Glanhau
Mae tîm glanhau Prifysgol De Cymru, OCS, yn darparu amrywiaeth o wasanaethau glanhau, ac maent i gyd wedi cymhwyso gyda BICSc (Sefydliad Gwyddor Glanhau Prydain).
Cyfrifoldebau'r defnyddiwr:
- Cysylltwch â goruchwyliwr ar unwaith i gael rhywun i lanhau unrhyw beth sydd wedi gollwng: Desg gymorth yr adran Ystadau
- Cefnogwch gynllun gwastraff ac ailgylchu’r Brifysgol a defnyddio’r biniau ailgylchu cywir. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar y Tudalennau Gwe Gwastraff ac Ailgylchu
Dyletswyddau ein tîm ynghyd â'n disgwyliadau gan staff yr adeilad i sicrhau bod yr ardaloedd yn cael eu cadw i’r safonau uchaf.
Beth y gallwch ei ddisgwyl gan ein gwasanaethau glanhau:
Beth rydym yn ei wneud:
- Glanhau’r canlynol bob dydd: Swyddfeydd (lloriau, sgertins a gosodion), Ystafelloedd dosbarth (lloriau, sgertins a gosodion), Ardaloedd cymunedol (lloriau, grisiau, sgertins a gosodion), Toiledau ac ystafelloedd ymolchi.
- Gwagio biniau
Nid ydym yn gwneud y canlynol:
- Glanhau sgriniau cyfrifiaduron, bysellfyrddau neu lygod
- Glanhau desgiau swyddfa
- Symud eitemau personol
- Glanhau cownteri cegin, oergelloedd a llestri staff
Beth ydych chi’n ei wneud:
- Glanhau unrhyw beth sydd wedi gollwng
- Sicrhau bod arwynebau'n glir os ydynt angen eu glanhau
- Sicrhau bod gwastraff yn cael ei waredu yn y biniau cywir
- Gwneud yn siŵr bod yr arwynebau'n glir ac yn lân ar ôl eu defnyddio
- Sicrhau bod gwastraff bwyd a deunydd pecynnu yn cael ei waredu yn y biniau cywir
- Rhoi gwybod am namau neu ddifrod i ddesg gymorth yr adran Ystadau
Rydym hefyd yn glanhau ardaloedd megis carpedi, toiledau ac ystafelloedd ymolchi, ystafelloedd dosbarth ac yn glanhau ffenestri, sawl gwaith y flwyddyn yn ystod y tymor.