Dr David Docherty OBE
Prif Swyddog Gweithredol, Canolfan Genedlaethol Prifysgolion a Busnes
Derbyniodd Dr David Docherty Ddoethuriaeth er Anrhydedd y Brifysgol i gydnabod ei gyfraniad rhagorol i’r cyfryngau a busnes.
Cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Strathclyde ac Ysgol Economeg Llundain, ac mae David wedi cael gyrfa hir yn y cyfryngau ym Mhrydain, mewn rolau sy’n cynnwys Dirprwy Gyfarwyddwr Teledu a Chyfarwyddwr Cyfryngau Newydd y BBC, yn ogystal â bod yn aelod o Fwrdd Rheoli’r BBC ac yn gyfarwyddwr y Gymdeithas Deledu Frenhinol. David yw Prif Swyddog Gweithredol presennol y Ganolfan Genedlaethol Prifysgolion a Busnes, sy’n datblygu, hyrwyddo a chefnogi cydweithio o’r radd flaenaf rhwng prifysgolion a busnes ledled y DU. Ar hyn o bryd, mae hefyd yn Gadeirydd y Grŵp Teledu Digidol. Fel awdur, mae wedi ysgrifennu nifer o weithiau ffuglen a ffeithiol. Fel newyddiadurwr, mae wedi ysgrifennu erthyglau ar gyfer y Guardian, y Listener a’r Times.
David Williams
Arbenigwr ar ynni adnewyddadwy
Dyfarnwyd Doethuriaeth er Anrhydedd y Brifysgol i David Williams i gydnabod ei gyfraniad rhagorol i’r sector ynni adnewyddadwy.
Mae gan David radd mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig ac mae wedi bod yn ymwneud ag ynni adnewyddadwy ers dros 28 mlynedd (gan gynnwys 22 mlynedd fel Prif Swyddog Gweithredol), a dechreuodd ei yrfa gyda chwmni cyfleustodau Swalec. Sefydlwyd Energy Power Resources (EPR) gan David ym 1996 a chyd-sefydlodd Eco2 yn 2002. Mae prosiectau ynni adnewyddadwy o dan reolaeth David dros yr 28 mlynedd yn cyfateb i 700mw o gapasiti a gwerth £2.3bn o gyllid wedi’i godi. Mae hyn yn arbed dros 1.75m tunnell o CO2 bob blwyddyn ac yn darparu’r hyn sy’n cyfateb i gyflenwad ar gyfer 1.4m o gartrefi.
Mae David wedi cynghori Llywodraeth Prydain ar nifer o baneli arbenigol gan gynnwys aelodaeth o Fwrdd Cynghori Ynni Adnewyddadwy Llywodraeth y DU, ac mae hefyd wedi cadeirio Panel Sector Ynni a’r Amgylchedd Llywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd, mae David yn aelod o Fwrdd y Gymdeithas Ynni Adnewyddadwy ac mae’n Gadeirydd Ventus VCT plc. Yn ogystal, mae wedi bod yn aelod o nifer o Fyrddau rhyngwladol gan gynnwys Weiss A/S, Camborne Capital Group a Cymtec Ltd.
Jeremy Bowen
Newyddiadurwr a sylwebydd
Derbyniodd Jeremy Bowen Gymrodoriaeth er Anrhydedd y Brifysgol i gydnabod ei gyfraniad rhagorol i newyddiaduraeth.
Mae Jeremy’n ohebydd rhyfel profiadol, ac mae wedi gohebu o dros 70 o wledydd ac wedi ymdrin â gwrthdaro yn y Gwlff, El Salvador, Libanus, y Lan Orllewinol, Gaza, Affghanistan, Croatia, Bosnia, Chechnya, Somalia a Rwanda, Irac, Algeria, Libya a Syria.
