Eiddo coll
ae swyddfa eiddo wedi'i golli a'i ganfod y Brifysgol yn swyddfa’r adran Ystadau a Chyfleusterau (bloc W) ac mae ar agor rhwng 09.00 o’r gloch a 16.00 o’r gloch ddydd Llun – Gwener.
Caiff yr holl eitemau sy’n cael eu canfod eu cofnodi yn y gofrestr Eiddo wedi'i Golli a'i Ganfod. Bydd angen y manylion canlynol ar y sawl sy’n cofnodi’r eitem wedi'i cholli neu’r sawl sy’n cyflwyno’r eiddo y daethpwyd o hyd iddo.
- Enw’r unigolyn
- Cyfeiriad
- Rhif Ffôn
- Dyddiad ac amser y collwyd / y daethpwyd o hyd i’r eitem
- Ble y collwyd / y daethpwyd o hyd i’r eitem
Unwaith y caiff eitem ei chofnodi, caiff ei rhoi mewn man diogel. Os yw’r eitem y daethpwyd o hyd iddi yn cynnwys manylion adnabod byddwn yn gwneud pob ymdrech i gysylltu â’r unigolyn cyn gynted ag y bo modd.
Er mwyn sicrhau bod eitemau coll yn cael eu dychwelyd i’w perchnogion cywir, rhaid i’r unigolion sy’n hawlio’r eitemau ddisgrifio’r eitem(au) mor agos ag y bo modd a dangos manylion adnabod. Rhaid i hawlwyr lofnodi am eitemau cyn i eitemau gael eu rhyddhau iddynt. Os ydych yn casglu eitem ar ran unigolyn arall rhaid cael llythyr o awdurdod gan y perchennog cywir.
Bydd yr holl eitemau a gaiff eu canfod yn cael eu cadw am gyfnod o fis oni nodir isod;
- Dillad - Bydd pob dilledyn yn cael ei waredu mewn banc dillad elusen a bydd yn cael ei ailgylchu ar ôl i gyfnod o 28 diwrnod fynd heibio.
- Bydd Eitemau electronig a metelau nad ydynt yn werthfawr - fel ffonau, cyfarpar gwefru, oriawr, allweddi ac eitemau metel eraill nad ydynt yn werthfawr yn cael eu trosglwyddo i’r Rheolwr Gwastraff i’w gwaredu drwy’r ffrwd gwastraff ailgylchu.
- USB/cof bach coll - Pan fydd manylion cyswllt y perchennog wedi’u nodi ar gof bach, dylai’r aelod o staff y cyflwynir yr eiddo iddo wneud ymdrech i gysylltu â’r perchennog. Ni ddylai staff roi’r cof bach yn eu cyfrifiadur i geisio dod o hyd i’r perchennog eu hunain.
Os nad yw perchennog y cof bach wedi cysylltu o fewn 24 awr, dylai’r aelod o staff wedyn anfon y cof bach drwy’r post mewnol at: Eiddo coll, Ystadau a Chyfleusterau, Trefforest
Bydd yr adran Ystadau a Chyfleusterau yn cadw’r USB/cof bach am 30 diwrnod cyn ei ddinistrio. Caiff yr holl gyfryngau storio eu dinistrio’n ddiogel yn unol â’r Polisi TG ar gyfer Gwaredu Gwastraff Cyfrinachol. Oherwydd pryderon ynghylch preifatrwydd a diogelwch, ni ddylai cyfadrannau/adrannau gadw’r cofion bach y daethpwyd o hyd iddynt, eu hailddefnyddio na’u trosglwyddo i eraill. Gall cydweithwyr sydd ag ymholiadau gysylltu â’r Swyddog Cydymffurfio Gwybodaeth ar 01443 482966.
- Arian parod a gemwaith gwerthfawr - Bydd gemwaith yn cael ei werthu a bydd yr holl elw ynghyd ag unrhyw eiddo coll yn cael ei drosglwyddo i’r Swyddfa Gyllid.
- Cardiau banc - Gwneir ymdrech i ganfod a chysylltu â’r perchennog ond os bydd hynny'n methu bydd yn arwain at gysylltu â chyhoeddwr y cerdyn a dinistrio’r cerdyn
- Meddyginiaeth - Bydd pob meddyginiaeth yn cael ei throsglwyddo i’r ganolfan feddygol
- Eitemau ychwanegol fel bagiau, ymbarelau - Caiff y rhain eu gwaredu drwy’r ffrydiau gwastraff ailgylchu
Nid yw’r gweithdrefnau hyn yn berthnasol i’r Ganolfan Chwaraeon, Undeb y Myfyrwyr na’r Neuaddau Preswyl
Fersiwn 4 – 14/05/2016