Mae lle chi'n byw mor bwysig â'r hyn rydych chi'n dysgu.

Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.

Gwarant Llety

Mae'r brifysgol yn cynnig gwarant o lety yn y neuaddau preswyl i bob ymgeisydd israddedig amser llawn sy'n gwneud cais o'r tu mewn i'r DU sy'n bodloni ein meini prawf cymhwysedd.

Accommodation

 

Pontypridd

treforest accommodation

Mae neuaddau ym Mhontypridd ar y campws ac maen nhw’n rhan fawr o’r awyrgylch cymunedol y mae ein myfyrwyr yn ei garu. Wedi’i fframio gan fryniau gwyrdd a gyda dros 1,200 o ystafelloedd a myfyrwyr o bob rhan o’r DU a’r byd, byddwch yn gwneud ffrindiau am oes.

Caerdydd

cardiff accommodation

Mae llawer o fyfyrwyr yn byw yng Nghaerdydd, yn enwedig rhai sy'n astudio cwrs creadigol.

Casnewydd

newport accommodation

Mae Casnewydd yn ddinas gyffrous, annibynnol ac amlddiwylliannol.

Pam Llety Myfyrwyr?

Cymuned Gyfeillgar o Fyfyrwyr

Mae ymgartrefu a gwneud ffrindiau newydd yn gamau cyntaf pwysig ym mywyd prifysgol. Mae byw mewn llety myfyrwyr yn rhoi’r cyfle perffaith i gwrdd â gwahanol bobl sy’n astudio amrywiaeth o bynciau.


Prif Leoliad

Mae pob un o’n hopsiynau llety wedi’u lleoli’n berffaith, nid yn unig yn agos at y campws, ond hefyd i’r siopau lleol, tafarndai, a chysylltiadau trafnidiaeth. Mae pob un o'n campysau hefyd o fewn teithiau trên byr oddi wrth ei gilydd.


Ennill Annibyniaeth

Cymryd y cam a symud oddi cartref yw'r cam cyntaf tuag at ennill rhywfaint o annibyniaeth. Dysgwch sut i reoli eich arian, coginio ac wrth gwrs sut i weithio'r peiriant golchi.


accommodation three image block

Diwrnodau Agored

open day long

Ymwelwch â ni ar diwrnod agored i weld y llety drosoch eich hun ac i ymuno ar daith llety.

Dan arweiniad llysgennad myfyrwyr, byddant yn dweud wrthych am fywyd ym Mhrifysgol De Cymru a beth i'w ddisgwyl tra'n byw mewn neuaddau.

29th-mar-We

Noson Agored Ôl-raddedig Ar-lein

Pryd: 29fed o Fawrth 2023

Ble: Ar-lein (Anfonir cyfarwyddiadau ar sut i ymuno atoch trwy e-bost)

Amser: 4yp-7yh

17eg MEH

Diwrnod Agored Israddedig

Pryd: 17eg o Fehefin 2023

Ble: Campysau Caerdydd, Casnewydd a Phontypridd

Amser: 10yb - 3yp

Eich Opsiynau Talu

Y broses dyrannu

Sut i wneud Cais

Myfyrwyr Nyrsio