Ym 1995, enillodd Jeremy Bowen wobr Gohebydd Newyddion Gorau yng Ngŵyl Deledu Efrog Newydd. Cafodd lwyddiant eto’r flwyddyn ganlynol, pan enillodd wobr Adroddiad Gorau ar Newyddion yn Torri y Gymdeithas Deledu Frenhinol am ei adroddiadau am lofruddiaeth Prif Weinidiog Rabin. Yn 2004, enillodd wobr Aur Sony am Stori Newyddion y Flwyddyn am Saddam Hussein yn cael ei arestio. Yn ogystal, cafodd Jeremy ei osod ar y rhestr fer ar gyfer nifer o wobrau am adroddiadau ar ryfeloedd, gan gynnwys gwobr Bayeux, ac roedd yn rhan o dimau’r BBC a enillodd wobr Bafta am eu darllediadau ar Kosovo. Ym 1999, cyflwynodd raglen arbennig ar BBC One yn archwilio canlyniadau’r ddaeargryn yn Nhwrci.
Y Gwir Anrhydeddus Mr Ustus John Griffith Williams QC Kt
Bargyfreithiwr
Dyfarnwyd Doethuriaeth er Anrhydedd yn y Gyfraith y Brifysgol i’r Gwir Anrhydeddus Mr Ustus John Griffith Williams i gydnabod ei gyfraniad rhagorol i’r gyfraith.
Cyn ymddeol, roedd Syr John yn farnwr yn Uchel Lys Cymru a Lloegr. Bu’n is-gapten gyda’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig fel aelod o’r Fyddin Diriogaethol, gan ymuno ym 1964 a dod yn rhan o Lu Wrth Gefn Gwirfoddol y Fyddin Diriogaethol a’r Fyddin pan gafodd ei greu ym 1967. Gadawodd y Llu Wrth Gefn ym 1971.
Galwyd ef i’r bar yn Gray’s Inn ym 1968, fe’i penodwyd yn Gwnsler y Frenhines ym 1985 ac fe’i hetholwyd yn feinciwr ym 1994. Rhwng 1984 a 2000, gwasanaethodd fel Cofiadur, a bu’n ddirprwy farnwr yn yr Uchel Lys o 1995. Rhwng 1990 a 1992, bu’n aelod o Gyngor y Bar. Bu’n drysorydd Cylchdaith Cymru a Chaer rhwng 1993 a 1995 a’i arweinydd rhwng 1996 a 1998. Bu Syr John yn gomisiynydd cynorthwyol gyda Chomisiwn Ffiniau Seneddol Cymru rhwng 1994 a 2000. Fe’i penodwyd yn farnwr cylchdaith yn 2000 a bu’n uwch farnwr cylchdaith ac yn Gofiadur yng Nghaerdydd rhwng 2001 a 2007. Yn 2007, fe’i penodwyd yn Ustus yn yr Uchel Lys a’i aseinio i Adran Mainc y Frenhines.
Y Gwir Anrydeddus Arglwydd Heseltine o Thenford CH PC
Gwladweinydd a seneddwr
Derbyniodd y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Heseltine o Thenford Ddoethuriaeth er Anrhydedd y Brifysgol i gydnabod ei gyfraniad rhagorol i adfywio.
Dechreuodd yr Arglwydd Heseltine ei yrfa fel datblygwr eiddo, a daeth yn un o sylfaenwyr cwmni cyhoeddi Haymarket. Gwasanaethodd fel AS o 1966 i 2001, ac roedd yn ffigwr amlwg yn llywodraethau Margaret Thatcher a John Major, a gwasanaethodd fel Dirprwy Brif Weinidog o dan Major.
Ymunodd â’r Cabinet ym 1979 fel Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, a bu’n hyrwyddo’r ymgyrch “Hawl i Brynu” a alluogodd ddwy filiwn o deuluoedd i brynu eu tai cyngor.
Fel Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn rhwng 1983 a 1986, bu’n allweddol yn y frwydr wleidyddol yn erbyn yr Ymgyrch dros Ddiarfogi Niwclear.
