Gwasanaethau Eiddo
Ailddefnyddio, ailgylchu a gwastraff na ellir ei ailgylchu
Mae ein dull o reoli gwastraff yn cyd-fynd â 'Strategaeth Tuag at Ddyfodol Diwastraff' Llywodraeth Cymru a 'Strategaeth Beyond Recycling Strategy'.
Gwasanaethau Eiddo Ystadau a Chyfleusterau
Ein nod yw lleihau faint o wastraff rydym yn ei gynhyrchu a sicrhau ein bod yn delio ag unrhyw wastraff na ellir ei osgoi yn y ffordd fwyaf cynaliadwy posibl, gan ddilyn egwyddorion yr hierarchaeth wastraff.
- Atal a lleihau faint o wastraff rydym yn ei gynhyrchu
- Cynyddu Ailddefnyddio
- Ailgylchu trwy wahanu deunyddiau ailgylchadwy
- Adferiad arall fel treuliad anaerobig (gwastraff bwyd) a llosgi gydag adfer ynni
- Gwaredu fel ein dewis olaf, rydym yn gweithio'n agos gyda'n contractwr rheoli gwastraff i sicrhau nad oes unrhyw wastraff gweithredol yn mynd i safleoedd tirlenwi.