Rhowch her i’ch hunan i gael cawod mewn 4 munud. (Gall treulio munud yn llai yn y gawod arbed tua 40 gwydraid neu 10 litr o ddŵr). Casglwch bwyntiau am gael cawodydd byrrach ar wefan Troi PDC yn Wyrdd!
- Pan fydd y tywydd yn boeth, cadwch jwg neu botel o ddŵr yn yr oergell er mwyn osgoi rhedeg y dŵr bob tro er mwyn cael diod oer.
- Wrth olchi llestri, llenwch bowlen gyda dŵr poeth a defnyddiwch hwnnw yn lle rhedeg y tap. Ar gyfartaledd, gallai hyn arbed defnyddio hyd at 50% o ddŵr mewn cegin ddomestig.
- Peidiwch â gwastraffu dŵr tap wrth aros iddo boethi – casglwch y dŵr a'i ddefnyddio i ddyfrio planhigion.
- Dewch â photel ddŵr y gellir ei hailddefnyddio i'n hunedau arlwyo i leihau’r nifer o gwpanau sydd angen eu golchi.
- Arhoswch nes bod llwyth llawn o ddillad i’w golchi gennych neu cyfunwch gyda chyd-letywr neu ffrind.
- Os oes gan y toiled ddau fath o ddwrlif (botwm gyda dau hanner sy'n rhoi’r dewis o faint o ddŵr i'w ddefnyddio), defnyddiwch y dwrlif byr os yw'n addas i arbed dŵr.
- Rhowch wybod i’r Ddesg Gymorth Ystadau am unrhyw ddŵr sy’n gollwng.
Mae gan Brifysgol De Cymru rwydwaith o aelodau brwd sy'n gweithio tuag at wneud ein campysau'n fwy cynaliadwy.
Maent yn canolbwyntio ar wella gweithrediadau a gweithgareddau o ddydd i ddydd PDC wrth chwilio am gyfleoedd i leihau ein heffaith amgylcheddol.
Cynlluniwyd y rhwydwaith i roi llais i staff a’u grymuso i wneud newidiadau cadarnhaol a chynaliadwy i'w hamgylcheddau gwaith, wrth ddarparu cyfleoedd datblygu a buddion llesiant.
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r rhwydwaith Hyrwyddwyr Cynaliadwyedd, cysylltwch â ni yn [email protected].
Ydych chi’n angerddol dros un maes penodol o gynaliadwyedd, neu a oes gennych wybodaeth a phrofiad yr hoffech eu rhannu i siapio ein cynlluniau gweithredu cynaliadwyedd?
Fel rhan o’n Strategaeth Sero Net 2040, rydym wedi creu grwpiau ffocws sy’n creu llwyfan ar gyfer codi ymwybyddiaeth, rhannu gwybodaeth, a chydweithio i ddatblygu cynaliadwyedd ledled y Brifysgol. Datblygwyd y grwpiau ar sail effeithiau allweddol sy’n gysylltiedig â gweithgareddau a gweithrediadau ein hystâd – gyda ffocws ar ysgogi gwelliannau a dod o hyd i atebion i rai o’r heriau sy’n ein hwynebu.
Mae ein Grwpiau Ffocws ar Gynaliadwyedd yn rhoi cyfle i chi wneud cyfraniadau cadarnhaol mewn lleoliad anffurfiol a fydd yn helpu i siapio ein cynlluniau gweithredu cynaliadwyedd.
Ar hyn o bryd mae gennym 5 grŵp y gallwch ymuno â nhw:
- Arlwyo a Bioamrywiaeth
- Ynni ac Adeiladau
- Caffael Cynaliadwy a'r Gadwyn Gyflenwi
- Dysgu, addysgu ac ymchwil
- Teithio a Gwastraff
Mae'r grwpiau'n cwrdd am awr bob chwarter, felly nid oes gofyn i chi ymrwymo llawer o amser i’r grwpiau a gallwch roi hwb sylweddol i’n hamcanion allweddol. Maent hefyd yn gyfle i chi gymryd rhan yn y prosiectau a'r mentrau yr ydych yn ymwneud â nhw.
Rydym yn croesawu aelodau newydd a all ddod â llygaid a syniadau ffres i bob grŵp ac os hoffech gofrestru eich diddordeb, cysylltwch â ni.
Rydym yn awyddus i gynifer o’n staff a’n myfyrwyr ag sy’n bosib i gael cyfle i gymryd rhan mewn ymgyrchoedd a digwyddiadau cynaliadwyedd a gynhelir ym Mhrifysgol De Cymru. Er mwyn cyflawni hyn byddwn yn darparu rhaglen o fentrau a digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn i godi ymwybyddiaeth o faterion cyfredol yn lle canolbwyntio ar un ‘Wythnos Werdd’. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i staff a myfyrwyr gymryd rhan. Mae’r rhain yn cynnwys sesiynau Cynnal a Chadw Dr Beic (MOT beic am ddim), sesiynau casglu sbwriel, plannu coed, siopau dros dro, digwyddiadau garddio cymunedol a mwy.
Crynodeb o Ddigwyddiadau Cynaliadwyedd 2023-24
Os oes gennych ddiddordeb mewn cynnal digwyddiad, sgwrs neu weithgaredd ar gynaliadwyedd yn ystod y flwyddyn, cysylltwch â ni yn [email protected].
Oeddech chi’n gwybod bod staff PDC yn cael hyd at dri diwrnod o wyliau â thâl ar gyfer gwirfoddoli?
Rydym wedi datblygu siop un stop ar gyfer dod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli a meithrin cysylltiadau â phobl a sefydliadau sy'n ysgogi newid cadarnhaol yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
O ddigwyddiadau untro i gyfleoedd gwirfoddoli rheolaidd, mae rhywbeth at ddant pawb. Mae pawb ohonom yn brysur, felly mae’r cyfleoedd yn darparu hyblygrwydd heb orfod ymrwymo am yr hirdymor, felly gallwch neidio i mewn ac allan fel sy’n gyfleus i chi. P'un a ydych yn angerddol am yr amgylchedd, addysg neu lesiant, bydd y rhaglen o gyfleoedd gwirfoddoli yn cynnig rhestr o weithgareddau fel y gallwch ddod o hyd i'r un sy’n addas i chi.
Mae gwirfoddoli hefyd yn cynnig profiad a chipolwg gwerthfawr ar sut mae sefydliadau a rhaglenni cymunedol yn gweithio a gallwch ddysgu sgiliau a’u rhannu ag eraill gan gynnwys cyflogwyr, ar geisiadau neu ar eich CV.
Mae rhagor o wybodaeth am gyfleoedd gwirfoddoli cynaliadwyedd lleol ar gael yma.
Yn olaf, os ydych yn gwirfoddoli’n rheolaidd, gallwch gofnodi hyn ar ap Troi PDC yn Wyrdd er mwyn ennill pwyntiau a gwobrau posib!