Mae myfyrwyr sydd wedi'u lleoli ar ein Campws Glyn-taf wedi bod yn defnyddio trapiau camera i fonitro ac ymchwilio i boblogaethau draenogod ar y campws.

Ar Gampws Glyn-taf Uchaf mae gennym amrywiaeth o labordai sy'n cefnogi'r gwyddorau cemegol a biolegol. Defnyddir y rhain i gyflwyno dosbarthiadau ymarferol (a rhywfaint o ymchwil) ym meysydd Botaneg, Sŵoleg a Gwyddor yr Amgylchedd. Mae gennym gasgliad amgueddfa bach a ddefnyddir i addysgu am ddosbarthiadau biolegol ac adnabod rhywogaethau. Mae gennym hefyd gyfleusterau ar gyfer Gwyddor Pridd gan gynnwys asesu cynnwys a cholledion carbon o Fawnogydd.

Mae gan y Brifysgol sawl ardal werdd ar draws ei champysau. Yr amlycaf yw’r Coetir ar Gampws Trefforest a'r ardaloedd Blodau Gwyllt ar Gampws Glyn-taf Uchaf. Mae'r ardaloedd hyn hefyd yn cefnogi addysg myfyrwyr a phrosiectau ar bynciau Ecoleg a Gwyddor yr Amgylchedd, yn enwedig o ran hyfforddiant adnabod rhywogaethau ac asesiadau bioamrywiaeth.

Rydyn ni’n gweithio gyda myfyrwyr a staff i gytuno ar gynlluniau i ailwylltio ardaloedd dynodedig o'n campysau i gynyddu bioamrywiaeth, rhywogaethau ac amrywiaeth planhigion. Rydyn ni wedi dynodi ardaloedd gwyllt ar gampws Glyn-taf a ddefnyddir ar hyn o bryd ar gyfer ymchwil israddedig ac ôl-raddedig ar fonitro rhywogaethau.

Ar y cyd â Choed Caerdydd, mae myfyrwyr a staff PDC wedi bod yn plannu coed yn ein hadeilad Atriwm yng Nghaerdydd, sy'n rhoi amrywiaeth o sgiliau a gwybodaeth dechnegol iddynt.