Ffilm (Cyfarwyddo)
Ar ein cwrs MA Ffilm (Cyfarwyddo), byddwch yn adeiladu ar eich sgiliau gwneud ffilmiau presennol trwy weithio gyda myfyrwyr o wahanol ddisgyblaethau ac ehangu eich portffolio drwy ymarferion cyfarwyddo ymarferol a phrosiectau ffilm. Byddwch yn dyfnhau eich gwybodaeth am y diwydiant, yn mireinio'ch galluoedd technegol ac yn dysgu 'sgiliau meddal' hanfodol y diwydiant, i gyd wrth wella eich creadigrwydd i gynhyrchu gwaith o ansawdd proffesiynol wrth gyfarwyddo ffilm.
Sut i wneud cais Archebu lle ar Noson Agored Sgwrsio gyda ni/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/film-and-visual-effects/GettyImages-2151886111.jpg)
Manylion Cwrs Allweddol
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Caerdydd
-
Côd y Campws
B
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£10,800*
Myfyrwyr rhyngwladol
£16,900*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Caerdydd
-
Côd y Campws
B
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£TBC*
Myfyrwyr rhyngwladol
£TBC*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Datblygwch eich sgiliau a'ch gwybodaeth bresennol i feistroli'r grefft o gyfarwyddo ffilm, mireinio eich arbenigedd, deall priodoleddau penodol y diwydiant a chael profiad o gyfarwyddo gyda'r dechnoleg ddiweddaraf, er mwyn cael effaith barhaol yn y diwydiant.
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Trosolwg o'r Modiwl
Mae'r cwrs MA Ffilm (Cyfarwyddo) yn cyfuno profiad ymarferol, sgiliau cyfarwyddo uwch, a theori ffilm. Trwy fynd i weithio ar leoliadau yn y diwydiant, prosiectau cydweithredol, a chynhyrchiad mawr terfynol, byddwch yn datblygu portffolio sy'n bodloni safonau'r diwydiant. Byddwch yn ennill arbenigedd mewn cyfarwyddo, prosesau cynhyrchu ac arferion myfyriol, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn ffilm.
Diwydiant
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno profiad gwaith yn eich maes dewisol, dan arweiniad partneriaid yn y diwydiant. Mae'r darlithoedd yn ymdrin â hanfodion a phroffesiynoldeb y diwydiant, ac yna gweithdai i'ch helpu i ddatblygu arferion myfyriol yn ystod eich lleoliad.
Ymarfer Crefft Arbenigol / Ymarfer Crefft Arbenigol Uwch
Cyfle i ddatblygu sgiliau uwch yn y ddisgyblaeth o’ch dewis mewn darlithoedd, gweithdai a thiwtorialau. Byddwch yn datblygu portffolio i’w gyflwyno sy'n bodloni meini prawf asesu a safonau'r diwydiant.
Ffilm: Theori a Chwarae
Mae'r modiwl hwn yn cyfuno theori a phrofiad ymarferol. Byddwch yn cydweithio â myfyrwyr o'r llwybrau eraill, gan archwilio cysyniadau a thechnegau drwy gyfres o weithdai ac ymarferion ffilm.
Ymarfer Cydweithredol
Mae'r modiwl hwn yn ymdrin â sut i weithio'n effeithiol fel rhan o dîm, deall prosesau cynhyrchu a hierarchaethau, cwrdd â therfynau amser a rheoli cyllidebau.
Prosiect Cynhyrchu Mawr
Yn y prosiect mawr olaf hwn, byddwch yn creu corff sylweddol o waith yn yr arbenigedd o’ch dewis, naill ai'n unigol neu drwy gydweithio mewn tîm neu brosiect a arweinir gan y diwydiant, gydag arweiniad ac adborth parhaus.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£10,800
fesul blwyddyn*£16,900
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch
astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
* Rhwymedig
Mae gan PDC gyfrifiaduron ar gael ar y campws a gliniaduron i'w benthyca. Fodd bynnag, argymhellir yn gryf bod gennych eich gliniadur eich hun, sy'n gallu rhedeg Microsoft Office 365. Gall myfyrwyr gael mynediad at gopi o Microsoft Office ac Adobe Creative Suite am ddim.
Cost: I fyny at £2000
Argymhellir bod sinematograffwyr a myfyrwyr ffilmiau dogfennol yn prynu eu cerdyn SSD eu hunain. Pan fyddwch yn dechrau'r cwrs, cewch eich cynghori ynghylch pa gyflymder a chapasiti i'w brynu.
Cost: I fyny at £40
Argymhellir bod myfyrwyr ar y llwybrau sinematograffeg, cyfarwyddo, ffilmiau dogfennol a golygu yn prynu eu gyriannau caled allanol eu hunain. Isafswm o 2GB, mae mecanyddol yn iawn ond SSD os gallwch ei fforddio.
Cost: I fyny at £120
Efallai y bydd cyfle ar gyfer teithiau addysgol, fel ymweliadau â stiwdios. Ar y cyfan, bydd y rhain yn lleol i'r ardal ac ni fydd unrhyw gost neu gost isel. Bydd unrhyw deithiau posib sydd angen cost teithio sylweddol yn cael eu cyfleu ymhell ymlaen llaw (Gall pob taith newid a hyfywedd mewn perthynas â nifer y myfyrwyr)
Cost: £100
Benthyca Offer Cyfryngau
Gallwch logi amrywiaeth o offer, ar gyfer eich aseiniadau a’ch gwaith ymarferol, am ddim o’n cyfleuster Benthyca Offer Cyfryngau.
