Ein hymdrechion yn erbyn caethwasiaeth fodern yn y gadwyn gyflenwi

Yn PDC, rydym yn credu mewn ysgogi newid cadarnhaol, nid yn unig o fewn ein campws ond o fewn ein cymunedau lleol a thu hwnt hefyd. Fel rhan o'n hymrwymiad i arferion moesegol a chyfrifoldeb cymdeithasol, rydym yn cymryd camau i frwydro yn erbyn pob math o gaethwasiaeth fodern a masnachu mewn pobl ar draws cadwyn gyflenwi ein sefydliad. Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae PDC yn cyhoeddi Datganiad Caethwasiaeth Fodern yn flynyddol, yn unol â’r Ddeddf Caethwasiaeth Fodern. 

Gallwch lawrlwytho copi o Ddatganiad Caethwasiaeth Fodern diweddaraf PDC yma.

Rydym yn llwyr gydnabod bod tryloywder yn hanfodol er mwyn mynd i’r afael â’r mater cymhleth hwn. Dyna pam yr ydym wedi ymrwymo i feithrin diwylliant agored ac atebol yn ein holl brosesau caffael drwyddynt draw. Rydym wedi ymrwymo i weithio'n agos gyda'n cyflenwyr a'n cydweithwyr i sicrhau tryloywder yn ein cadwyn gyflenwi a'r gallu i olrhain cynnyrch. I gefnogi'r ymrwymiad hwn, mae pob cyflenwr yn cael y cyfle i ddweud wrthym am eu busnes drwy ein porth NetPositives a gofynnir cwestiynau penodol iddynt am Gaethwasiaeth Fodern er mwyn galluogi tryloywder a llunio adroddiadau.

Mae addysg yn allweddol i ysgogi newid ystyrlon ac rydym wedi ymrwymo i godi ymwybyddiaeth a chefnogi ein cyflenwyr i weithredu. Rydym wedi datblygu canllawiau ar Gaethwasiaeth Fodern a chefnogi cyflenwyr i ddatblygu eu Datganiad Caethwasiaeth Fodern eu hunain. 

Mae ein hymrwymiad i frwydro yn erbyn caethwasiaeth fodern yn daith barhaus, ac rydym yn cydnabod bod mwy i’w wneud bob amser. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i welliant parhaus, gan adolygu a mireinio ein polisïau a’n harferion yn rheolaidd i sicrhau ein bod yn gwneud gwahaniaeth yn y frwydr yn erbyn pob math o gaethwasiaeth fodern.

Ein hymrwymiad i atal llwgrwobrwyo

Yn PDC, rydym yn gosod y safonau uchaf o onestrwydd ac ymddygiad moesegol i ni ein hunain. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau ymddiriedaeth, tryloywder ac atebolrwydd ym mhob agwedd ar ein gweithrediadau. Yn hynny o beth, rydym wedi ymrwymo i frwydro yn erbyn pob math o lwgrwobrwyo a llygredd. 

Rydym yn gweithredu polisi dim goddefgarwch tuag at lwgrwobrwyo a llygredd. Rydym yn gwahardd yn llwyr gynnig, ceisio, neu dderbyn llwgrwobrwyon o unrhyw fath, boed yn ariannol neu anariannol. Mae'r polisi hwn yn berthnasol i'r holl ryngweithio a thrafodion, o fewn PDC a'r tu allan iddi gyda phartneriaid a chyflenwyr. 

Rydym wedi ymrwymo i gynnal y safonau uchaf o ymddygiad moesegol a chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau atal llwgrwobrwyo perthnasol. Mae PDC wedi rhoi polisïau, gweithdrefnau a rheolaethau cynhwysfawr ar waith i atal, canfod ac ymateb i achosion o lwgrwobrwyo a llygredd. Rydym yn darparu hyfforddiant rheolaidd a sesiynau ymwybyddiaeth i addysgu ein staff am risgiau a chanlyniadau llwgrwobrwyo ac er mwyn eu grymuso i wneud penderfyniadau moesegol. 

Fel rhan o’n hymrwymiad i atal llwgrwobrwyo, os oes pryderon ynghylch unrhyw fath o gamymarfer yn y maes hwn, mae PDC wedi creu Polisi a Gweithdrefn Chwythu'r Chwiban sy’n manylu ar y broses i’w dilyn ac yn darparu amddiffyniad a chefnogaeth i chwythwyr chwiban sy’n datgelu gwybodaeth y maent yn credu’n rhesymol ei bod yn wir, a hynny er budd y cyhoedd. 

Ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Yn PDC, mae ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wedi’i ymwreiddio yn y ffordd rydym yn gweithredu fel Prifysgol. Fel rhan o Gynllun Cydraddoldeb Strategol ehangach PDC, mae'r tîm Caffael wedi ymrwymo i feithrin proses gaffael gynhwysol a theg sy'n adlewyrchu ac yn dathlu'r cymunedau amrywiol.

Mae ein Tîm Caffael yn gweithredu yn unol â Chynllun Cydraddoldeb Strategol PDC, sy’n amlinellu ein hymrwymiad i hyrwyddo cydraddoldeb, dathlu amrywiaeth, a meithrin diwylliant cynhwysol. Fel rhan hanfodol o’r cynllun hwn, mae Tîm Caffael PDC wedi ymrwymo i’r rôl yr ydym yn ei chynllunio i hyrwyddo egwyddorion Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant drwy ein harferion caffael a’n perthnasoedd gyda chyflenwyr.

Ein hymrwymiad i leihau allyriadau carbon

Yn PDC, rydym yn cydnabod yr angen dybryd i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd a lleihau ein hôl troed carbon. Fel rhan o strategaeth garbon gynhwysfawr PDC, mae'r tîm Caffael wedi ymrwymo i gymryd camau rhagweithiol i leihau allyriadau yn ein cadwyn gyflenwi. Drwy roi blaenoriaeth i gynaliadwyedd a chyfrifoldeb amgylcheddol yn ein harferion caffael, rydym wedi ymrwymo i ysgogi newid cadarnhaol a chyfrannu at ddyfodol mwy cynaliadwy. 

Mae allyriadau cwmpas 2 a 3 yn digwydd o ganlyniad i weithgareddau y tu hwnt i reolaeth uniongyrchol PDC, gan gynnwys y rhai sy'n gysylltiedig â chynhyrchu a chludo nwyddau a gwasanaethau y mae'r Brifysgol yn eu caffael. Er y gall yr allyriadau hyn fod yn heriol i’w mesur a’u rheoli, maent yn cynrychioli cyfran sylweddol o’n hôl troed carbon cyffredinol ac yn gyfle hollbwysig i leihau allyriadau. 

Mae Tîm Caffael PDC yn cydnabod yn llawn y rhan ganolog y mae caffael yn ei chwarae wrth gyflawni ein nodau lleihau carbon. Mae ein Tîm Caffael felly wedi ymrwymo i integreiddio ystyriaethau cynaliadwyedd ym mhob cam o gylch bywyd y broses gaffael, o ddewis cyflenwyr a rheoli contractau i ddarparu a gwaredu cynnyrch. Drwy flaenoriaethu cyflenwyr sy'n amgylcheddol gyfrifol a chynhyrchion cynaliadwy, ein nod yw lleihau effaith carbon ein gweithgareddau caffael a chyfrannu at ymdrechion cyffredinol i leihau allyriadau. 

Sut y gall Cyflenwyr ein Cefnogi? 

Rydym yn cydnabod na allwn gyflawni ein nodau cynaliadwyedd ar ein pen ein hunain, a bod angen cydweithio a chreu partneriaeth gyda'n cyflenwyr er mwyn gwneud hynny. Dyma rai ffyrdd y gall ein cyflenwyr gefnogi ein hymdrechion i gyflawni Sero Net:

  1. Cynllun Lleihau Carbon – Gall sefydliadau ddatblygu cynllun lleihau carbon ar gyfer eich sefydliad. Yma gallwch ddod o hyd i ganllawiau ar gyfer datblygu cynllun lleihau carbon os ydych yn cyflenwi'r Sector AU
  2. Cyfrifoldeb Amgylcheddol – Gall cyflenwyr flaenoriaethu cynaliadwyedd a chyfrifoldeb amgylcheddol yn eu gweithrediadau, gan gynnwys lleihau’r defnydd o ynni, lleihau gwastraff a gweithredu arferion ecogyfeillgar.
  3. Cynnyrch Arloesol – Caiff cyflenwyr eu hannog i ddatblygu a chynnig cynhyrchion ac atebion cynaliadwy sy’n cyfrannu at leihau allyriadau carbon drwy gydol oes y cynnyrch.
  4. Cydweithio ac Ymgysylltu – Caiff cyflenwyr eu hannog i ymgysylltu â PDC mewn deialog ystyrlon i gydweithio er mwyn nodi cyfleoedd i leihau allyriadau ac i archwilio atebion arloesol i heriau cynaliadwyedd. 