Yr Athro Syr Mansel Aylward CB MD FFPM FFOM FFPH FRCP
Academydd blaenllaw ym maes iechyd y cyhoedd
Derbyniodd yr Athro Syr Mansel Aylward Ddoethuriaeth er Anrhydedd mewn Gwyddoniaeth y Brifysgol i gydnabod ei gyfraniad rhagorol i ofal iechyd yng Nghymru.
Syr Mansel yw Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Seicogymdeithasol, Iechyd Galwedigaethol ac Iechyd Meddygon yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd. Cafodd ei urddo’n farchog yn 2010, a’i wneud yn Rhyddfreiniwr Bwrdeistref Merthyr Tudful yn 2013. Ef yw Cadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru.
O 1996 i fis Ebrill 2005, roedd Aylward yn Brif Gynghorydd Meddygol, Cyfarwyddwr Meddygol a Phrif Wyddonydd Adran Gwaith a Phensiynau’r DU ac yn Brif Gynghorydd Meddygol a Phennaeth Proffesiwn yn Asiantaeth Cyn-filwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn. Roedd yn aelod o fwrdd Gwasanaeth Meddygol yr Asiantaeth Budd-daliadau yn y 1990au.
Mae’n Gadeirydd bwrdd ymgynghorol HCB Group, sy’n darparu gwasanaethau adfer a rheoli achosion i gwmnïau yswiriant a’r sector corfforaethol. Yn ogystal, mae Syr Mansel yn gadeirydd Comisiwn Bevan, sef grŵp o arbenigwyr rhyngwladol sy’n cynghori Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.
Mark Colbourne MBE
Beiciwr Paralympaidd Cymreig
Dyfarnwyd Cymrodoriaeth er Anrhydedd y Brifysgol i Mark Colbourne MBE am ei ymrwymiad i chwaraeon a’i daith ysbrydoledig i gyflawni llwyddiant. Mae Mark yn cystadlu dros Gymru a Phrydain Fawr mewn beicio Paralympaidd, ac enillodd fedal aur a medal arian yng Ngemau Paralympaidd 2012 yn Llundain. Gan ennill medal gyntaf Tîm Paralympaidd Prydain yn y Gemau, torrodd Mark record y byd hefyd yn y gystadleuaeth treial amser 1km C1. Cymerodd ran yn ei Gemau Paralympaidd cyntaf ar ôl iddo dorri ei gefn mewn damwain paragleidio ym mis Mai 2009 a fu bron yn angheuol.
Er gwaethaf iddo gael ei adael â pharlys yn rhan isaf y goes a chyflwr troed llipa yn ei ddwy droed, brwydrodd am 12 mis i ddysgu cerdded eto, ac erbyn hyn mae’n ymfalchïo mewn bod yn Bara-feiciwr proffesiyno amserl llawn dros Brydain Fawr.
Yn hydref 2011, cafodd Mark gyfle gan dîm Para-feicio Prydain Fawr i gystadlu ym Mhencampwriaethau Para-feicio Ffordd y Byd yn Nenmarc – dim ond dwy flynedd ar ôl iddo adael yr ysbyty ar ôl torri ei gefn. Derbyniodd yr her hon a rasiodd yn hyderus yn y gystadleuaeth treial amser 10 milltir ar y ffordd i unigolion, gan ennill y fedal arian. Cafodd Mark MBE yn 2013 am ei wasanaethau i feicio.
Yr Athro Melveena McKendrick PhD Litt.D FBA
Ysgolhaig
Dyfarnwyd Doethuriaeth er Anrhydedd mewn Llenyddiaeth y Brifysgol i’r Athro Melveena McKendrick i gydnabod ei chyfraniad rhagorol i lenyddiaeth a’r celfyddydau.
Roedd Melveena yn Athro Llenyddiaeth, Diwylliant a Chymdeithas Oes Aur Sbaen ym Mhrifysgol Caergrawnt rhwng 1999 a 2008, a gwasanaethodd fel Dirprwy Is-Ganghellor Addysg y Brifysgol honno rhwng 2004 a 2008. Bu hefyd yn Gymrawd Coleg Girton, Caergrawnt, ers 1967; ar hyn o bryd, mae’n gymrawd oes ar ôl ymddeol o’r byd academaidd amser llawn yn 2008.
