Mae'r MA Addysg Genedlaethol (Cymru) yn rhaglen wirioneddol drawsnewidiol sy'n arwain y sector ar gyfer gweithwyr proffesiynol addysg yng Nghymru, o athrawon gyrfa gynnar i uwch arweinwyr.
Mae'r dirwedd addysgol yng Nghymru yn newid yn gyflym. Mae addysgu nid yn unig yn gofyn am feistroli set gymhleth o sgiliau i arwain, cymell a hwyluso dysgu myfyrwyr, ond hefyd y gallu i ymchwilio i ymarfer proffesiynol er mwyn ei wella.
Bydd yr MA Addysg Genedlaethol (Cymru) - a ddatblygwyd ar y cyd gan saith prifysgol yng Nghymru, trwy ymgysylltu'n uniongyrchol ag amrywiaeth o randdeiliaid allweddol gan gynnwys Llywodraeth Cymru - yn sicrhau bod pob gweithiwr addysg proffesiynol yng Nghymru yn cael yr un cyfle o ansawdd uchel i wella eu gwybodaeth broffesiynol, ymgysylltu ag ymchwil, ac i wella eu harfer proffesiynol.
Anogir darpar fyfyrwyr i gysylltu Dr Matt Hutt.
Bydd cyllid ar gyfer y cwrs hwn gan Lywodraeth Cymru yn canolbwyntio'n bennaf ar athrawon yn ystod chwe blynedd gyntaf eu gyrfa, er y bydd yn agored i bob athro, waeth beth yw hyd eu profiad.
Am ragor o wybodaeth am y cwrs gweler y 2 ddogfen isod sydd ynghlwm:
2022 | Modd Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
Rhan amser | 3 blynedd | Medi | Dinas Casnewydd | C | |
2023 | Modd Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
Rhan amser | 3 blynedd | Medi | Dinas Casnewydd | C |
Mae ein Campws Casnewydd yng nghanol y ddinas, yn edrych dros yr Afon Wysg. Dyma un o adeiladau mwyaf eiconig y Brifysgol.
Y gymuned a'r cyfeillgarwch y byddwch chi'n ei adeiladu sy'n gwneud y lle hwn yn arbennig. Y tu allan i'ch astudiaethau gallwch brofi ein cyfleusterau chwaraeon anhygoel ac Undeb y Myfyrwyr.
Mae byw mewn Neuaddau yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau. Mae gennym lety o ansawdd uchel yn Treforest, Caerdydd a Chasnewydd.