Tryloywder ac Adrodd – Caiff cyflenwyr eu hannog i ddarparu adroddiadau tryloyw a chywir ar effaith amgylcheddol eu cynhyrchion a’u gwasanaethau, gan gynnwys data allyriadau carbon i’w galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus a monitro perfformiad. Mae pob cyflenwr yn cael y cyfle i ddweud wrthym am eu busnes drwy ein porth NetPositives a gofynnir cwestiynau penodol iddynt am Leihau Carbon a Sero Net er mwyn galluogi tryloywder llunio adroddiadau.

Ein hymrwymiad i Werth Cymdeithasol

Yn PDC, credwn fod gan Gaffael y pŵer i ysgogi newid cymdeithasol cadarnhaol a chreu gwerth parhaol i’n cymuned a chenedlaethau’r dyfodol. Mae ein Tîm Caffael felly wedi ymrwymo i hyrwyddo gwerth cymdeithasol a hyrwyddo egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Drwy ein prosesau Caffael, ein nod yw cael effaith ystyrlon ar gymunedau Cymru a chyfrannu at sicrhau dyfodol cadarnhaol a chynaliadwy i bawb. 

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn garreg filltir ddeddfwriaethol yng Nghymru sy’n ein hannog i ystyried effaith hirdymor ein penderfyniadau ar lesiant cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Fel tîm Caffael, rydym yn arddel egwyddorion y Ddeddf yn llwyr ac rydym wedi ymrwymo i’w hintegreiddio yn ein harferion caffael. 

Fel rhan o’n hymrwymiad i werth cymdeithasol, ac yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae Tîm Caffael PDC wedi datblygu a gweithredu Matrics Gwerth Cymdeithasol sydd wedi’i gynnwys mewn tendrau perthnasol i werthuso a mesur effaith gymdeithasol prosiectau caffael. 

Mae’r matrics yn cwmpasu ystod o arwyddion gwerth cymdeithasol yn unol â 7 thema Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac mae’n cynnwys mesurau i ddangos ymrwymiad cyflenwyr i ymgysylltu â’r gymuned, creu swyddi, datblygu sgiliau, cynaliadwyedd amgylcheddol a chynhwysiant cymdeithasol. 

Mae'r matrics hwn yn galluogi ein Cyflenwyr i gyfrannu at ein nodau gwerth cymdeithasol ac yn eu hannog i osod targedau ar gyfer cyflawni gwerth cymdeithasol y gellir wedyn eu monitro ac adrodd yn eu herbyn drwy gydol oes y contract. 

Ein safonau i gyflenwyr

Yn PDC, rydym wedi ymrwymo i gynnal y safonau uchaf o onestrwydd, cynaliadwyedd ac ymddygiad moesegol ym mhob agwedd ar ein gweithrediadau, gan gynnwys Caffael. 

Fel rhan o'n hymrwymiad i gaffael yn gyfrifol a datblygu cynaliadwy, rydym wedi datblygu Cod Ymddygiad i Gyflenwyr sy'n cyd-fynd â Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig, cod sylfaen y Fenter Masnachu Moesegol (ETI) a Chonfensiynau y Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO). Nod y Cod Ymddygiad hwn i Gyflenwyr yw darparu set glir o safonau ar gyfer ein cyflenwyr a hyrwyddo gwerthoedd a rennir, sef uniondeb, parch a chynaliadwyedd. 

Mae Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig yn darparu glasbrint ar gyfer bydoedd mwy cynaliadwy a theg, gan fynd i’r afael â heriau byd-eang megis tlodi, anghydraddoldeb, newid yn yr hinsawdd a diraddio amgylcheddol. Yn PDC, rydym yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod ein harferion caffael yn cyd-fynd â'r Nodau Datblygu Cynaliadwy er mwyn cyfrannu at gyflawni’r nodau uchelgeisiol hyn. 

Mae ein Cod Ymddygiad i Gyflenwyr yn adlewyrchu ein hymrwymiad i'r egwyddorion a'r gwerthoedd a ymgorfforir yn y Nodau Datblygu Cynaliadwy. Mae’n nodi disgwyliadau clir ar gyfer cyflenwyr mewn meysydd fel:

  1. Cyfrifoldeb Cymdeithasol  
  2. Amgylchedd Gwaith a Thelerau
  3. Cydymffurfiaeth Foesegol a Datblygiad Economaidd
  4. Cyfrifoldebau Amgylcheddol

Mae'n ofynnol i bob Cyflenwr sy'n gweithio gyda Phrifysgol De Cymru lofnodi ein Cod Ymddygiad i Gyflenwyr fel un o amodau gwneud busnes â ni. Drwy lofnodi'r cod, mae cyflenwyr yn ymrwymo i gynnal ei egwyddorion a chydymffurfio â'i ofynion yn eu holl ryngweithio â PDC. 