Ym 1999, etholwyd Melveena yn Gymrawd yr Academi Brydeinig (FBA), sef academi genedlaethol y Deyrnas Unedig ar gyfer y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol.
Syr Paul Williams OBE
Rheolwr yn y gwasanaeth iechyd a chyn Brif Weithredwr GIG Cymru (2009-2011)
Dyfarnwyd Doethuriaeth er Anrhydedd y Brifysgol i Syr Paul Williams i gydnabod ei gyfraniad rhagorol i’r gwasanaeth iechyd a bywyd cyhoeddus yng Nghymru.
Bu Syr Paul yn Brif Swyddog Gweithredol ar dair Ymddiriedolaeth GIG ac yn Llywydd y Sefydliad Rheoli Gofal Iechyd. Ei swydd olaf oedd Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cynulliad Cymru, a Phrif Swyddog Gweithredol GIG Cymru. Mae’n Gydymaith y Sefydliad Rheolaeth Siartredig, yn Gydymaith y Sefydliad Rheoli Gofal Iechyd ac yn Athro Gwadd yn PDC.
Bu’n Uchel Siryf De Morgannwg yn 2007/8 ac fe’i penodwyd yn Ddirprwy Arglwydd Raglaw De Morgannwg yn 2010. Gwnaed Syr Paul yn Swyddog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE) yn 2000 am wasanaethau i’r GIG yng Nghymru. Fe’i gwnaed yn Farchog Gwyry yn 2011 ac yn Farchog Urdd Ysbyty Jerwsalem Sant Ioan yn 2016.
Y Gwir Anrydeddus Peter Hain AS
Gwladweinydd ac ymgyrchydd
Dyfarnwyd Doethuriaeth er Anrhydedd y Brifysgol i’r Gwir Anrhydeddus Peter Hain AS i gydnabod ei gyfraniad rhagorol i fywyd cyhoeddus yng Nghymru.
Bu Peter yn AS dros Gastell-nedd rhwng 1991 a 2015, a gwasanaethodd yng nghabinetau Tony Blair a Gordon Brown. Bu’n Arweinydd Tŷ’r Cyffredin rhwng 2003 a 2005 ac yn Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon rhwng 2005 a 2007 o dan Blair, ac yn Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru o 2007 i 2008 o dan Brown.
Dychwelodd i’r Cabinet rhwng 2009 a 2010 fel Ysgrifennydd Cymru, cyn dod yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru’r Wrthblaid yng Nghabinet yr Wrthblaid o dan Ed Miliband rhwng 2010 a 2012, pan gyhoeddodd ei ymddeoliad o wleidyddiaeth rheng flaen. Daeth Peter i’r DU o Dde Affrica yn ei arddegau, ac roedd yn ymgyrchydd gwrth-apartheid nodedig yn y 1970au. Bu hefyd yn Is-lywydd Anrhydeddus yr Ymgyrch dros Gydraddoldeb Cyfunrywiol.
Rhys Hutchings
Artist a gwleidydd lleol
Dyfarnwyd Cymrodoriaeth er Anrhydedd i Rhys Hutchings am ei ymrwymiad i wleidyddiaeth leol a’i frwdfrydedd dros ddod â diwylliant poblogaidd i Gasnewydd a thu hwnt.
Ffurfiodd Rhys y grŵp rap comedi Goldie Lookin ‘Chain yn 2000 ac mae nifer o’u recordiau wedi cyrraedd y deg uchaf gyda’u golwg tafod-yn-y-boch ar fywyd yng Nghymru. Mae ganddo nifer o arallenwau yn y band, ac mae’n ysgrifennu, yn cynhyrchu ac yn creu cymysgeddau ar gyfer holl draciau’r band.
