Gwasanaethau Post
Y Post Brenhinol
Rydym yn defnyddio’r Post Brenhinol ar gyfer pob eitem yn y DU sydd wedi’i ‘ffrancio’ yn unigol. Anfonir eitemau gyda phost 2il ddosbarth (nod dosbarthu o fewn 3 diwrnod gwaith) oni nodir dosbarth 1af yn benodol (nod dosbarthu erbyn y diwrnod gwaith nesaf).
Mae’r Post Brenhinol hefyd yn cynnig y gwasanaethau blaenoriaeth canlynol:
Cludiant Arbennig: rydym yn argymell mai’r gwasanaeth hwn yw’r dull mwyaf dibynadwy a chost effeithiol o anfon llythyrau a phecynnau brys neu werthfawr yn y DU (o dan 2Kg). Mae’r eitemau fel a ganlyn:
- Wedi'i olrhain o’r Brifysgol a rhaid i’r derbynnydd ei lofnodi (caiff y rhifau olrhain eu cadw gan yr Ystafell Bost).
- Caiff ei gadw mewn man diogel gan y Post Brenhinol.
- Wedi'i yswirio am £500 yn safonol (y gellir ei godi i £2500 am ffi ychwanegol).
- Wedi'i warantu ar gyfer y diwrnod nesaf cyn 1pm yn safonol (neu cyn 9am am ffi ychwanegol).
- Mae dosbarthu ar ddydd Sadwrn yn opsiwn am ffi ychwanegol.
Cludiant Cofnodedig: mae hwn yn ddull rhatach o anfon eitemau llai gwerthfawr sy’n dal i gynnig gwasanaeth olrhain o fewn y DU. Mae’r Post Brenhinol yn trin yr eitemau hyn fel post dosbarth 1af/2il arferol.
DHL:
DHL yw’r dewis gorau ar gyfer unrhyw eitemau brys neu werthfawr i’w hanfon dramor a gellir ei ddefnyddio hefyd ar gyfer llythyrau a pharseli yn y DU. Caiff eitemau eu dosbarthu’n gyflym ledled y byd, cânt eu holrhain yn llawn ar bob cam o’u taith a rhaid llofnodi ar eu cyfer yn eu cyrchfannau. Gellir cynnig yswiriant gwell hefyd. Mae prisiau DHL yn dibynnu ar yr hyn rydych chi’n ei anfon, lle rydych chi'n ei anfon a phwysau’r eitem. Cysylltwch â ni am ddyfynbris.
Post awyr:
Rydym yn defnyddio DHL i anfon ein post awyr arferol. Rhaid nodi Airmail yn glir yn y gornel chwith uchaf. Nodwch - mae Gweriniaeth Iwerddon yn cael ei hystyried yn bost awyr tra mae cyfeiriadau Gogledd Iwerddon (sydd â chod post BT) yn cael eu hystyried fel post arferol y DU.
Prisiau postio:
Bydd yr Ystafell Bost yn defnyddio’r dull mwyaf darbodus o anfon post i leihau’r costau postio sy’n cael eu talu ar lefel adrannol.
Gellir cael cyngor ar leihau costau a phrisio llythyrau penodol, gan gynnwys postio mewn swmp a chyflwyno blaenoriaethau, drwy gysylltu â’r Ystafell Bost yn uniongyrchol ar y rhif isod.
Dosbarth 1af neu 2il Ddosbarth:
Rhaid i’r eitem sy'n cael ei phostio nodi dosbarth 1af neu 2il ddosbarth yn glir a dylid atodi cod cyllideb. Rhaid arddangos y rhain naill ai ar ochr chwith yr amlen neu ar y cefn.
DS: Nodwch o dan unrhyw amgylchiadau na ddylid rhoi unrhyw un o’r uchod ar ochr DDE yr amlen. Gall methu cadw at hyn olygu bod eich eitem yn cael ei dychwelyd i’ch cyfadran/adran.
Anfon gydag 2il ddosbarth:
Os bydd llythyr yn cyrraedd yr Ystafell Bost gyda chod cyllideb ynghlwm, ond dim cyfarwyddiadau dosbarth 1af neu 2il ddosbarth, yna bydd yn cael ei anfon gyda phost 2il ddosbarth yn awtomatig.
Gwasanaeth Blaenoriaeth Arbennig:
Os hoffech anfon eich eitem gyda’r gwasanaeth Cludiant Cofnodedig, Cludiant Arbennig 9am neu 1pm neu drwy unrhyw un o’r gwasanaethau blaenoriaeth tramor, rhaid i’r rhain gael eu stampio â stamp priodol, neu mae'n rhaid i chi nodi manylion y gwasanaeth y mae ei angen arnoch ar ochr CHWITH neu ar gefn yr amlen.
Gall methu cadw at hyn olygu bod eich eitem yn colli’r gwasanaeth sydd ei angen arnoch neu y bydd yn cael ei dychwelyd i’ch cyfadran/adran.
