Ffilm (Cyfarwyddo)
Ar ein cwrs MA Ffilm (Cyfarwyddo), byddwch yn adeiladu ar eich sgiliau gwneud ffilmiau presennol trwy weithio gyda myfyrwyr o wahanol ddisgyblaethau ac ehangu eich portffolio drwy ymarferion cyfarwyddo ymarferol a phrosiectau ffilm. Byddwch yn dyfnhau eich gwybodaeth am y diwydiant, yn mireinio'ch galluoedd technegol ac yn dysgu 'sgiliau meddal' hanfodol y diwydiant, i gyd wrth wella eich creadigrwydd i gynhyrchu gwaith o ansawdd proffesiynol wrth gyfarwyddo ffilm.
Sut i wneud cais Archebu lle ar Noson Agored Sgwrsio gyda ni
Manylion Cwrs Allweddol
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Caerdydd
-
Côd y Campws
B
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£11,060*
Myfyrwyr rhyngwladol
£17,900*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Datblygwch eich sgiliau a'ch gwybodaeth bresennol i feistroli'r grefft o gyfarwyddo ffilm, mireinio eich arbenigedd, deall priodoleddau penodol y diwydiant a chael profiad o gyfarwyddo gyda'r dechnoleg ddiweddaraf, er mwyn cael effaith barhaol yn y diwydiant.
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Trosolwg o'r Modiwl
Mae'r cwrs MA Ffilm (Cyfarwyddo) yn cyfuno profiad ymarferol, sgiliau cyfarwyddo uwch, a theori ffilm. Trwy fynd i weithio ar leoliadau yn y diwydiant, prosiectau cydweithredol, a chynhyrchiad mawr terfynol, byddwch yn datblygu portffolio sy'n bodloni safonau'r diwydiant. Byddwch yn ennill arbenigedd mewn cyfarwyddo, prosesau cynhyrchu ac arferion myfyriol, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn ffilm.
Diwydiant
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno profiad gwaith yn eich maes dewisol, dan arweiniad partneriaid yn y diwydiant. Mae'r darlithoedd yn ymdrin â hanfodion a phroffesiynoldeb y diwydiant, ac yna gweithdai i'ch helpu i ddatblygu arferion myfyriol yn ystod eich lleoliad.
Ymarfer Crefft Arbenigol / Ymarfer Crefft Arbenigol Uwch
Cyfle i ddatblygu sgiliau uwch yn y ddisgyblaeth o’ch dewis mewn darlithoedd, gweithdai a thiwtorialau. Byddwch yn datblygu portffolio i’w gyflwyno sy'n bodloni meini prawf asesu a safonau'r diwydiant.
Theori ac Ymarfer Ffilm
Mae'r modiwl hwn yn archwilio fframweithiau damcaniaethol a beirniadol allweddol a'u cymhwyso i ymarfer ffilm cyfoes. Byddwch yn cynhyrchu gwaith ysgrifenedig a chlyweledol sy'n ymgysylltu'n greadigol â theori a beirniadaeth ffilm.
Ymarfer Cydweithredol
Mae'r modiwl hwn yn ymdrin â sut i weithio'n effeithiol fel rhan o dîm, deall prosesau cynhyrchu a hierarchaethau, cwrdd â therfynau amser a rheoli cyllidebau.
Prosiect Cynhyrchu Mawr
Yn y prosiect mawr olaf hwn, byddwch yn creu corff sylweddol o waith yn yr arbenigedd o’ch dewis, naill ai'n unigol neu drwy gydweithio mewn tîm neu brosiect a arweinir gan y diwydiant, gydag arweiniad ac adborth parhaus.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£11,060
fesul blwyddyn*£17,900
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch
astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
* Rhwymedig
Mae gan PDC gyfrifiaduron ar gael ar y campws a gliniaduron i'w benthyca. Fodd bynnag, argymhellir yn gryf bod gennych eich gliniadur eich hun, sy'n gallu rhedeg Microsoft Office 365. Gall myfyrwyr gael mynediad at gopi o Microsoft Office ac Adobe Creative Suite am ddim.
Cost: I fyny at £2000
Argymhellir bod sinematograffwyr a myfyrwyr ffilmiau dogfennol yn prynu eu cerdyn SSD eu hunain. Pan fyddwch yn dechrau'r cwrs, cewch eich cynghori ynghylch pa gyflymder a chapasiti i'w brynu.
Cost: I fyny at £40
Argymhellir bod myfyrwyr ar y llwybrau sinematograffeg, cyfarwyddo, ffilmiau dogfennol a golygu yn prynu eu gyriannau caled allanol eu hunain. Isafswm o 2GB, mae mecanyddol yn iawn ond SSD os gallwch ei fforddio.
Cost: I fyny at £120
Efallai y bydd cyfle ar gyfer teithiau addysgol, fel ymweliadau â stiwdios. Ar y cyfan, bydd y rhain yn lleol i'r ardal ac ni fydd unrhyw gost neu gost isel. Bydd unrhyw deithiau posib sydd angen cost teithio sylweddol yn cael eu cyfleu ymhell ymlaen llaw (Gall pob taith newid a hyfywedd mewn perthynas â nifer y myfyrwyr)
Cost: £100
Benthyca Offer Cyfryngau
Mynediad at gamerâu, cyfarpar goleuo, sain a recordio o safon y diwydiant, gyda chefnogaeth Benthyciadau Cyfryngau am ddim a thechnegwyr profiadol. Mae gennym bopeth sydd ei angen arnoch i'ch helpu i arbrofi, mireinio a gwireddu eich gwaith yn hyderus.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
SUT I WNEUD CAIS
Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).
Derbyniadau rhyngwladol
Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.
Llwyddiant i Fyfyrwyr Ffilm ac Animeiddio yng Ngwobrau RTS Cymru
Mae myfyrwyr a graddedigion Ffilm ac Animeiddio PDC wedi sicrhau wyth gwobr fawreddog yng Ngwobrau Cymdeithas Deledu Frenhinol Cymru (RTS), gan ddathlu creadigrwydd, arloesedd ac adrodd straeon wrth wraidd teledu Cymru. Roedd eu prosiectau arobryn yn cwmpasu adloniant, drama, comedi ac adrodd straeon ffeithiol, gan danlinellu ymrwymiad y brifysgol i feithrin talent greadigol.
Astudio yn PDC
Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gydag arweinwyr diwydiant ac yn darparu'r sgiliau a'r profiadau ymarferol y mae'r diwydiant yn gofyn amdanynt. Mae ein cyrsiau hyblyg yn adlewyrchu'r angen am ddysgu gydol oes. Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, yna mae PDC ar eich cyfer chi.