Rhwng 2007 a 2008, bu’n cyd-gyflwyno sioeau radio amser gyrru yn ystod yr wythnos ar XFM South Wales gyda’i gyd-aelod, Eggsy, o Goldie Lookin ‘ Chain. Yn 2011, roedd Rhys yn un o wyth o enwogion a ddewiswyd i gymryd rhan mewn wythnos ddwys o ddysgu Cymraeg mewn maes gwersylla ecogyfeillgar yn Sir Benfro ar gyfer cyfres Cariad@Iaith:love4language a ddangoswyd ar S4C. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Rhys wedi rhyddhau pum record hir mewn genres cerddorol gwahanol, gan gynnwys albwm lled-Gymraeg, cerddoriaeth ymlacio, hip hop, dawns a ffync lleisgodwr. Cafodd ei ethol yn gynghorydd Llafur i Gyngor Dinas Casnewydd yn 2012, gan gynrychioli ardal St Julians yng Nghasnewydd.
Rosemary Butler AC
Cyn Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Dyfarnwyd Doethuriaeth er Anrhydedd y Brifysgol i Rosemary Butler AC am ei hymrwymiad i ranbarth Casnewydd ac am ei gwaith i helpu i wella bywydau pobl mewn cymunedau lleol a rhyngwladol.
Ymunodd Rosemary â’r blaid Lafur ym 1971 a dwy flynedd yn ddiweddarach fe’i hetholwyd yn gynghorydd Llafur dros Gaerllion ar Gyngor Bwrdeistref Casnewydd, swydd a ddaliodd tan 1999. Yn ei chyfnod ar y cyngor, bu’n gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Hamdden am 12 mlynedd, a gwasanaethodd fel Dirprwy Arweinydd a Maer Casnewydd o 1989 i 1990.
Etholwyd Rosemary yn Aelod Cynulliad cyntaf Gorllewin Casnewydd ym mis Mai 1999, ac mae wedi’i hailethol ym mhob etholiad y Cynulliad ers hynny. Yn y Cynulliad Cyntaf, fe’i penodwyd yn Weinidog Addysg Cyn-16 Oed a Phlant, a chadeiriodd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon. Hefyd, gwasanaethodd Rosemary fel Dirprwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru cyn cael ei hethol i swydd y Llywydd trwy bleidlais unfrydol gan Aelodau’r Cynulliad ym mis Mai 2011.
Y Gwir Barchedig a’r Gwir Anrhydeddus Arglwydd Williams o Ystumllwynarth
Canghellor Prifysgol De Cymru, Archesgob Caergaint (2002-2012)
Dyfarnwyd Doethuriaeth er Anrhydedd y Brifysgol i’r Gwir Barchedig a’r Gwir Anrhydeddus Arglwydd Williams o Ystumllwynarth (Rowan Williams) i gydnabod ei gyfraniad rhagorol i addysg, diwinyddiaeth a’r Eglwys.
Fe’i ganed ym 1950, ac mae Rowan Williams yn esgob Anglicanaidd Cymreig, yn ddiwinydd ac yn fardd. Ef oedd 104ydd Archesgob Caergaint, swydd a ddaliodd rhwng mis Rhagfyr 2002 a mis Rhagfyr 2012. Cyn hynny, bu’n Esgob Mynwy ac yn Archesgob Cymru, ac ef oedd yr Archesgob Caergaint cyntaf yn y cyfnod modern i beidio â chael ei benodi oddi mewn i Eglwys Loegr.
Ar ôl treulio llawer o’i yrfa gynharach fel academydd ym mhrifysgolion Caergrawnt a Rhydychen yn olynol, mae Rowan yn siarad tair iaith ac yn darllen o leiaf naw iaith. Ar ôl ymddeol fel Archesgob, cymerodd Williams swydd Meistr Coleg Magdalene, Caergrawnt, yn 2013, a swydd Canghellor PDC yn 2014.
Sam Warburton
Chwaraewr rygbi rhyngwladol tîm Cymru a thîm y Llewod Prydeinig
Dyfarnwyd Cymrodoriaeth er Anrhydedd y Brifysgol i Sam Warburton i gydnabod ei gyfraniad rhagorol i rygbi.
