Nawdd Corfforaethol
Ein gweledigaeth yw newid bywydau a'n byd er gwell. Wedi’n gwreiddio yn rhanbarth De Cymru, rydym yn angerddol am wneud gwahaniaeth yn ein cymunedau, datblygu, a chryfhau cysylltiadau gwerthfawr, gan weithio gyda llunwyr polisi, ysgolion, colegau, grwpiau dysgu cymunedol, a sefydliadau diwylliannol cenedlaethol.
Amdanom Ni/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/01-campus-and-facilities/11-campus-exterior-shots/campus-exterior-glytnaff-alfred-russell-wallace-closeup-7432-1.jpg)
Dros y blynyddoedd rydym wedi noddi llawer o sefydliadau, digwyddiadau ac unigolion.
Yn sgil yr hinsawdd ariannol heriol sy’n effeithio ar y sector Addysg Uwch gyfan, mae Prifysgol De Cymru yn flaenoriaethau ein hymrwymiadau ariannol ac yn gwneud penderfyniadau anodd i lywio'r amgylchedd allanol presennol.
Mae'n ddrwg gennym eich hysbysu nad ydym yn derbyn unrhyw geisiadau newydd am nawdd corfforaethol ar hyn o bryd. Os ydych eisoes wedi cyflwyno cais ac nad ydych wedi derbyn cadarnhad o gyllid, ni allwn gefnogi eich cais ar hyn o bryd.
Er gwaethaf yr heriau hyn, rydym yn parhau i fod yn ymroddedig i'n gweledigaeth a'r nodau a amlinellir yn ein Strategaeth 2030 PDC. Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar ddarparu'r profiad gorau posibl i'n myfyrwyr, ein partneriaid a'r gymuned ehangach.
Diolch am eich dealltwriaeth a'ch cefnogaeth barhaus.