Mae PDC wedi prynu trydan sy’n 100% adnewyddadwy ers 2016/17. Mae prynu trydan adnewyddadwy yn rhoi hwb i’r farchnad ynni adnewyddadwy a’r gobaith yw y bydd hyn yn arwain at gynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy yn y dyfodol.
Rydym yn cael ein cyfyngu gan faint o ynni adnewyddadwy y gallwn ei gynhyrchu, fodd bynnag rydym yn defnyddio paneli solar.
Mae pob uned o drydan a brynwn yn cael ei ddilysu’n allanol gan dystysgrif Gwarant Tarddiad Ynni Adnewyddadwy (REGO).
Mae gennym dros 1,300 o baneli solar bellach, diolch i’r cynnydd mewn capasiti yn y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn yn cyfateb i bron i 500kWp o baneli ffotofoltaig ar draws ein hadeiladau llety, academaidd a chwaraeon.
Er mwyn cyflawni ein targedau Sero Net erbyn 2040, bydd angen i ni ddatgarboneiddio ein systemau gwresogi nwy presennol. Mae hyn yn debygol o olygu trosi i ffurfiau trydanol o wresogi megis pympiau gwres sy'n llai carbon-ddwys. Rydym yn datblygu astudiaethau dichonoldeb a strategaethau i ddileu ein dibyniaeth ar nwy naturiol yn raddol fel ffordd o gynhyrchu gwres a dŵr poeth dros y blynyddoedd nesaf.
Mae PDC yn elwa ar system rheoli adeiladau cynhwysfawr sy'n awtomeiddio ac yn gwneud y gorau o'n rheolyddion gwresogi, awyru a dŵr poeth ar draws ein hadeiladau. Rydym yn ymchwilio i ffyrdd o wella strategaethau rheoli i arbed ynni, gwella gwelededd peiriannau ac offer a buddsoddi mewn rhaglen uwchraddio rheolyddion er mwyn gwella gwydnwch a dibynadwyedd.
Mae ein hadeiladau'n elwa ar system is-fesurydd cyfleustodau helaeth sy'n rhoi data i ni ar berfformiad ein hadeiladau, tra hefyd yn ein helpu i nodi gollyngiadau, diffygion a phroblemau gyda gweithrediad peiriannau. Mae'r system yn helpu i flaenoriaethu meysydd gweithredu sy'n defnyddio llawer o ynni ac yn ein galluogi i ymchwilio i sut y gall rheolaeth well ar y system rheoli adeiladau wella gwresogi, awyru a chyflyru aer.
Mae gan PDC gymysgedd amrywiol o adeiladau rhestredig ac adeiladau mwy modern. Rydym wedi ymrwymo i adnewyddu ein hadeiladau i fanylebau cynaliadwyedd uchel a throi ein hadeiladau yn rhai carbon isel.
Rydym yn monitro ein hadeiladau yn gyson ac yn edrych ar yr opsiynau mwyaf priodol ar gyfer ôl-osod. Mae'r penderfyniadau hyn yn cynnwys gosod technolegau newydd priodol i leihau ein defnydd o ynni, gosod goleuadau LED yn lle goleuadau traddodiadol, gosod ffenestri newydd a gwella lefelau inswleiddio a pherfformiad ynni.
Rydym yn sicrhau bod cynaliadwyedd yn cael ei ystyried fel blaenoriaeth allweddol ym mhob cam o ddatblygiad adeiladau, o ddylunio hyd at pan fydd yr adeiladau’n cael eu llenwi, ac mae hyn yn cynnwys integreiddio’r holl systemau gwresogi trydan, enillion net bioamrywiaeth, optimeiddio effeithlonrwydd ynni a dŵr ac ystyriaeth ehangach o’r effeithiau ar yr amgylchedd. Ein nod yw cyflawni targedau Her Hinsawdd RIBA 2030 ar gyfer pob prosiect cyfalaf newydd.