Mae Sam wedi chwarae rygbi rhanbarthol gyda Gleision Caerdydd ac mae’n chwaraewr rhyngwladol tîm Cymru. Yn 2011, cafodd ei enwi’n gapten Cymru yn erbyn y Barbariaid; ef oedd y chwaraewr ieuengaf ond un i fod yn gapten ar ei wlad. Ym mis Awst 2011, cafodd ei enwi’n gapten Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd. Ym mis Ebrill 2013, cafodd ei enwi’n gapten y Llewod Prydeinig ar gyfer taith 2013 i Awstralia.
Dechreuodd ei yrfa rygbi yn Rhiwbeina yng Nghaerdydd, a chwaraeodd i Grwydriaid Morgannwg cyn ymuno â Gleision Caerdydd. Mae wedi cynrychioli Cymru ar bob lefel, gan gynnwys bod yn gapten ar y tîm dan 18 oed, y tîm dan 19 oed, a bu’n gapten ar y tîm dan 20 oed yn nhymor 2007-08. Arweiniodd Gymru i rownd gynderfynol cwpan y byd dan 19 oed a dan 20 oed. Chwaraeodd Sam ei gêm gyntaf i’r prif dîm cenedlaethol rygbi’r undeb yn 2009, a chwaraeodd ei gêm ranbarthol gyntaf gyda Gleision Caerdydd yn yr un flwyddyn. Pan oedd yn 24 oed, daeth Sam yn gapten ieuengaf erioed y Llewod ac arweiniodd y garfan yn eu buddugoliaeth gyntaf yn y gyfres ers 16 mlynedd.
Simon Gibson OBE
Prif Weithredwr, Wesley Clover Corporation
Dyfarnwyd Cymrodoriaeth er Anrhydedd i Simon Gibson OBE am ei wasanaethau i fusnes ac i ranbarth Gwent, a’i ymrwymiad i entrepreneuriaeth ymhlith y meddyliau busnes ifanc disgleiriaf.
Mae Simon yn Athro Gwadd mewn Entrepreneuriaeth yn y Brifysgol, ac yn Brif Weithredwr Wesley Clover Corporation, sef Cronfa Fenter sy’n arbenigo mewn hadu cwmnïau technoleg. Cyn ymuno â Wesley Clover, roedd Simon yn gyd-sylfaenydd, Llywydd a Phrif Swyddog Gweithredol Ubiquity Software Corporation.
Cafodd OBE ym 1999 am ei wasanaethau i ddiwydiant a’r gymuned yn Ne Cymru. Mae wedi gwasanaethu ar Fwrdd Awdurdod Datblygu Cymru a bu’n gadeirydd y Pwyllgor Economi Gwybodaeth, yn ogystal â gweithredu fel cynghorydd i nifer o gyrff llywodraethol gan gynnwys y Panel Cynghorol ar Ymchwil Economaidd Cenedlaethol.
Yn ogystal â bod yn Gadeirydd Digital Wales, Simon yw sylfaenydd ac un o ymddiriedolwyr Sefydliad Alacrity, sef rhaglen hyfforddiant entrepreneuriaeth i raddedigion sydd wedi’i lleoli yng Nghasnewydd.
Stuart Popham QC
Cyn-Gadeirydd Tŷ Chatham
Dyfarnwyd Doethuriaeth er Anrhydedd y Brifysgol i Stuart Popham i gydnabod ei gyfraniad rhagorol i broffesiwn y gyfraith.
Bu Stuart yn Gadeirydd Tŷ Chatham, sef cartref y Sefydliad Brenhinol Materion Rhyngwladol, yn ogystal â TheCityUK, sy’n hyrwyddo cystadleugarwch yn y diwydiant gwasanaethau ariannol.