Yn PDC, credwn fod caffael cyfrifol yn hanfodol ar gyfer cyflawni ein nodau cynaliadwyedd a chreu effaith gymdeithasol ac amgylcheddol gadarnhaol. Drwy ein Cod Ymddygiad i Gyflenwyr, rydym yn ceisio hyrwyddo arferion busnes moesegol, meithrin cadwyni cyflenwi cynaliadwy a chyfrannu at hyrwyddo Nodau Datblygu Cynaliadwy. Gyda’n cyflenwyr, gallwn ysgogi newid cadarnhaol, gwella tryloywder a chreu gwerth parhaol.

Ein hymrwymiad i Gymru a Busnesau Bach

Yn PDC, rydym yn cydnabod y rôl bwysig y mae busnesau bach a chanolig (BBaChau) yn ei chwarae o ran ysgogi twf economaidd, meithrin arloesedd, a chreu swyddi yn ein cymuned leol. Fel rhan o'n hymrwymiad i ddulliau caffael cyfrifol a datblygu cynaliadwy, mae Tîm Caffael PDC wedi ymrwymo i gefnogi BBaChau a meithrin ein cadwyn gyflenwi leol - Rydym yn ymdrechu i gynyddu i'r eithaf y cyfleoedd i BBaChau. 

Rydym yn deall mai BBaChau yw asgwrn cefn ein heconomi a'u bod yn cynrychioli cyfran sylweddol o fusnesau yn ein cymuned. Maent yn cyflwyno amrywiaeth, ystwythder a chreadigrwydd i'r farchnad, gan ysgogi arloesedd a chystadleuaeth. Drwy gefnogi BBaChau, yn ogystal ag ysgogi twf economaidd, rydym hefyd yn creu amgylchedd mwy gwydn a chynhwysol sydd o fudd i bob rhanddeiliad. 

Yn PDC, rydym wedi ymrwymo i roi chwarae teg i BBaChau a chynyddu eu cyfranogiad yn ein prosesau caffael. Mae ein Tîm Caffael wedi cyflwyno sesiwn Cymorth i Ysgrifennu Tendrau yn ddiweddar i BBaChau lleol ac mae gennym nifer o ganllawiau i gefnogi BBaChau i gyflawni rhai o’r mentrau allweddol megis Caethwasiaeth Fodern a Chynlluniau Lleihau Carbon. Ein nod yw grymuso BBaChau i ymateb yn effeithiol i'n cyfleoedd caffael ac i allu cystadlu ar lefel gyfartal gyda chyflenwyr mwy.  

Fel Tîm Caffael, rydym yn falch o adrodd bod 68% o Wariant Caffael PDC yn ein blwyddyn ariannol ddiwethaf wedi’i gyfeirio at BBaChau, gyda 44% yn cael ei wario gyda Chyflenwyr Cymreig. Mae'r buddsoddiad sylweddol hwn yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi BBaChau a chynyddu eu cyfranogiad yn ein cadwyn gyflenwi. Rydym yn ymrwymedig i barhau i chwilio am gyfleoedd i weithio gyda BBaChau. 

Ymgysylltu a Datblygu ein Cyflenwyr

Fel rhan o'n hymrwymiad i ddulliau caffael cyfrifol, mae tîm Caffael PDC yn defnyddio NETPositive, llwyfan ymgysylltu â chyflenwyr, i rymuso ein cyflenwyr i rannu eu cynnydd ar fetrigau cynaliadwyedd allweddol. Nod y dull hwn yw annog tryloywder, atebolrwydd a gwelliant parhaus ar draws ein cadwyn gyflenwi. 

Drwy NETPositive, mae cyflenwyr yn cael y cyfle i adrodd a datblygu cynlluniau gweithredu ar fetrigau cynaliadwyedd allweddol megis Caethwasiaeth Fodern, Carbon a mentrau cyfrifoldeb cymdeithasol eraill. Mae hyn yn caniatáu i PDC gael darlun o berfformiad ein Cyflenwyr mewn perthynas â chynaliadwyedd ac olrhain cynnydd dros amser.