Benthyca Offer CyfryngauSicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Sut byddwch chi’n dysgu
Ar y cwrs MA Ffilm (Cyfarwyddo), byddwch yn dysgu trwy gymysgedd o weithdai ymarferol, seminarau, darlithoedd, tiwtorialau a dosbarthiadau meistr gyda siaradwyr gwadd dan arweiniad gweithwyr proffesiynol y diwydiant.
Bydd eich asesiadau yn seiliedig ar dasgau ymarferol sy’n deillio o friffiau byw a phrosiectau cynhyrchu (70%), ynghyd â myfyrdodau beirniadol a dadansoddiad o'ch gwaith (30%).
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/16-other/gradfest-2024/LIMINAL-Director,-Kyle-Williams-with-Actor.jpg)
Staff addysgu
Rydyn ni’n dîm medrus iawn, gydag ystod eang o brofiad diweddar yn y diwydiant. Mae ein staff yn cynnwys gwneuthurwyr ffilmiau arobryn sy'n parhau i weithio yn y diwydiant, gan sicrhau bod ein cwricwlwm yn parhau i fod yn gyfredol ac yn flaengar ar draws y radd.
Mae’r MA Ffilm yn defnyddio ein cysylltiadau â gweithwyr proffesiynol presennol y diwydiant trwy ddarlithoedd gwadd, dosbarthiadau meistr, ymweliadau allanol, a chyfleoedd i ymgynghori.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/15-placeholder-images/South-Wales-Business-School_49782.jpg)
Cyfleusterau
Rydyn ni’n cynnig cyfleusterau o safon y diwydiant ar ein Campws yng Nghaerdydd sy'n cynnwys sinema ar y safle lle gallwch chi arddangos eich gwaith a chwarae eich hoff ffilmiau.
Fel myfyriwr ffilm, byddwch yn gallu manteisio ar ein stiwdio ffilm sydd â’r holl offer angenrheidiol gan gynnwys Arri Alexa, Black Magic Ursa, a chamerâu Sony, ystod o feicroffonau proffesiynol, goleuadau LED, traciau, doliau ac offer grip. Popeth sydd ei angen arnoch i ymarfer gwneud ffilmiau mewn man diogel a sicr.
Rydyn ni hefyd yn cynnig ystafelloedd gorffen o'r radd flaenaf ar gyfer golygu fideo proffesiynol, cymysgu sain, a graddio lliw. Mae ein hadnoddau yn cynnwys pecynnau Adobe Creative, Movie Magic a Final Draft.
Offer
Ar ein Campws yng Nghaerdydd, mae gennym ni amrywiaeth eang o offer y byddwch chi'n cael eich hyfforddi i'w defnyddio fel rhan o'ch cwrs. I helpu i gefnogi eich astudiaethau, mae gennym gyfleuster Benthyca Offer Cyfryngau sy'n eich galluogi i logi'r offer, am ddim, fel y gallwch eu defnyddio ar gyfer eich aseiniadau a'ch gwaith ymarferol. Mae gennym ni gamerâu ffilm a ffotograffiaeth sylfaenol ac o’r radd flaenaf, offer goleuo a sain cludadwy yn ogystal ag amrywiaeth o ficroffonau a ddefnyddir mewn stiwdios proffesiynol, offerynnau ac offer cysylltiedig i'w defnyddio yn ein stiwdios cerddoriaeth neu ar leoliad. Mae'r tîm o swyddogion technegol a hyfforddwyr hefyd ar gael i'ch helpu gydag unrhyw ymholiadau a materion technegol.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/15-placeholder-images/South-Wales-Business-School_49782.jpg)
Mynd ar leoliadau a phrofiad gwaith
Rydyn ni’n falch o gydweithio ag ystod eang o sefydliadau'r diwydiant yng Nghymru a thu hwnt, gan gynnwys Channel 4, BBC Cymru, BAFTA Cymru, RTS Wales, Ffilm Cymru, a Llywodraeth Cymru. Fel partner addysg yn Screen Alliance Wales, byddwch yn gallu mynd ar leoliadau gwaith gydol eich gradd, yn amrywio o rolau gwirfoddoli mewn Gwyliau Ffilm i waith cynhyrchu pan fo rhaglenni teledu a ffilmiau yn cael eu saethu.
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys modiwl profiad gwaith unigryw gyda chyflogwyr ffilm a theledu lleol mawr, yn ogystal â llawer o gyfleoedd cysgodi a gwaith â thâl a di-dâl gyda gwahanol gwmnïau'r diwydiant sgrin.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2021/11-november/Television-camera.jpg)
SUT I WNEUD CAIS
Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).
Derbyniadau rhyngwladol
Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.
Astudio yn PDC
Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gydag arweinwyr diwydiant ac yn darparu'r sgiliau a'r profiadau ymarferol y mae'r diwydiant yn gofyn amdanynt. Mae ein cyrsiau hyblyg yn adlewyrchu'r angen am ddysgu gydol oes. Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, yna mae PDC ar eich cyfer chi.