Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Adduned i Addysg Uwch GTRSB
Mae’r Adduned i AU Sipsiwn, Teithwyr, Roma, Siewmyn a Phobl sy’n byw mewn cychod (GTRSB) yn dangos ymrwymiad i gymryd camau i gefnogi myfyrwyr a chydweithwyr GTRSB.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Datblygwyd yr Adduned ar ôl ymgynghori ag aelodau o gymuned GTRSB, sefydliadau cymdeithas sifil, cynrychiolwyr prifysgolion, ac arbenigwyr polisi addysg.
Mae wedi cael ei danategu gan ganfyddiadau ymchwil, ac ystyriaeth o ymyriadau ehangu cyfranogiad effeithiol i gefnogi aelodau o'r cymunedau i mewn ac o fewn AU. Mae rhagor o wybodaeth am yr Adduned ar gael yma.
Yn PDC, rydym yn cydnabod y rhwystrau sy’n bodoli wrth gael mynediad i Addysg Uwch ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma, Teithwyr, Siewmyn a Phobl sy’n byw mewn cychod. Rydym yn addo’r canlynol:
- Byddwn yn creu mannau teg, yn mynd i'r afael â stigmas ac yn dileu rhwystrau. Byddwn yn cyflawni hyn trwy ymdeimlad a rennir o berthyn a chyd-gynhyrchu gyda chydweithwyr, myfyrwyr a'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.
- Byddwn yn sicrhau bod ein gweithredoedd yn cael eu hymgorffori yn natblygiad a gweithrediad ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-2028, sy'n cyd-fynd â Strategaeth 2030 PDC. Ein nod yw cael amgylchedd gweithle cynhwysol sy'n cefnogi amrywiaeth ac yn hyrwyddo cydweithredu a lles.
Byddwn yn cyflawni ein hymrwymiadau i'r Adduned, drwy ymgymryd â nifer o fesurau.
Data
- Gwella'r broses o gasglu data, fel y gall PDC fonitro nifer y myfyrwyr a chydweithwyr Sipsiwn, Teithwyr, Roma, Siewmyn a Phobl sy’n byw mewn cychod sydd yn y Brifysgol ar hyn o bryd fel rhan o'n Hadroddiad Cydraddoldeb Blynyddol.
- Chwilio am ffyrdd o rymuso a galluogi myfyrwyr a chydweithwyr i adnabod eu hunain ar y cam ymgeisio a thrwy gydol eu taith yn PDC.
Diwylliant Sefydliadol
- Sicrhau cyfathrebu clir bod bwlio ac aflonyddu ar y gymuned GTRSB yn adroddadwy trwy ein platfform Adrodd a Chymorth.
- Sicrhau y bydd Bwrsariaeth Cydraddoldeb Ethnigrwydd yn cynnwys mynediad i gymunedau GTRSB.
- Sicrhau bod camau gweithredu a mesurau priodol yn cael eu hadlewyrchu yng nghynllun gweithredu Canlyniadau Gwahaniaethol y Brifysgol gan gynnwys egwyddorion cwricwlwm cynhwysol ac asesu sy’n adlewyrchu anghenion cymuned GTRSB.
- Sicrhau dad-drefedigaethu'r cwricwlwm yn effeithiol.
- Creu rhaglen sefydlu gynhwysol sy'n creu ymdeimlad o berthyn i bob cydweithiwr a myfyriwr.
- Sicrhau bod hyfforddiant ymwybyddiaeth ddiwylliannol a hyfforddiant ymddygiad cynhwysol ar gael i bob cydweithiwr.
- Sicrhau arweiniad clir, cyfeirio a mynediad at Gymorth a Lles Sgiliau Astudio ar gyfer myfyrwyr GRTSB trwy’r Gwasanaethau Dysgu a Myfyrwyr
- Cynnig mynediad i Hyfforddi Academaidd personol gyda ffocws arbennig ar ymgysylltu â myfyrwyr sydd heb gynrychiolaeth ddigonol a chymorth cyfoedion i gyfoedion a mentora trwy'r Gwasanaethau Dysgu.
- Sicrhau bod cymuned GTRSB yn cael ei hymgorffori yn ein polisïau a'n gweithgareddau sefydliadol ar gyfer cydraddoldeb ac amrywiaeth, a bwlio ac aflonyddu.
- Darparu cyswllt penodol ar gyfer cydweithwyr a myfyrwyr GTRSB: Rheolwr Recriwtio Myfyrwyr ac Allgymorth (myfyrwyr); Rheolwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (cydweithwyr).
Allgymorth ac ymgysylltu
- Bydd Tîm Recriwtio Myfyrwyr y Brifysgol (Tîm Cyswllt Ysgolion a Cholegau) yn cyflwyno rhaglen allgymorth wedi'i thargedu ar gyfer myfyrwyr Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig gyda ffocws clir ar ymgysylltu â phobl ifanc o gymunedau GTRSB. Byddant yn gweithio ar y cyd ag Ymestyn yn Ehangach, Awdurdodau Addysg Lleol, cysylltiadau allweddol o fewn ysgolion a cholegau, a sefydliadau trydydd parti gan gynnwys Travelling Ahead, Prosiect Teithwyr Bridges a Sipsiwn a Theithwyr Cymru.
- Bydd y Tîm Recriwtio Myfyrwyr yn dylunio ac yn darparu rhaglen allgymorth ac ymgysylltu aml-ymyrraeth i hyrwyddo mynediad i addysg uwch a chyfranogiad mewn addysg uwch yn benodol ar gyfer y gymuned GRTSB, gydag adroddiadau blynyddol yn erbyn targedau Cynllun Ffioedd a Mynediad ac fel rhan o adrodd ar Gynllun Cydraddoldeb Strategol 2024- 2028.
Cynhwysiant, dathlu a choffáu
- Byddwn yn sicrhau bod y Brifysgol yn cydnabod ac yn dathlu dyddiadau dathlu a choffáu arwyddocaol trwy gydol y flwyddyn academaidd trwy ein Calendr Cynhwysiant.