlu Mis Hanes LHDTC+ oherwydd fy mod i wir yn credu y bydd dysgu o'r digwyddiadau hyn o’r gorffennol yn ein helpu i greu byd mwy cynhwysol a goddefgar ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
CYMRYD RHAN
Os ydych chi’n fyfyriwr neu’n gydweithiwr yn PDC, ac yn dymuno rhannu’r hyn mae Mis Hanes LHDTC+ yn ei olygu i chi, e-bostiwch eich cyfraniadau i
[email protected]