Dim cod/manylion adnabod cyllideb y gyfadran/adran:
Os daw eitem i mewn i’r Ystafell Bost heb god cyllideb neu fanylion adnabod (gan gynnwys post mewn swmp), caiff yr eitem ei hagor i benderfynu pwy yw’r anfonwr, ac mae’n bosibl y caiff ei dychwelyd drwy’r Ystafell Bost i’r unigolyn hwnnw neu ei gyfadran/adran ar gyfer ei hanfon eto. Bydd hyn yn arwain at oedi wrth anfon eich post, felly gwnewch yn siŵr bod yr holl eitemau sydd i’w postio yn cynnwys cod cyllideb lle bo angen.
Postio mewn swmp:
Cysylltwch â’r Ystafell Bost yn y lle cyntaf a fydd yn gallu rhoi bagiau post i chi. Ar gyfer post allanol, gwnewch yn siŵr fod gan bob llythyr god cyllideb a’u bod yn cael eu paratoi fel yr amlinellir isod. Cofiwch sicrhau hefyd bod post dosbarth 1af ac 2ail, a phost rhyngwladol a mewndirol hefyd yn cael eu cadw ar wahân.
Rhowch wybod ymlaen llaw i’r Ystafell Bost pa ddiwrnod rydych yn dymuno i’r eitemau gael eu casglu. Bydd hyn yn sicrhau y gellir trefnu i’r eitemau gael eu casglu’n gynnar er mwyn gallu ffrancio a didoli o fewn yr un diwrnod gwaith.
Wrth anfon mewn swmp, gwnewch yn siŵr bod yr eitemau’n cael eu paratoi fel a ganlyn:
- Bod yr eitemau dosbarth cyntaf ac ail ddosbarth wedi’u gwahanu.
- Bod yr holl eitemau yn wynebu am i fyny a’r un ffordd (wyneb i fyny).
- Dylai eitemau gael eu bwndelu mewn rhifau cyfartal (lle bo modd) a dylid nodi nifer yr eitemau ym mhob bwndel.
- Dylech hefyd gadw eitemau’r UE, gweddill Ewrop a gweddill y byd mewn bwndeli ar wahân.
Pryd mae’r gwasanaeth ar gael:
Mae’r Ystafell Bost ar agor:
7:30am – 17:00pm o ddydd Llun i ddydd Iau
7:30am – 16:30pm ar ddydd Gwener
Cysylltu:
E-bost: Roy Darch
Ffôn: Est 82062
E-bost: Louise Poole
Ffôn: Est 82026
- Hollbwysig:
- Defnyddiwch ddeunydd pecynnu, amlenni neu gartonau sy’n briodol i’r cynnwys bob amser, gan gadw mewn cof pwysau (at ddibenion cost) ac addasrwydd o ran diogelwch rhag i'r eitem gael ei ‘cham-drin’. Er enghraifft, ni all neb ddarllen ‘Fragile’ unwaith y bydd eitem y tu mewn i sach. Ni fydd sach drom o bost o bob maint a siâp yn ystyried cyfarwyddiadau ‘Please do not bend’ a gall peiriannau didoli awtomataidd rwygo eitemau sydd ag ymylon rhydd, staplau agored ac amlenni gwan.
- Un rheol ar gyfer eitemau mwy yw y dylech ddefnyddio’r hyn sy'n cyfateb i ddeunydd pecynnu gwreiddiol y gweithgynhyrchydd wrth i chi bostio eitemau tebyg.
- Ni ddylid postio post gyda labeli PPI ynghlwm mewn blychau llythyrau - bydd y Post Brenhinol yn trin y rhain fel twyll. Dim ond os ydynt wedi cael eu cyfrif, eu rhoi mewn categori a’u pwyso a’u cofrestru ymlaen llaw ar eu gweinyddion fel postiad wedi'i ddogfennu’n llawn cyn i ni eu casglu y gellir ystyried eitemau PPI yn bost dilys.
- Cofiwch fod gan y Post Brenhinol ddisgwyliadau o ran amser dosbarthu ar gyfer eitemau dosbarth 1af ac 2il fel y nodwyd uchod. Fodd bynnag, ni ellir gwarantu’r amseroedd dosbarthu hyn.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys cod post yn y cyfeiriad. Os nad ydych yn siŵr o’r cod post, gallwch ddefnyddio adnodd Canfod Codau Post y Post Brenhinol.
- Dylid bob amser cael rhyw ffordd o ganfod ble i ddychwelyd eitemau pe bai angen gwneud hynny. Felly ceisiwch gofio, lle bo’n briodol, eich bod yn anfon eitemau gyda chyfeiriad dychwelyd wedi'i nodi arnynt. Byddwch yn ofalus lle rydych yn rhoi’r cyfeiriad dychwelyd, bydd manyleb amlen y Post Brenhinol yn eich helpu. Lle bo modd, rhowch ef ar y cefn yn y pen uchaf a’i gadw’n fach. Fodd bynnag, os oes yn rhaid iddo fynd ar y blaen, rhowch ef yn y gornel chwith uchaf.
- Peidiwch â defnyddio gwasanaethau cyffredin dosbarth 1af, 2il ddosbarth, 48 awr, 24 awr neu wasanaethau post awyr i anfon unrhyw eitem na ellir cael un arall yn ei lle, sydd â therfyn amser neu sydd o werth ynddi'i hun.
- Edrychwch ar ein Canllaw Maint Post y DU i benderfynu pa gategori y mae eich eitemau yn perthyn iddo cyn dewis pa PPI i’w osod arnynt.