Mae'r Brifysgol yn cynhyrchu Tystysgrifau Perfformiad Ynni ar gyfer ei hadeiladau’n flynyddol. Gallwch weld perfformiad adeiladau PDC drwy roi cod post yr adeilad yma https://www.gov.uk/dod-o-hyd-i-dystysgrif-ynni (er enghraifft, cod post Campws Trefforest yw CF37 1DL). Noder mai ar gyfer adeiladau prifysgol â thros 250m2 o arwynebedd mewnol yn unig y cynhyrchir DECs.
I weld y DECs ar gyfer ein blociau llety myfyrwyr ar ein Campws Trefforest, cliciwch ar y dolenni perthnasol isod.
DEC Llety Cwrt Morgannwg Bloc A
DEC Llety Cwrt Morgannwg Bloc B
DEC Llety Cwrt Morgannwg Bloc C
DEC Llety Cwrt Morgannwg Bloc D
DEC Llety Cwrt Morgannwg Bloc E
DEC Llety Cwrt Morgannwg Bloc F
DEC Llety Cwrt Morgannwg Bloc G
DEC Llety Cwrt Morgannwg Bloc H
DEC Llety Cwrt Morgannwg Bloc J
DEC Llety Cwrt Morgannwg Bloc K
DEC Llety Cwrt Morgannwg Bloc L
DEC Llety Cwrt Morgannwg Bloc M
DEC Llety Cwrt Morgannwg Bloc N
DEC Llety Cwrt Morgannwg Bloc P
DEC Llety Cwrt Morgannwg Bloc R
DEC Llety Cwrt Morgannwg Bloc S
DEC Llety Cwrt Morgannwg Bloc T
DEC Llety Cwrt Morgannwg Bloc V
Mae gan bob un ohonom ran bwysig i’w chwarae wrth leihau ein defnydd o ynni ac i annog eraill i fod yn ystyriol o gynaliadwyedd. Rydym wedi buddsoddi yn yr ap Troi PDC yn Wyrdd sy’n annog staff i ddefnyddio ynni’n fwy effeithlon yn eu cartrefi ac yn y gwaith.
Os byddwn i gyd yn cymryd y camau syml a restrir yma, nid yn unig y byddwn yn helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd drwy leihau ein hallyriadau carbon deuocsid ond byddwn yn gwneud arbedion ariannol hefyd. Cofiwch - mae'r rhan fwyaf o'r awgrymiadau hyn yn gweithio ar yr aelwyd yn ogystal â’r gwaith, felly gallwch arbed rhywfaint o arian i chi'ch hun hefyd.
Mae gan PDC gyllideb gynaliadwyedd penodol bob blwyddyn i fuddsoddi mewn effeithlonrwydd ynni a mentrau eraill. Rydym wedi buddsoddi mewn llawer o brosiectau sydd wedi lleihau ein defnydd o ynni ac allyriadau carbon ar draws ein hadeiladau a’n campysau gan gynnwys gosod goleuadau LED yn lle systemau goleuo aneffeithlon. Ariennir y goleuadau LED drwy fenthyciad SALIX ac mae’r goleuadau newydd yn cael eu defnyddio ar tua 85% o’n hystâd erbyn hyn. Rydym hefyd wedi gosod boeleri nwy effeithlon newydd, a gwell systemau rheoli adeiladau ymysg pethau eraill.
Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ynni adeiladau sy'n ein helpu i nodi mentrau a phrosiectau newydd ar gyfer arbed ynni ac rydym yn ymchwilio i ffyrdd newydd ac arloesol o ddefnyddio technolegau a rhoi mesurau ar waith sy'n darparu enillion ar fuddsoddiad.
Mae prinder dŵr yn dod yn fwyfwy cyffredin ledled y byd ac mae cadwraeth yr adnodd naturiol hwn yn hollbwysig o ran gwarchod yr amgylchedd a lleihau costau. Rydym wedi lleihau’r defnydd o ddŵr 21% ers 2018-19 drwy dargedu gollyngiadau a chyflwyno offer a thechnolegau dŵr effeithlon ar ledled ein campysau. Mae ein platfform mesuryddion yn rhan annatod o fonitro a mapio'r defnydd o ddŵr yn ein hadeiladau, sy'n golygu y gallwn dargedu meysydd sy'n peri problemau. Rydym hefyd yn derbyn rhybuddion proffil sy'n ein hysbysu pan fydd defnydd dŵr yn newid o'r lefelau disgwyliedig oherwydd gollyngiadau neu newid yn natur y defnydd.
Mae gennym danc ar gampws Parc Chwaraeon sy’n casglu dŵr glaw. Gellir defnyddio’r dŵr a gesglir yn y toiledau ac y bydd hyn yn atal dŵr yfed rhag cal ei wastraffu. Rydym yn ymchwilio i’r posibilrwydd o ddefnyddio’r cyfleuster hwn unwaith yn rhagor er mwyn lleihau ein galw ar seilwaith dŵr lleol.
Fel rhan o’n hymrwymiad i leihau poteli plastig untro, mae ffynhonnau dŵr yfed am ddim ar gael ledled PDC. Cofiwch gario potel ddŵr gyda chi er mwyn lleihau’r gwastraff plastig untro a gynhyrchir.
Rydym yn adrodd ein cynnydd ar leihau'n defnydd o ddŵr i'r Pwyllgor Cynaliadwyedd, ac i'r Bwrdd Gweithredol yn flynyddol. Mae’r grwpiau hyn yn cynnwys cynrychiolaeth o bob rhan o uwch dîm rheoli’r Brifysgol a myfyrwyr o Undeb y Myfyrwyr.
Mae gwaith PDC ar leihau’r defnydd o ynni a dŵr yn cefnogi Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig:
Nod 6: Dŵr Glân a Glanweithdra
Nod 7: Ynni Fforddiadwy a Glân
Nod 12: Defnydd a Chynhyrchu Cyfrifol
Nod 13: Gweithredu ar Hinsawdd