Ein Strategaeth

Cynyddu llwyddiant graddedigion

Rydym yn dod â’r tu allan i mewn gyda chwricwlwm sydd wedi’i gyd-greu gyda diwydiant, ac sy’n mynd i’r afael â heriau lleol a byd-eang. Mae ein graddedigion medrus yn bodloni anghenion cyflogwyr a’r gymdeithas.

Ein Strategaeth Amdanom ni
A group of students celebrating at graduation.

Drwy wella ein darpariaeth academaidd unigryw, datrysiadau dysgu gydol oes a’r gweithle, a dysgu, addysgu a phrofiad myfyrwyr trawsnewidiol, ein nod yw cynyddu llwyddiant ymhlith ein graddedigion i gyflawni’r canlyniadau gorau ar gyfer dysgwyr unigol.


Cynnig Academaidd Nodedig

Bydd ein portffolio yn canolbwyntio ar anghenion sgiliau myfyrwyr a chyflogwyr.

Ceir proses ddatblygu sydd â thystiolaeth dda a arweinir gan y farchnad, sy’n meithrin enw da mewn meysydd o gryfder ac mewn marchnadoedd sy’n tyfu ac yn datblygu, yn y DU ac yn rhyngwladol.

Bydd yn cael ei gyd-ddylunio gyda diwydiant, yn cael ei adnewyddu'n rheolaidd a'i gydnabod yn broffesiynol.

Bydd ein cwricwlwm yn sefydlu hunaniaeth broffesiynol a bydd yn gysylltiedig â heriau rhanbarthol, cenedlaethol a byd-eang.



Atebion Dysgu Gydol Oes a Datrysiadau Gweithle

Bydd cyfleoedd dysgu yn y gweithle proffesiynol estynedig a gwell, gan gynnwys prentisiaethau gradd.

Bydd cyfleoedd a modelau darparu DPP newydd, arloesol a hyblyg.

Bydd gennym ffocws cynyddol ar gyfleoedd dysgu cyfunol ac ar-lein i ymestyn cyrhaeddiad y farchnad.



Dysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr Trawsnewidiol

Bydd dysgu ar sail problemau a sail heriau yn cael ei wreiddio ym mhob rhaglen sy’n datblygu priodoleddau graddedigion, sef arloesi a menter, arweinyddiaeth, rheoli prosiectau, llythrennedd digidol, ymwybyddiaeth fasnachol a chyfathrebu.

Bydd dysgu rhyngddisgyblaethol mewn tîm yn cysylltu â phroblemau y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth, sy'n ysgogi camau gweithredu ac atebion.

Bydd ein cwricwlwm yn creu ymdeimlad dwfn o berthyn, ymgysylltu, rhwydweithio a balchder.

Bydd ymgysylltu â chyn-fyfyrwyr yn rhan annatod o fywyd myfyrwyr, yn enwedig mentora a chefnogi llwyddiant graddedigion.

Bydd gan fyfyrwyr lais cynhwysol yn natblygiad y cwricwlwm.