
Mae Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol De Cymru ar y brig yng Nghymru ar gyfer cyfleoedd dysgu a chymorth academaidd - Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2022
Mae prifddinas Cymru, Caerdydd, yn gartref i'n campws Atrium yn ogystal â llu o leoliadau chwaraeon gwych - a gallai fod yn eiddo i chi hefyd wrth i chi astudio ar gyfer BA (Anrh) mewn Newyddiaduraeth Chwaraeon yn y ddinas fywiog hon.
O Stadiwm y Principality, i Arena Viola, o Erddi Soffia i Stadiwm Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd, mae rhywbeth at ddant pob math o chwaraeon.
Bydd ein gradd newyddiaduraeth chwaraeon galwedigaethol yn rhoi digon o gyfleoedd i chi ddatblygu eich sgiliau newyddiadurol yn ogystal â dod i ddeall sut mae cyfathrebu'r cyfryngau yn gweithio mewn perthynas â chwaraeon. Fe'ch addysgir gan ymarferwyr ac academyddion hynod brofiadol sydd â chysylltiadau rhagorol gyda'r diwydiant ac sy'n deall byd y cyfryngau chwaraeon sy'n esblygu'n barhaol.
Yn ystod tair blynedd eich cwrs gradd mewn newyddiaduraeth chwaraeon, byddwch yn meithrin profiad byw trwy sesiynau ymarferol wythnosol yn ein Parc Chwaraeon yng Nhrefforest, lle byddwch yn adrodd ar Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain. Erbyn i chi gyrraedd y flwyddyn olaf, byddwch wedi cael cyfle i gwrdd â newyddiadurwyr, gweithwyr proffesiynol yn y cyfryngau a mabolgampwyr gwych a dysgu ganddynt.
Byddwch yn cynhyrchu deunydd ar gyfer ar-lein, print, cyfryngau cymdeithasol, teledu a radio ac yn datblygu sgiliau cyfathrebu cyfryngol trosglwyddadwy iawn ochr yn ochr â chael dealltwriaeth o agweddau cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd y diwydiant chwaraeon byd-eang. Wrth i'ch sgiliau ddatblygu byddwch yn adeiladu portffolio sy'n berthnasol i'r diwydiant i arddangos eich galluoedd i gyflogwyr y dyfodol. Cyhoeddir eich gwaith ar Exposport ac ar eich gwefannau eich hun.
2022 | Cod UCAS | Dull Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
6B27 | Amser llawn | 3 blynedd | Medi | Caerdydd (ATRiuM) | B | |
2023 | Cod UCAS | Dull Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
6B27 | Amser llawn | 3 blynedd | Medi | Caerdydd (ATRiuM) | B |
CYRSIAU CYSYLLTIEDIG

Mae ein Campws Caerdydd yng nghanol y ddinas - y cartref perffaith i'n myfyrwyr diwydiannau creadigol. Rydyn ni newydd orffen cyfnod newydd o fuddsoddi a datblygu campws, felly gallwn ni gynnig mwy fyth o gyfleusterau arbenigol.

Y gymuned a'r cyfeillgarwch y byddwch chi'n ei adeiladu sy'n gwneud y lle hwn yn arbennig. Y tu allan i'ch astudiaethau gallwch brofi ein cyfleusterau chwaraeon anhygoel ac Undeb y Myfyrwyr.

Mae byw mewn Neuaddau yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau. Mae gennym lety o ansawdd uchel yn Treforest, Caerdydd a Chasnewydd.