Ymunodd â Citigroup yn 2012 fel Is-gadeirydd Bancio yn Ewrop, y Dwyrain Canol ac Affrica. Hyd at 2010, ef oedd Uwch Bartner, ledled y byd, Clifford Chance LLP, sef un o gwmnïau cyfreithiol mwyaf blaenllaw’r byd, a bu’n cadeirio Cyngor Partneriaeth y cwmni, sef y bwrdd goruchwylio. Roedd yn gyfrifol am gysylltiadau â nifer o gleientiaid, ac roedd ganddo gyfrifoldeb arbennig dros enw da a gwerthoedd Clifford Chance.
Mae Stuart yn aelod o fyrddau Legal & General Insurance, Ymddiriedolaeth Canolfan y Barbican, Cyngor Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI), Prifysgol Birkbeck Llundain, a Fforwm Cynghori Ysgol Fusnes Saïd, Prifysgol Rhydychen. Fe’i gwnaed yn Gwnsler y Frenhines (er anrhydedd) yn 2011.
Tony Pulis
Rheolwr pêl-droed
Dyfarnwyd Cymrodoriaeth er Anrhydedd i Tony Pulis am ei ymrwymiad i bêl-droed a’i gefnogaeth i ranbarth De Ddwyrain Cymru.
Ac yntau’n gyn amddiffynnwr gyda thîm Casnewydd, daeth Tony’n un o’r chwaraewyr pêl-droed proffesiynol ieuengaf erioed i gael trwydded ‘A’ UEFA yn 21 mlwydd oed, ar ôl ennill ei gymhwyster hyfforddi FA pan oedd ond yn 19 mlwydd oed. Dechreuodd ei yrfa yn Bristol Rovers, lle ymddangosodd 85 o weithiau mewn gemau cynghrair cyn gadael i ymuno â chlwb Happy Valley AA yn Hong Kong ym 1981. Dychwelodd i Rovers y flwyddyn ganlynol, cyn symud i Gasnewydd ym 1984.
Cymerodd ei gamau cyntaf fel rheolwr yn Bournemouth, lle gorffennodd ei yrfa chwarae, a daeth yn rheolwr cynorthwyol i Harry Redknapp. Yn fuan wedi hynny, fe’i penodwyd yn brif hyfforddwr y clwb. Yn ystod 17 mlynedd ei yrfa, bu hefyd yn cynrychioli Bristol County, Bournemouth a Gillingham, a daeth yn rheolwr ar Stoke City yn 2006. Arweiniodd y clwb i’r Uwch Gynghrair yn 2007/08, ac yn 2011, llwyddodd ei dîm i gyrraedd Rownd Derfynol Cwpan FA. Ar ôl saith mlynedd wrth y llyw gyda’r ‘Potters’, gadawodd y clwb ym mis Mai 2013.
Trudy Norris-Grey
Arweinydd busnes
Dyfarnwyd Cymrodoriaeth er Anrhydedd y Brifysgol i Trudy Norris-Grey i gydnabod ei chyfraniad rhagorol i fusnes.
A hithau’n enedigol o Abertawe, enillodd Trudy radd mewn Astudiaethau Busnes yng Ngholeg Polytechnig Cymru, fel yr oedd ar y pryd. Ar ôl graddio, cwblhaodd arholiadau’r Cyfrifwyr Siartredig Ardystiedig a chymhwysodd fel cyfrifydd. Dechreuodd ei gyrfa yn Racal Vodafone ym 1983 fel cyfrifydd archwilio cyn symud i Digital Equipment Corporation ym 1986, a oedd wedi’i leoli yn Reading.
Yn 2007, penodwyd Trudy yn Gadeirydd WISE (Menywod mewn Gwyddoniaeth, Peirianneg a Thechnoleg), sef ymgyrch sydd â’r nod o annog mwy o ferched a menywod i ddilyn llwybrau gyrfa STEM. Mae wedi rhoi tystiolaeth i Lywodraeth y DU ac i lawer o sefydliadau eraill.
Ers 2012, mae Trudy wedi bod yn Rheolwr Cyffredinol Microsoft, yn gyfrifol am fusnes sector cyhoeddus yng Nghanol a Dwyrain Ewrop.